Gweithgareddau a phethau i’w gwneud gartref
Mae KeyCreate yn cynnal gweithdai creadigol ac addysgol cyffrous pwrpasol, hyfforddiant, a chwarae cynhwysol ar gyfer pobl ag anableddau ledled De Cymru.
Rydyn ni wedi mynd â’n cylchoedd chwarae cynhwysol ar-lein! Rydyn ni’n defnyddio Zoom i helpu teuluoedd i aros yn llawen ac yn gysylltiedig. Mae croeso i chwaraewyr o bob oed a gallu. Ymunwch â ni am sesiwn adrodd stori synhwyraidd. Byddwn yn adrodd stori wahanol bob wythnos gyda cherddoriaeth, symud ac archwilio synhwyraidd.
Cliciwch yma i edrych ar eu tudalen Facebook.
Cliciwch yma i archebu eich lle ar y sesiwn storïol synhwyraidd nesaf.

