Gwasanaeth Rhieni a Mwy a Gwasanaeth Rhieni yn Gyntaf a Arweinir gan Seicoleg

Pam dwi’n dal I wneud y perthau ti wedi dweud wrtha I am beidio… dro ar ôl tro!

Beth gallet ti fy ngweld i’n ei wneud

Rwyt ti wedi dweud “na” wrtha i, neu ddweud wrtha i am beidio gwneud rhywbeth, fel cyffwrdd rhywbeth dwyt ti ddim eisiau i fi wneud.

Dwi’n deall dy fod yn golygu “na” ac yn stopio ond wedyn fydda i’n edrych i mewn i dy lygaid, neu’n gwenu wrth wneud y peth rwyt ti wedi dweud wrtha i am beidio.

Byddi di’n dweud rhywbeth fel “mae e’n gwybod yn UNION beth mae e’n ei wneud”.

Pam mae hyn yn digwydd?

Er bod hyn yn rhwystredig i ti, dyw’r ymddygiad ‘ma ddim yn fwriadol.

Mae’r rhan o’r ymennydd sy’n ein helpu ni i feddwl pethau trwyddo (e.e. a yw rhywbeth yn dda neu ddrwg) ac i ddeall ein hemosiynau ond yn dechrau datblygu pan ry’n ni tua 3 oed.

Mae edrych ar oedolyn cyn gwneud rhywbeth yn ffordd o ddysgu beth sy’n ddiogel neu beryglus. Ar y cam yma, dyw e ddim yn benderfyniad bwriadol i wneud rhywbeth drwg.

Mae dy blentyn yn ymddwyn fel gwyddonydd bach, yn gweithio allan ‘beth sy’n digwydd pan dwi’n gwneud hyn?’

Datblygiad cynnar yr ymennydd yw beth sy’n caniatáu’r newidiadau rhyfeddol mewn datblygiad sy’n digwydd yn ystod plentyndod cynnar. Dyma hefyd sy’n rhoi i blant y gallu anhygoel ‘na i dyfalbarhau.

Pan fydd plentyn yn dysgu cerdded ac yn cwympo lawr 50+ o weithiau, fydd e byth yn meddwl iddo ”efallai bod hwn ddim i mi”. Dyma’r un dyfalbarhau sy’n cael ei ddangos yn yr ymddygiadau mwy anodd hyn,

Ffyrdd o helpu fi

Cofia: Dwi’n gwneud hyn achos ei fod y n rhywbeth sy’n fy helpu i i ddysgu a datblygu, nid i dy wylltio. Bydd hyn yn dy helpu i deimlo’n fwy amyneddgar gyda fi.

 

Cysyllta â fi cyn dy fod yn fy nghywiro i rho esboniadau syml i fi a dweud yn uchel beth rwyt ti’n meddwl fy mod i’n ei deimlo e.e., “Dw i’n gwybod dy fod ti wir eisiau cyffwrdd â hwnna ond alla’ i ddim gadael i ti wneud. Dydy e ddim yn ddiogel.” Tria beidio â gweiddi arna’ i am yr ymddygiad hwn.

 

Gwneud yn hytrach na pheidio â gwneud: dweud wrtha i beth i’w wneud yn hytrach na beth i beidio â gwneud  (“dala hwnna’n ofalus” yn hytrach na ”paid â gollwng hwnna”).

Allan o’r golwg: rho’r peth nad wyt ti ’eisiau i fi gyffwrdd ag e allan o’r golwg fel nad ydwi’n cael fy nhemtio ganddo fe.

 

Allgyfeirio: trïa fy annog tuag at rywbeth arall; “Beth am wneud hyn yn lle.” Meddyliad am beth rwy’n trio dysgu, fel gwyddonydd bach, a meddylia a oes ffordd ddiogel i mi wneud yr ymddygiad mae gen i ddiddordeb ynddo. E.e. os bydda’ i’n dringo ar bethau dw i   ddim i fod i, cer â fi i rywle ble dw i’n cael dysgu dringo,  fel chwarae meddal neu’r parc.

 

Gofala amdanat ti dy hun: fel y galli di ofalu amdana’ i yn well. Os byddi di’n gweld dy hun yn mynd yn hollol rwystredig gyda fi, cymera rywfaint o amser ymdawelu a chael seibiant oddi wrtha i os gelli di yn ddiogel.

Crëwyd gan Seicolegwyr Addysg Gwasanaeth Rhianta Caerdydd

Am ragor o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Borth i Deuluoedd Caerdydd:

Ffôn: 03000 133 133

E-bost: CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk

Ar-lein: www.cardifffamilies.co.uk/cy/

Cardiff Council dragon logo
Cardiff Flying Start