Mae’r Ganolfan Datblygu Gweithlu ac Achrededig yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi ar gyfer yr holl staff gofal plant yng Nghaerdydd.

Dyma’r tîm i gysylltu ag ef os ……… ..

Cynllunydd Hyfforddiant Datblygu’r Gweithlu Caerdydd Medi 2023 – Rhagfr 2024

Gyda chau ein gwefan, byddwn yn parhau i dderbyn archebion ar gyfer ein cyrsiau trwy gyfuniad o e-bost a ffôn.
I dalu, ffoniwch 029 2087 1935. Ar gyfer pob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Byddem yn cynghori’n gryf os ydych am wneud nifer o archebion eich bod chi’n anfon e-bost atom yn gyntaf i roi enwau’r staff, eu cyfeiriadau e-bost a’r cyrsiau yr hoffech chi eu harchebu ar gyfer y staff fel y gallwn wirio a oes argaeledd gennym ac ychwanegu defnyddwyr at ein taflenni archeb, a fydd yn helpu i leihau hyd y galwadau. Cofiwch hefyd gynnwys rhif y gallwn gysylltu’n ôl â chi. Ar ôl i ni gael y wybodaeth hon, gallwn drefnu wedyn eich ffonio yn ôl i gadarnhau’r archebion a chymryd taliad.
Rydym yn defnyddio system o daliadau dros y ffôn sy’n cael ei defnyddio ar draws Cyngor Caerdydd ac sy’n ddiogel ac yn bodloni safonau’r Diwydiant Cardiau Talu (DCT). Ni fydd angen i chi ddatgelu rhif eich cerdyn i ni wrth wneud taliad, mae’r cyfan yn cael ei reoli yn gynnil gan ddefnyddio eich bysell ffôn. Darperir derbynebau ar y pwynt prynu drwy ddanfon e-bost.

Cyfreithiol a Rheoliadol

Crynodeb

Mae’r cymhwyster cymorth cyntaf rheoledig hwn yn benodol i fabanod o dan 1 oed, a phlant o 1 oed hyd at ddechrau’r glasoed. Mae’n bodloni gofynion y fframwaith statudol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar (CSBC) fel y’i cyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a Sgiliau Cyfnod Sylfaen ynglŷn â gofal plant y Blynyddoedd Cynnar.

Cyrsiau Dydd Sadwrn/Sul

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 Medi 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £55
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 7 a Dydd Sul 8 Hydref 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £55
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 21 a Dydd Sul 22 Hydref 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £55
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 11 a Dydd Sul 12 Tachwedd 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £55
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 25 a Dydd Sul 26 Tachwedd 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £55
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 9 a dydd Sul 10 Rhagfyr 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £55

Crynodeb

Rhaid i’r holl staff eraill (gan gynnwys gwirfoddolwyr neu hyfforddwyr rheolaidd) sydd wedi’u cynnwys yn y cymarebau staffio oedolion:plentvn feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys 6 awr gyfredol a dilys

Dylai aelodau newydd ymgymryd â thystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys 6 awr o fewn tri mis o ddechrau’r gwaith

Cyrsiau Dydd Sadwrn

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 14 Hydref  2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £35
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 18 Tachwedd  2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £35
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn  2 Rhagfyr  2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £35

Crynodeb

Mae’r cymhwyster rheoledig hwn wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol hanfodol i weithio yn y diwydiant bwyd.
Mae’n cydymffurfio’n llawn â safonau diwydiant a rheoleiddio. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd o’r farn bod y pynciau a drafodir yn bwysig er mwyn cynnal arferion da wrth gynhyrchu a thrin bwyd diogel.
Bydd y cwrs yn addas i ystod amrywiol o ddysgwyr gan gynnwys oedolion, ysgolion, grwpiau cymunedol a busnesau ac ati sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu’n bwriadu gweithio ynddo, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â storio, paratoi, coginio a thrin bwyd.
Erbyn diwedd y cwrs bydd gan y cynrychiolwyr ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd sicrhau hylendid bwyd priodol yn y gweithle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 16 Medi 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 18  Tachwedd  2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35

