Mae 21 Mawrth 2022 yn foment hanesyddol i blant a’u hawliau yng Nghymru.
O’r diwrnod hwn ymlaen, bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Croeso i Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gall y tîm roi gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r y canlynol:
- Bywyd teuluol
- Ymddygiad plant
- Ofal Plant
- Cymorth rhianta
- Presenoldeb Ysgol
- Cyflogaeth, arian a thai
- Gwybodaeth a chyfeirio at wasanaethau eraill
Porth i Deuluoedd Caerdydd
Mae’r Porth i Deuluoedd yn fan cyswllt i unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, plentyn neu berson ifanc i gael y wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ei angen yng Nghaerdydd.
Mae Swyddogion Cyswllt y Porth i Deuluoedd ar gael i wrando ar eich sefyllfa, adnabod pa gefnogaeth sydd orau i chi a helpu chi i gael mynediad ati.
Gall y tîm Porth i Deuluoedd helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau cefnogaeth gan gynnwys cyngor ariannol, tai, budd-daliadau lles, ymddygiad plant, gofal plant, presenoldeb yn yr ysgol, iechyd a lles, cymorth rhieni a llawer mwy.
Mae’r Porth i Deuluoedd yn gweithio ochr yn ochr ac yn cyfeirio’n uniongyrchol at Helpu Teuluoedd a Chymorth i Deuluoedd pan a lle bo ar deuluoedd angen cefnogaeth bellach
Cysylltwch â Porth y Teulu ar 03000 133 133, trwy e-bost CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk neu’r cyfryngau cymdeithasol.
Darganfyddwch fwy ar Porth i Deuluoedd Caerdydd.
Tîm Helpu Teuluoedd Caerdydd
Mae Tîm Helpu Teuluoedd Caerdydd yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth o safon i blant a phobl ifanc rhwng 0-18 oed (neu hyd at 25 oed yn achos person ifanc agored i niwed) a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd.
Yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantau cymunedol a phartneriaeth lleol, mae’r tîm yn gallu teilwra cefnogaeth i’r anghenion niferus sydd gan deuluoedd bob dydd, gan gynnig help byrdymor (fel arfer 6-12 wythnos).
Nod y tîm yn cwrdd â theuluoedd mewn lle y mae’n nhw’n gyfforddus yno, efallai yn y cartref, yr Hyb lleol neu ysgol os yw hyn yn well.
Cefnogi Teuluoedd
Gall y Gwasanaeth Cefnogaeth i Deuluoedd weithio gyda theuluoedd sy’n wynebu materion mwy cymhleth.
Gall Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd a Gweithwyr Cymdeithasol weithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc i gael yr atebion cywir ar eu cyfer nhw a’u teuluoedd, megis:
- Darpariaeth uniongyrchol o wahanol raglenni wedi eu seilio ar dystiolaeth i deuluoedd
- Rhoi cymorth a chefnogaeth ymarferol
- Bod yn weithiwr allweddol ar gyfer teulu
- Cynghori ar ystod o wasanaethau yn y gymuned
- Asesiadau Cyflawn Seiliedig ar y Teulu a chynlluniau cymorth
Rhianta Caerdydd
Mae Rhianta Caerdydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i rieni a theuluoedd ar draws Caerdydd gyda chyfleusterau crèche ar gael. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- GroBrain
- Rhaglen Magu Plant
- Cryfhau Teuluoedd
- Rhieni’n Gyntaf (dan arweiniad seicoleg 1:1 cymorth rhieni)
Darganfyddwch fwy ar Rhianta Caerdydd
Ein partneriaid
Ewch i wefannau ein partneriaid am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gyfer Teuluoedd Caerdydd.