Adrodd am bryder ynglŷn â phlentyn
Os ydych yn credu bod plentyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a dywedwch wrth yr heddlu.
Os ydych yn credu bod plentyn mewn risg, nad yw’n derbyn gofal priodol neu fod gennych bryderon am ei les, cysylltwch â’r:
- Pwynt Mynediad ar gyfer Plant ar 029 2053 6490
- Tîm Dyletswydd Argyfwng: 029 2078 8570 (Oriau Swyddfa)
Neu lawrlwythwch a chwblhewch y Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaeth (MARF)
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os ydych yn cysylltu ar ran rhywun, bydd angen i ni ofyn ambell gwestiwn i chi am y person hwnnw, er enghraifft:
- y rhesymau dros eich pryder
- cyfeiriad cartref ac oedran neu ddyddiad geni’r plentyn
- enwau, cyfeiriadau ac oedrannau neu ddyddiadau geni aelodau teulu’r plentyn
- enwau gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r teulu, megis meddyg teulu neu ysgol
- a ydych yn credu bod perygl i ddiogelwch y sawl a aiff i ymweld â chartref y plentyn.
Os nad ydych yn teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad â ni, am ba bynnag reswm, dywedwch wrth rywun arall sy’n adnabod y teulu, megis athro, meddyg, nyrs neu ymwelydd iechyd.
Chwiliwch am wybodaeth ynghylch asiantaethau a sefydliadau amddiffyn plant yng Nghaerdydd.
Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro
Mae app Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i’w lawrlwytho nawr ar Siop Appiau Apple a Siop Google Play.
Y poster y gellir ei argraffu ynghylch Gwybod, Gweld, Gweithredu a grëwyd gan Gymdeithas y Plant a’r NPCC