Mynegai Plant a Phobl Ifanc ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol
Y Mynegai yw cofrestr wirfoddol Caerdydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol. Gan weithio ochr yn ochr ag ystod o wasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol, mae’n sicrhau bod teuluoedd plant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am wybodaeth sy’n berthnasol ac yn fuddiol iddynt. Yn ogystal, mae’n cynorthwyo i gynllunio a chydlynu gwasanaethau sy’n cefnogi’r plant, y bobl ifanc hynny a’u teuluoedd.
Gallwch gofrestru â’r Mynegai os ydych yn:
- Rhiant/gofalwr i blentyn neu berson ifanc 0 – 25 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol sy’n byw yng Nghaerdydd
- Gweithio’n broffesiynol gyda phlant neu bobl ifanc 0 – 25 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol
Er mwyn bod ar y Mynegai, rhaid i blentyn neu berson ifanc fod yn:
- 0 – 25 oed
- Ag anabledd wedi’i ddiagnosio, sydd wrthi’n cael ei ddiagnosio neu sydd ag anghenion ychwanegol parhaus a gadarnhawyd
Ar ôl ymuno â’r Mynegai byddwch yn derbyn e-newyddion y Mynegai – e-byst rheolaidd sy’n darparu gwybodaeth am gwasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau.
Sut i gofrestru â’r Mynegai?
Os ydych yn weithiwr proffesiynol, a hoffem gael ei ychwanegu at restr bostio Y Mynegai, anfonwch e-bost: YMynegai@caerdydd.gov.uk
I gyflwyno erthygl ar gyfer bwletinau’r mynegai, cysylltwch â YMynegai@caerdydd.gov.uk
Pontio: Dechrau Cynllunio ar gyfer Fy Nyfodol
Pan fyddwch yn 14 oed, bydd rhaid i chi ddechrau meddwl am eich dyfodol a’r hyn yr hoffech ei wneud wrth adael yr ysgol. Efallai byddwch yn dymuno mynd i’r coleg, cwblhau hyfforddiant neu gael swydd. Gall fod angen cymorth arnoch i barhau i ddysgu gwneud pethau drosoch chi eich hun pan fyddwch allan yn y gymuned neu efallai y bydd angen i chi gael eich cefnogi mewn man lle cewch gymorth gyda’ch gofal corfforol, er enghraifft. Weithiau, gallai fod yn anodd gwneud dewisiadau ond gall hyn hefyd fod yn amser cyffrous, ac mae llawer o bobl eraill yn ogystal â phobl yn yr ysgol a all eich helpu.
Er enghraifft:
- Gall Cynghorydd Gyrfaoedd gynnig lawer o syniadau i chi a rhoi gwybod am y dewisiadau sydd ar gael yn eich ardal chi pan fyddwch yn gadael yr ysgol;
- Gall staff y Coleg hefyd roi gwybod i chi pa gyrsiau sydd ganddynt os hoffech fynd i’r coleg. Gallant hefyd drefnu ymweliadau i chi gael gweld sut beth ydyw;
- Gallech gael cymorth hefyd gan rywun sy’n gallu siarad am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr a helpu gyda phethau newydd i’w gwneud wrth i chi dyfu’n hyˆn.
Dyma rai o’r pethau (opsiynau) y gallech fod eisiau eu gwneud yn y dyfodol:
- Aros yn yr ysgol ar ôl i chi droi’n 16 oed • Gwneud ceisiadau am swyddi
- Cofrestru gydag asiantaeth cyflogaeth â chymorth (gall eich ysgol ddweud wrthych am y rhain)
- Mynd i’r coleg
- Ymuno â rhaglen hyfforddi
- Mynychu gwasanaeth dydd
- Cael cymorth yn y gymuned
- Cael rhywfaint o brofiad gwaith neu waith gwirfoddol i’ch helpu i gael swydd gyflogedig yr hoffech ei wneud yn y dyfodol
- Paratoi i fyw oddi cartref
Bydd cynllunio ar gyfer eich dyfodol yn dechrau ym mlwyddyn 9 sy’n amser hir cyn i chi adael yr ysgol. Os oes gennych Ddatganiad o AAA, bydd y diagram isod yn dangos i chi beth ddylai ddigwydd i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw.
Creu Cynllun ar gyfer fy nyfodol
Gellir gweld y fideo (Cynllunio ar gyfer Eich Dyfodol: Fideo Cynlluniau Pontio) yma hefyd.
Mae cynllunio ar gyfer eich dyfodol yn dechrau pan fyddwch chi ym mlwyddyn 9 sef y flwyddyn rydych chi’n troi’n 14 oed. Cynllunio Pontio yw’r enw ar hyn ac mae’n amser pan fydd pobl yn dod at eich gilydd i’ch helpu chi i gynllunio:
- Sut rydych chi am gael eich cefnogi wrth i chi dyfu i fyny; a
- Beth rydych chi am ei wneud pan fyddwch chi’n hŷn.
Er mwyn eich cefnogi chi i gyflawni’ch nodau ar gyfer y dyfodol, bydd ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro yn dechrau defnyddio ‘Fy Nghynllun ar gyfer fy Nyfodol’ yn fuan yn eich cyfarfod adolygu blynyddol o’ch Datganiad o AAA (os oes gennych chi un) neu gynllun dysgu arall yr ydych chi sydd angen ei adolygu bob blwyddyn. Byddant yn defnyddio hwn o flwyddyn 9 i’ch helpu chi i ddechrau llunio’ch cynllun ar gyfer eich dyfodol, a byddant yn ei wirio bob blwyddyn i sicrhau ei fod yn gweithio i chi hyd nes i chi adael yr ysgol.