Crynodeb

Mae’r cwrs achrededig hwn ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf brys sydd wedi’u henwebu, mewn gweithleoedd sydd â risgiau iechyd a diogelwch is. Mae’r hyfforddiant yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau ar gyfer delio gydag argyfyngau cymorth cyntaf sy’n effeithio ar oedolion yn y gweithle e.e. eich cydweithwyr gwaith neu’ch rhieni ar y safle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Dydd Sadwrn 7 Hydref 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35

Crynodeb

Datblygwyd y cymhwyster L2 rheoledig hwn i ddarparu cyflwyniad i hanfodion Iechyd a Diogelwch yn y gweithle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Iechyd a Diogelwch i Ddarparwyr Gofal Plant Dydd Sadwrn 14 Hydref 2023 9.00am-4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35

Crynodeb

Datblygwyd y cymhwyster L2 rheoledig hwn i alluogi ymgeiswyr i fodloni’r rheoliadau ar gyfer marsialiaid tân mewn gweithle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Warden Tân Dydd Sadwrn 1 1 Tachwedd 2023 9.00am-4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £35

Crynodeb

Mea’r cwrs hwn addas ar gyfer unrhyw un sy’n dod I gysylltiad a plant ac sydd angen gwell dealltwraeth o sut I adnabod ac ymateb I bryderon amddiffyn plant posibl. Awgrymir bydd goftn I chi fod wedi cwblhau hyfforddiant Grwp A cyn dilyn y cwrs hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i https://socialcare.wales/resources-guidance/safeguarding-list

Cyrsiau’r Penwythnos

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Deall Amddiffyn Plant Dydd Sadwrn 22 Ebrill 2023 10.00am-1.00pm Hyfforddiant ar-lein £25
Deall Amddiffyn Plant Dydd Mercher 10 Mai 2023 6.30pm-9.30pm Hyfforddiant ar-lein £25
Deall Amddiffyn Plant Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2023 9.30am-12.30pm Llwybrau Newydd £25
Deall Amddiffyn Plant Dydd Sadwrn 10 Mehefin 2023 1.30pm-4.30pm Llwybrau Newydd £25
Deall Amddiffyn Plant Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2023 10.00am – 1.00pm Hyfforddiant ar-lein £25
Deall Amddiffyn Plant Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023 6.30pm-9.30pm Hyfforddiant ar-lein £25

Crynodeb

Gall ymarferwyr Grwp C fod berson diogelu dynodedig eich lleoliad, efallai eich bod yn cefnogi ac yn cynghori eraill, ac yn chwrae rhan weithredol mewn ymmateb I bryderon diogelu yn eich lleoliad.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Amddiffyn Plant Uwch Dydd Sadwrn 22 Ebrill 2023 9.30am-4.30pm Llwybrau Newydd £35
Amddiffyn Plant Uwch Dydd Sadwrn 15 Gorffennaf a dydd Sadwrn 22 Gorffennaf 2023 10am-1.00pm Hyfforddiant ar-lein £35

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Crynodeb

Bydd hon yn un archeb gyda 4 sesiwn gan fod disgwyl i’r rhai sy’n cymryd rhan fynychu’r pedair.
Fe’ch gwahoddir i fynychu pedair sesiwn hyfforddiant ar-lein AM DDIM drwy Microsoft Teams er mwyn gwella sgiliau ymarferwyr mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar. Bydd y ffocws yn cynnwys; deall egwyddorion ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolion, cynhwysiant i bawb, cydweithio a’r broses anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar (genedigaeth-5 oed) sy’n sail i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Chod ADY Cymru.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Gweithredu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar – Deddf a Chod Dydd Sadwrn 16 Medi 2023
Dydd Sadwrn 23 Medi  2023
Dydd Sadwrn 21  Hydref  2023
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd 2023
9.30am-12.00pm Hyfforddiant ar-lein AM DDIM

Crynodeb

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r theori y dylai pob aelod o staff wybod, wrth symud a chodi a chrio plant bach, y dylent gadw eu hunain a’r plentyn yn ddiogel. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys strategaethau a gweithgareddau ymarferol. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor i blant unigol. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan.
NODWCH: Mae hwn ar gyfer plant NA allant symud eu hunain oherwydd anabledd corfforol. NID codi a chario cadarnhaol lle mae’r plentyn yn dewis peidio â symud mohono.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Y Cwricwlwm Newydd yn y Blynyddoedd Cynnar – Agor Llwybrau ac ADY Dydd Sadwrn 9 Medi 2023 9.00am-12.00pm ECCC £20

