Gwasanaeth Lles Teuluoedd

Mae’r Gwasanaeth Lles Teuluol yn cynnig ymyrraeth gynnar a chymorth i deuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd gyda phlentyn hyd at 25 oed sydd ag angen a nodwyd ar gyfer cymorth o ran iechyd a lles emosiynol a meddyliol ond sydd o dan y lefel lle byddai gennych hawl i wasanaeth iechyd arbenigol a/neu ofal a chymorth statudol.

Pa gymorth a gynigir?

Rydym yn gweithio gyda Phlant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn teuluoedd neu gyda’r grŵp teulu yn gyffredinol. Mae’r dull hyblyg hwn yn ein galluogi i weithio ar eich cyflymder chi. Rydym yn gallu asesu a defnyddio’r ymyriad mwyaf priodol ar yr adeg fwyaf priodol i chi.

Rydym yn rhoi amrywiaeth o gymorth unigol, gan gynnwys:

Cwnsela

Therapi

Cymorth unigol gan ymarferydd teulu

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth gwaith grŵp a allai gynnwys:

Ochr yn Ochr – grŵp sy’n para am 3-4 wythnos. Mae’n addas ar gyfer Plant/pobl ifanc 6-10 oed a’u teuluoedd. Mae ar gyfer y rhai sy’n cael anhawster gyda pherthnasoedd ag aelodau teulu/cyfoedion, sgiliau emosiynol a sgiliau cymdeithasol. Gellir ei ddefnyddio lle bu digwyddiad arwyddocaol megis colled, profedigaeth neu drawma ac mae’n seiliedig ar y pum ffordd i les. Mae grwpiau plant, pobl ifanc ac oedolion ar wahân sy’n cael eu cynnal ar yr un pryd ac mae sesiwn i deuluoedd sy’n dwyn y plant, y bobl ifanc a’r oedolion ynghyd.

 

Mae ‘Muddles, Puddles and Sunshine’ yn grŵp profedigaeth a cholled sy’n para am 6 wythnos. Mae ar gyfer y rhai sydd wedi colli anwyliaid ac mae’n cael ei gyflwyno i grwpiau bach o 4 plentyn/person ifanc oherwydd natur y grŵp.

 

Mae Ymdopi â Phrofedigaeth a Cholled yn cynnwys sesiynau grŵp sy’n para hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Mae’n grŵp sy’n cael ei gynnal ar achlysuron arbennig megis amser Nadolig ac sy’n edrych ar wahanol ffyrdd o ymdopi â’r teimladau mae plant yn dweud wrthyn ni eu bod yn eu profi ar ôl marwolaeth ar yr adegau hyn.

 

Mae Therapi Celf yn grŵp sy’n para am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant/pobl ifanc 11+ oed ac yn cynnig lle creadigol i fynegi emosiynau anodd a phryderon sylfaenol. Gan ddefnyddio deunyddiau celf i ddangos iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill sut maen nhw’n teimlo.

 

Mae Bounce yn grŵp sy’n para am 7 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 7-11 oed ac yn cael ei gynnig i grwpiau o 6 yn ystod y diwrnod ysgol. Mae Bounce yn grŵp ar gyfer plant sydd wedi cael profiad o deulu wedi’i chwalu ac a allai fod yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’u rhieni’n gwahanu a cholli aelod o’u teulu o ganlyniad (rhiant, brawd/chwaer, mam-gu/tad-cu, ac ati). Yn aros ar hyn o bryd oherwydd Covid-19

 

Mae Bright Stars yn grŵp sy’n para am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 7-11 oed ac yn cael ei gynnig i grwpiau o 6 yn ystod y diwrnod ysgol.  Bydd pob aelod o’r grŵp wedi’i nodi’n un sydd â hunan-barch isel neu ddiffyg hyder. Yn aros ar hyn o bryd oherwydd Covid-19

 

Mae Friendship Circle yn grŵp sy’n para am 7 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 7-11 oed ac yn cael ei gynnig i grwpiau o 6 yn ystod y diwrnod ysgol. Mae pob aelod o’r grŵp wedi’i nodi’n un sy’n cael anawsterau gwneud a chadw ffrindiau. Yn aros ar hyn o bryd oherwydd Covid-19

 

Mae Girls’ Talk yn grŵp sy’n para am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 9-11 oed ac yn rhoi gwybodaeth ffeithiol ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â thyfu i fyny.

 

Mae Happening yn grŵp sy’n para am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 12-15 oed ac yn cael ei gynnig i grwpiau o 6 yn ystod y diwrnod ysgol.   Bydd pob aelod o’r grŵp wedi’i nodi’n un sydd â lles emosiynol isel, anawsterau o ran rheoleiddio emosiynau, hunan-barch isel, a diffyg hyder, neu anawsterau gwneud a chadw ffrindiau. Yn aros ar hyn o bryd oherwydd Covid-19

 

Mae Reboot yn grŵp sy’n para am 7 wythnos Mae’n addas ar gyfer plant sy’n dioddef gorbryder ac yn helpu i ddysgu technegau i ymdopi â’r pryderon hyn.

Sut i wneud atgyfeiriad?

Gwneir atgyfeiriadau i’n gwasanaeth trwy Borth Cymorth Cynnar Caerdydd, ffonio 03000 133 133 neu ar ei wefan. Bydd ymgynghorwyr cyswllt yn eich helpu i gael y cymorth iawn i chi a’ch teulu chi.

I gael rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost i: cardifffamilywellbeing@barnardos.org.uk neu ffoniwch 02920 577074