Gweithgareddau plant a phobl ifanc

Dewch o hyd i wybodaeth a chyngor ar gyfer plant a phobl ifanc.

Beth Nesaf? Eich Bywyd. Eich Dyfodol.

 Gwefan i bobl ifanc, sy’n cynnal darpariaeth a chyfleoedd sydd ar gael yng Nghaerdydd.

“Bobl ifanc Caerdydd! Ydych chi a’ch ffrindiau wedi drysu ynglŷn â’r dyfodol? Fel Brandon, gallwch ddysgu am gyfleoedd cyffrous i bobl ifanc ar wefan ‘Beth Nesaf?’ www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gallu cael mynediad i’r gwasanaeth iawn ar yr amser iawn.

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac rydych dan 25 oed, mae Cymorth a Chefnogaeth Teuluoedd Caerdydd yn cynnig gwasanaeth am ddim gan roi cymorth, arweiniad a gwybodaeth i bobl ifanc.

Bydd staff y gwasanaeth yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud, a gallant gynnig cymorth uniongyrchol neu bydd yn eich galluogi i ddod o hyd i’r gwasanaeth gorau i chi.

Os byddwch yn cysylltu â ni, byddwn ni’n trafod eich pryderon â chi a naill ai’n gweithio gyda chi a’ch teulu yn uniongyrchol neu’n eich rhoi mewn cysylltiad â’r gwasanaeth sy’n iawn i chi.

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn rhoi gwybodaeth, cyngor neu gymorth i chi mewn perthynas â’r canlynol:

Gwasanaeth dynodedig yw Rise sy’n cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol arbenigol i blant a phobl ifanc y mae trais/cam-drin domestig yn effeithio arnynt.

Mae Fearless yn wasanaeth sy’n eich galluogi i roi gwybod am drosedd mewn ffordd sydd 100% yn anhysbys. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi roi unrhyw fanylion personol.

Heddlu de Cymru

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am fod yn ddiogel yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Mind Hub, a grëwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’n darparu gwybodaeth a chysylltiadau â gwasanaethau mewn perthynas â’ch iechyd a’ch lles emosiynol.

Mae Change Grow Live yn elusen sy’n cefnogi pobl i newid eu bywydau er gwell.

“Rhywun ar eich ochr chi.” Llinell gymorth Gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am les plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru.

Gwasanaeth iechyd rhywiol a pherthnasoedd arbenigol a chyfrinachol wedi’i deilwra i bobl ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am iechyd plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwch-sgilio. Does dim angen i chi fod allan o waith i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

I Geiswyr Gwaith – Rydym yn cynnig cymorth un i un a gwasanaeth mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn lleol a chyfleoedd gwirfoddoli. Manteisiwch ar gymorth gan 20 o leoliadau gwahanol yng Nghaerdydd.

Mae gennym dîm ieuenctid arbenigol sy’n helpu pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd â mentoriaid arbenigol i roi cymorth un i un i ddod o hyd i brofiad gwaith, swyddi a hyfforddiant.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Cyflogaeth yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Help gyda rheoli eich arian a’ch dyledion.

Gall delio â materion ariannol beri dryswch, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisi’n gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu’ch cael eich i ddyled.

Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, gallwn gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, cynyddu incwm a rheoli dyledion.

Mae hybiau’n cynnig nifer o wasanaethau dan un to o gyngor, budd-daliadau a thai yn ogystal â digwyddiadau, hyfforddiant a mynediad i’r rhyngrwyd.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Arian yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Mae Senedd Ieuenctid y DU yn galluogi pobl ifanc i ddefnyddio eu hegni a’u brwdfrydedd i newid y byd er gwell.

Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn tynnu sylw at faterion ac yn eu trafod ar lefel genedlaethol, gan gasglu barn pobl ifanc o bob rhan o Gymru a gweithio gyda’r rheiny sydd â’r pŵer i wneud newidiadau.

Y rhwydwaith swyddogol ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd, sy’n hybu newid cadarnhaol i wneud Caerdydd yn lle gwell i fyw, gweithio a chwarae.

Llwyfan i lais plant a phobl ifanc gael ei glywed ac i gyfeirio a dylanwadu ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd a phrofiadau diddorol, heriol a chreadigol. Rydym yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial unigryw.

Os ydych rhwng 18 a 21 oed ac mewn perygl o ddigartrefedd gallwch gael gafael ar gymorth arbenigol yn ein Porth Llety Pobl Ifanc:

Cardiff Council dragon logo

Cefnogir Tai Caerdydd gan Gyngor Caerdydd a Chymdeithasau Tai Caerdydd, Cadwyn, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Hafod, Linc, Newydd, Cymdeithas Tai Taf, Unedig Cymru a Thai Wales & West. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth am lety rhent a fforddiadwy yng Nghaerdydd, gan gynnwys Rhestr Aros Tai Caerdydd, Cynlluniau Perchnogaeth Cartref â Chymorth a Llety Rhent Preifat. Mae’n ceisio helpu’r rheini sy’n edrych am dŷ i wneud gwahaniaeth am yr opsiwn mwyaf addas iddyn nhw.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Tai yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Eisiau gwybod beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd? Oes pethau hoffet ti eu gweld? Ddim yn gwybod ble mae’r parc agosaf, y clwb chwaraeon, cyfle gwirfoddol?

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd ar Dewis Cymru

Adnoddau