Crynodeb

Yn y gweithdy hwn byddwch yn archwilio datblygiad nodweddiadol plant yn eu blynyddoedd cynnar. Er bod patrymau datblygu plant yn weddol gyffredinol, mae pob plentyn yn unigryw, mae ganddo botensial unigol a bydd yn dysgu’n wahanol. Drwy ystyried llawer o agweddau ar ddatblygiad y plentyn, byddwch yn ennill dealltwriaeth am sut i gefnogi babanod, plant bach a phlant cyn oedran ysgol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn o’u bywyd.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Datblygiad Plant yn y Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 30 Medi, 2023 9.30am-12.00pm Hyfforddiant ar-lein £20

Crynodeb

Rhaglen gyfathrebu weledol yw Makaton sy’n cyfuno arwyddion a symbolau. Mae gweithdy’r dechreuwyr yn rhoi cyflwyniad mwy manwl i Makaton ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar sy’n defnyddio Makaton mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Makaton L1 Dydd Sadwrn 14 Hydref 2023 9.30am-2.00pm Hyfforddiant ar-lein £35

Crynodeb

Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i uwchsgilio ymarferwyr drwy bwysleisio’r pwysigrwydd o ddefnyddio strategaethau gweledol. Bydd y gweithdy’n edrych ar yr amryw dechnegau sy’n gysylltiedig â strategaethau gweledol, y manteision o ddefnyddio strategaethau gweledol a’u heffaith ar bob plentyn.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Strategaethau gweledol yn y Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 21 Hydref 2023 9.30am-11.00am Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £20

Crynodeb

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys syniadau ac awgrymiadau y gall lleoliadau eu gweithredu i sicrhau bod eu hamgylcheddau yn hygyrch i blant ag anghenion corfforol. Bydd hefyd yn edrych ar lunio asesiadau risg priodol a’r hyn sydd angen eu rhoi ar waith i blant gael eu cynnwys yn llwyddiannus. Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi trosolwg byr o Gynllunio Hygyrchedd ac ystyriaethau eraill y gallai lleoliadau eu rhoi ar waith.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cefnogi plant ag anghenion corfforol ac ysgrifennu cynlluniau mynediad mewn lleoliadau BC Dydd Sadwrn 11 Tachwedd 2023 9.30am-12.00pm Hyfforddiant ar-lein £20

Crynodeb

Mae rhaid i chi fod wedi mynychu Makaton L1 cyn mynychu’r cwrs hwn. Bydd cyfle i’r cyfranogwyr ymarfer defnyddio’r arwyddion a’r symbolau o fewn y sesiynau er mwyn eu defnyddio’n hyderus yn eu lleoliad ac ysgrifennu rhai targedau Makaton y gallant eu gweithredu ar unwaith wrth ddychwelyd i’w lleoliad.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Makaton L2 Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023 9.30am-2.00pm Hyfforddiant ar-lein £35

Crynodeb

Bydd y ffocws yn cynnwys:
• Ymchwil sy’n tynnu sylw at yr effaith y mae’r pandemig a’r cyfnodau clo wedi’i chael ar iechyd a lles emosiynol teuluoedd.
• Edrych ar effaith y pandemig a’r cyfnodau clo ar blant yn y Blynyddoedd Cynnar.
• Sut gallwn ni gefnogi plant yr effeithiwyd arnynt gan y Pandemig a’r cyfnodau clo yn well drwy strategaethau ymarferol.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Diwallu anghenion plant blynyddoedd cynnar ar ol pandemig Dydd Sadwrn 2 Rhagfr  2023 9.30am-11.00am Hyfforddiant ar-lein £20