Bydd eich cynllun ar gyfer eich dyfodol yn cael ei ddefnyddio gan yr holl bobl sy’n eich cefnogi chi, fel yr Ysgol, Coleg, Teulu, Ysbyty a gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Gwneir eich cynllun mewn ffordd sy’n hawdd i chi ei ddeall a bydd yn dweud:
- Pwy ydych chi
- Pa Wybodaeth y mae angen i bobl ei wybod i’ch cefnogi (Weithiau gelwir hyn yn eich Un Tudalen Proffil)
- Eich dymuniadau a’ch teimladau am yr hyn yr hoffech ei wneud pan fyddwch yn tyfu i fyny
- Sut rydych chi’n mynd i gael eich cefnogi i’ch helpu chi i gyrraedd eich nodau wrth i chi dyfu i fyny
- Pwy sydd angen eich cefnogi chi
- Beth sydd angen i bobl ei wneud i’ch cefnogi wrth i chi dyfu i fyny
- Pwy yw eich gweithiwr allweddol trosglwyddo (bydd hwn yn rhywun a fydd yn sicrhau bod eich cynllun yn rhedeg yn esmwyth ac yn helpu os oes unrhyw broblemau ag ef, gallant hefyd eich helpu i gynllunio ar gyfer eich cyfarfodydd cynllunio trosglwyddo).
- Beth yw eich barn chi am eich cynllun
- Pryd mae angen gwirio’ch cynllun i weld a yw’n eich helpu chi ac a oes angen ei newid
- Gyda phwy yr hoffech chi rannu’ch cynllun.
Cadwch lygad am wybodaeth mewn rhifynnau o’r mynegai sydd ar ddod am help y gallwch chi a’ch teulu ei gael i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed wrth gynllunio ar gyfer eich dyfodol.
Os ydych chi yn eich blwyddyn olaf o ysgolion a bod gennych anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a bod gennych Ddatganiad o Angen Addysgol (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (IDP) gall ein tîm trosglwyddo ymroddedig eich helpu i symud o’r ysgol i’r coleg.
Rydym yn deall bod symud o’r ysgol i’r coleg yn amser pwysig ac y gallech fod yn bryderus neu’n nerfus ynghylch symud ymlaen o’r ysgol. Gallwn ddarparu cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn ac yn ystod gwyliau’r haf i’ch helpu chi ar eich taith i’r coleg.
Gall ein tîm cyfeillgar:
- Cynnig cyngor ac arweiniad ar ddewisiadau cwrs yn y coleg
- Mynychu’ch Adolygiadau Blynyddol i ddarparu cyngor ac arweiniad
- Eich helpu i wneud ceisiadau a’ch cefnogi trwy’r broses dderbyn
- Cynnig teithiau pwrpasol a Diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad ar ein campysau trwy gydol y flwyddyn
- Cael cyswllt a enwir a fydd ar gael i’ch cefnogi ar eich taith coleg
- Gweithio gydag ysgolion, rhieni, Gyrfa Cymru i helpu i rannu gwybodaeth a helpu i’ch cefnogi.
- Helpu i gynhyrchu neu ddiweddaru Proffil Un Tudalen a Chynllun Datblygu Unigol (CDU)
- Eich cyfeirio at gyngor ar gymorth ariannol a gwasanaethau myfyrwyr
- Helpwch i ddatblygu eich trosglwyddiad wedi’i bersonoli.
Rydyn ni am i chi deimlo eich bod chi’n cael cefnogaeth, yn ddiogel ac yn hapus yng Ngholeg Caerdydd a Vale i’ch galluogi chi i symud ymlaen ym mhob agwedd ar fywyd a / neu waith.
Ein Swyddogion Pontio yw:
- Gemma Down gdown@cavc.ac.uk: Pob Cwrs Prif Ffrwd o Lefel 1-Lefel 3 ar draws y campysau
- Bethan Hannaway bhannaway@cavc.ac.uk: Cyrsiau Mynediad Galwedigaethol ar draws y campysau a Sgiliau ar gyfer Dilyniant (Canol y Ddinas)
- Helen Williams hwilliams@cavc.ac.uk: Adran Dysgu Sylfaen Tuag at Annibyniaeth, WorkSkills ar draws y campysau a Sgiliau ar gyfer Dilyniant (y Barri)
Beth Nesaf? Eich Bywyd. Eich Dyfodol.
Gwefan i bobl ifanc, sy’n cynnal darpariaeth a chyfleoedd sydd ar gael yng Nghaerdydd.
Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i berson ifanc 16-24 oed?
Trwy ddefnyddio ‘Beth Nesaf?’, gallwch ei helpu i archwilio eu hopsiynau i mewn i’r gwaith a theimlo’n fwy hyderus am ei ddyfodol. Mae’r llwyfan ‘Beth Nesaf?’ yn rhestru amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd I helpu pobl ifanc ddechrau ar yrfaoedd boddhaus:
- Addysg
- Prentisiaethau
- Hyfforddiant
- Gwirfoddoli
I gael gwybod mwy, ewch I www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf
Cysylltu â Ni
I gael gwybodaeth am wasanaethau a chymorth, cystlltwch â:
Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd
PO Box 1139
Caerdydd
CF111 WS
Ffôn: 03000 133 133
E-bost: CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk