Mae gan y Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu ystod eang o gyrsiau hyfforddi ar gael ar gyfer holl staff gofal plant Caerdydd.
Mae’r rhaglen hyfforddi wedi’i chynllunio i fodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r rhaglen yn cael ei llunio yn seiliedig ar ganlyniadau dadansoddiad anghenion hyfforddiant blynyddol.
Gallwch gael yr hyfforddiant os ydych yn gweithio mewn lleoliad gofal plant nas cynhelir yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr a darparwyr nad ydynt wedi’u cofrestru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Efallai y byddwn yn cyfyngu ar faint o bobl o’r un lleoliad sy’n gallu mynychu cwrs.
Sicrhewch eich bod wedi darllen y telerau ac amodau cyn cadw lle. Gallwch e-bostio DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk i gadw lle.
Gallwch ofyn am gael eich ychwanegu at restr wrth gefn os yw cwrs yn llawn. Byddwn yn cysylltu â chi os daw lleoedd ar gael.
Darllenwch y telerau ac amodau hyfforddi a’r cod ymddygiad a hysbysiad preifatrwydd y Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu.
Taliad
Mae’n rhaid i chi dalu am gyrsiau ymlaen llaw. Byddwn yn eich ffonio i gymryd taliad trwy gerdyn debyd neu gredyd.
Rhaid i leoliadau’r Cyngor ddarparu eu codau cost wrth gadw lle. Rhaid i chi gadw cofnod o’r trafodion.
Byddwn yn anfon cadarnhad o’ch lle a derbynneb talu ar e-bost.
Gallwch newid yr aelodau staff ar y cyrsiau hyd at un diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. Cysylltwch â ni ar e-bost os ydych eisiau gwneud hyn.
Gallwch drosglwyddo archeb i gwrs diweddarach os byddwch yn rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd i ni.
E-bostiwch DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk i wneud newidiadau i’ch archeb.
Dim ond os byddwch yn canslo o leiaf 7 diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau y gallwn roi ad-daliad.
Os bydd yn rhaid i ni ganslo cwrs am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi ad-daliadau.
Ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg nad ydynt yn dilyn y polisi canslo, neu os nad yw’r staff yn mynychu, codir ffi presenoldeb safonol ar y lleoliad. Mae hyn yn nhelerau Manyleb Gwasanaeth Dechrau’n Deg. Ni fydd eithriad i’r rheol hon.
Cyrsiau hyfforddi
Llenwch ein ffurflenni adborth ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych i’n helpu ni i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth.
Siaradwch â’r hyfforddwr os ydych yn teimlo y gallech elwa o gymorth sgiliau hanfodol. Bydd yr hyfforddwr yn trafod pa gymorth sydd ar gael i chi mewn modd cyfrinachol.
Ebrill 2026
Mai 2026
Mehefin 2026
Gorffennaf 2026
Awst 2026
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni os ydych:
- yn ystyried bod yn ddarparwr gofal plant,
- yn ddarparwr gofal plant ar hyn o bryd sydd eisiau cael gwybod mwy am gyrsiau hyfforddi, neu
- os hoffech i ni eich helpu i ddadansoddi eich anghenion hyfforddi.
