Polisi Preifatrwydd Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

 

Cynlluniwyd y Polisi Preifatrwydd hwn i hysbysu defnyddwyr gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd o sut y caiff eu data ei brosesu ac o’u hawliau ynglŷn â diogelu data.

 

Pa ddata personol rydym yn ei brosesu?

Er mwyn ein galluogi i ddarparu ein gwasanaethau i chi, bydd angen i ni gasglu a phrosesu eich data personol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill;

  • Eich enw
  • Eich gwybodaeth gyswllt, fel eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn
  • Gwybodaeth amdanoch chi a/neu’ch teulu, sy’n ofynnol er mwyn darparu’r gwasanaeth i chi. Er enghraifft; unrhyw help a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi a/neu ar eich teulu ac unrhyw bryderon sydd gennych amdanoch eich hun a/neu am eich teulu.

Mae’r data Categori Arbennig a gasglwn yn cynnwys;

  • Hil/Tarddiad Ethnig
  • Gwybodaeth iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl
  • Gwybodaeth ddemograffig, a all gynnwys gwybodaeth am aelodau o’r teulu a’r ardal y maent yn byw ynddi, lle bo angen hynny ar wasanaeth perthnasol
  • Rhywedd

Caiff y wybodaeth hon ei chasglu er mwyn darparu cymorth perthnasol i chi a/neu eich teulu.

Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau’r teulu neu bobl ddibynnol, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.

 

Sut rydym yn cael eich data personol?

Gallwn gasglu eich data personol yn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol;

  • Rydym yn cael eich data personol gennych chi eich hun. Bydd hyn ar ffurf ffurflenni atgyfeirio a sgyrsiau gyda chi.
  • Rydym yn cael eich data personol gan unrhyw weithwyr proffesiynol allweddol sy’n gweithio gyda chi, fel gweithwyr iechyd, Gwasanaethau plant ac addysg proffesiynol. Bydd hyn ar ffurf ffurflenni atgyfeirio a sgyrsiau gyda gweithwyr proffesiynol allweddol.

 

Pam mae angen eich data personol arnom?

Byddwn yn defnyddio eich data personol at un o’r rhesymau canlynol:

  • I ddarparu help a chymorth i chi a/neu eich teulu
  • I ddeall pa gymorth sydd ei angen arnoch chi a/neu eich teulu
  • I gynnig cyngor i chi a/neu eich teulu ynghylch eich pryderon

 

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich data yw;

Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu o dan Erthygl 6 (1) (e) GDPR y DU sy’n golygu y byddwn yn prosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swydd fel corff cyhoeddus.

Mewn rhai amgylchiadau, bydd gofyn i ni brosesu gwybodaeth am darddiad Hiliol/Ethnig unigolyn a gwybodaeth am iechyd corfforol a/neu feddyliol unigolyn. Caiff hyn ei ystyried yn ddata categori arbennig a chaiff ei brosesu o dan Erthygl 9 (2) (h), neu Erthygl 9 (2) (g) â chefnogaeth bellach gan y ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010; adran 149
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Y Mynegai

Pan fyddwch yn cofrestru gyda’r Mynegai byddwch yn derbyn gwybodaeth reolaidd am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol a’u teuluoedd.  Bydd cofrestru hefyd yn rhoi’r cyfle i chi helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau newydd yng Nghaerdydd.

I ddarparu gwybodaeth i chi am y gwasanaethau a gynigir, byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i dderbyn e-byst.  Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â YMynegai@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio’r Tîm Porth Teuluoedd ar 03000 133 133.

Os byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl, byddwn yn tynnu eich data personol oddi ar y Mynegai ac ni fyddwch yn derbyn gwybodaeth gennym mwyach at y diben hwn.

Sefydliadau y gallwn ni rannu eich data personol â nhw

Er mwyn darparu ein gwasanaethau i chi, efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol gyda sefydliadau eraill.  Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i;

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Sefydliadau, cyrff, gweithwyr a gofalwyr a all helpu a chefnogi eich anghenion o bosibl
  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Dechrau’n Deg
  • Cymorth Cynnar
  • Gwasanaethau mewnol eraill y Cyngor efallai y bydd angen i ni rannu eich data personol â nhw er mwyn darparu’r gwasanaeth i chi.

 

Sut yr ydym yn storio eich data personol?

Bydd eich data personol yn cael ei storio’n ddiogel ar ein system rheoli achosion ddiogel (Care First).

 

Am ba hyd byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd eich data personol yn cael ei gadw yn unol ag Erthygl 5 (e)  GDPR ac ni chedwir data personol yn hwy nag sy’n angenrheidiol.

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.

 

Beth yw eich hawliau?

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

Eich hawl mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Eich hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.

Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni drwy HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk os hoffech wneud cais.

 

Sut i wneud cwyn a sut i gysylltu â Diogelu Data

Os hoffech gwyno am y ffordd y mae eich data personol wedi’i brosesu neu os hoffech ofyn am ragor o wybodaeth am brosesu eich data personol, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â Diogelu Data:

Swyddog Diogelu Data

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth

Neuadd y Sir

Glanfa’r Iwerydd

Caerdydd

CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk

 

Mae gennych hawl i wneud cwyn hefyd i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Swydd Gaerllion

SK9 5AF

Rhif llinell gymorth:  0303 123 1113

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: https://www.ico.org.uk

Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ar: 14.03.2022

Mae’r ffurflen hon ar gael yn Saesneg / This form is available in English.”