Crynodeb

Mae brathu yn ymddygiad cyffredin iawn ac mae’n rhan o’r broses arferol o ddatblygiad plant wrth i blant ddysgu cyfathrebu, archwilio eu byd o’u cwmpas a darganfod sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill. Gall y rhan fwyaf o blant dan bump oed fynd drwy gyfnod o frathu y maent yn rhoi’r gorau iddo yn y pen draw. Dylai ymarferwyr sy’n gweithio neu’n cefnogi plant yn y grŵp oedran hwn fod yn barod i blant ymddwyn mewn ffordd sy’n cynnwys brathu. Er ei fod yn peri gofid mawr i rieni, ymarferwyr, y plentyn sy’n brathu, a’r plentyn a gafodd ei frathu, mae’n bwysig deall pam y gallai fod wedi digwydd er mwyn i ymarferwyr lunio ymateb effeithiol.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Rheoli a Chefnogi plant sy’n Brathu Dydd Sadwrn 9 Rhagfr 2023 9.30am-11.00am Hyfforddiant ar-lein £20

Y Gymraeg mewn Lleoliadau Gofal Plant

Mae cymorth ar gael i leoliadau gofal plant wella sgiliau Cymraeg eu gweithlu drwy’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys pum llinyn, ac mae un ohonynt yn ymwneud yn benodol â sector y Blynyddoedd Cynnar: ‘Cymraeg Cynnar’.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 323 4324 neu e-bostiwch office@learnwelsh.cymru neu ewch i http://learnwelsh.cymru/cymraeg-gwaith-work-welsh

Crynodeb

Bydd hyn yn dangos sut i gofrestru eich diddordeb ar y porth, eich hysbysu am adnoddau Cwlwm am ddim i gefnogi eich dysgu a’ch helpu i ymgorffori’r Gymraeg ar waith bob dydd. Nod y cwrs yw rhoi:
• Tua 20 awr o ddysgu annibynnol
• Cefnogaeth i ddysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda phlant mewn lleoliadau;
• Unedau i ddysgu ynganu’r wyddor, lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifau;
• Byddwch yn dysgu gorchmynion ac yn cyflwyno arddodiaid.

Cwrs Dyddiad  Amser Lleoliad  Cost
Cyflwyniad Camau i Gymorth â’r Gymraeg a hyfforddiant ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar Dydd Mercher 26  Ebrill 2023 6.15pm – 7.15pm Hyfforddiant ar-lein AM DDIM

Crynodeb

Cwrs i archwilio Cymraeg bob dydd defnyddiol i’w defnyddio yn eich lleoliadau gofal plant. Dysgwch ambell i ymadrodd, gemau a chaneuon defnyddiol i ennyn diddordeb eich plant hyd yn oed os oes gennych chi wybodaeth gyfyngedig o’r Gymraeg. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr pur a rhai sydd â dealltwriaeth o’r Gymraeg ac mae modd ei addasu yn ôl mynychwyr ar y diwrnod.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Y Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar TBC 9.30am-12.30pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £25

Crynodeb

Bydd y sesiwn yn cyflwyno syniadau i’r cyfranogwyr ynghylch defnyddio dulliau ymlyniad a pherthnasoedd, yn ogystal â strategaethau rheoli ymddygiad mwy traddodiadol, fel ffordd o hybu ymddygiadau cadarnhaol.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
Cysylltu cyn Cywiro Dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023 9.15am-1.15pm Hyfforddiant ar-lein £25

Crynodeb

Gweithdai i Godi Ymwybyddiaeth o ‘Prevent’ yw WRAP. Mae Prevent yn rhan o strategaeth wrth-derfysgaeth Llywodraeth y DU, sy’n atal pobl rhag dod yn rhan o derfysgaeth.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad  Cost
WRAP (Gweithdy i Godi Ymwybyddiaeth o Prevent) Dydd Sadwrn 10th Gorffennaf 2023 6.30pm-8.30pm Hyfforddiant ar-lein £5

Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru

Am adnoddau a gwybodaeth sy’n ymwneud â gofal plant ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru: https://gofalwn.cymru/?_ga=2.147511735.1815925760.1625224545-288745029.1605873578

Cynnig Gofal Plant 30 Awr

I gael gwybodaeth am y Cynnig Gofal Plant 30 Awr ewch i: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Y-blynyddoedd-cynnar-a-gofal-plant/Gofal-Plant-a-Ariennir-gan-y-Llywodraeth/Pages/default.aspx