Hysbysiad Preifatrwydd Canolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd

Mae’r Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Cymorth Cynnar yn rhan o Gyngor Caerdydd, sydd y Rheolwr Data at ddibenion y data a gesglir. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu wasanaeth.

 

Pwrpas casglu’r data hwn yw i Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd drefnu lle i chi ar gyrsiau hyfforddiant y gofynnir amdanynt. Fel y gall Canolfan Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar  Caerdydd a phartneriaid anfon gwybodaeth a cheisiadau perthnasol sy’n ymwneud â hyfforddiant. Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’n rhaglen hyfforddiant gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant sydd newydd eu trefnu a chyrsiau sydd ar y gweill gydag argaeledd. Byddwn hefyd yn cadw cofnod o’ch manylion i’w defnyddio yn ein hadroddiadau.

 

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae’r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol. Rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, sef data personol. Rydym wedi ein cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym yn cael ei phrosesu’n unol â’r egwyddorion a nodir yn Rheoliadau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw.

 

Byddwn yn:

  • Parhau i gryfhau ein prosesau ar gyfer cynnal preifatrwydd yr holl wybodaeth sydd gennym.
  • Gofyn i’n holl gyflogeion gydymffurfio’n llawn â chyfraith Diogelu Data.
  • Cadw cyn lleied o wybodaeth bersonol ag sydd ei hangen i’n galluogi i gyflawni ein rôl fel Cyngor.
  • Dileu gwybodaeth bersonol pan fydd yr angen i’w chadw wedi mynd heibio.
  • Cyrchu a phrosesu’r holl wybodaeth bersonol yn unol â phrosesu teg a gaiff ei nodi pan gesglir gwybodaeth gan Unigolion.
  • Cynllunio ein systemau a’n prosesau er mwyn cydymffurfio ag egwyddorion diogelu data.
  • Cymryd camau gweithredu ar unwaith pe byddem yn darganfod na chydymffurfir â’n polisïau.
  • Mae’r hysbysiad hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’ch data a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.

 

Mae Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd yn casglu’r data canlynol:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad gweithle, teitl swydd, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
  • Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.

 

Sut rydym yn casglu eich data?

  • Mae Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd yn casglu data a phrosesu data gan ddefnyddio ffurflenni Microsoft neu ffurflenni archebu sy’n cael eu hanfon i mewn drwy e-bost. Bydd y data sy’n cael eu casglu drwy’r ffurflenni hyn yn cael ei ddefnyddio gan Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Caerdydd a phartneriaid.

 

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau, a gall hyn gynnwys prosesu eich data personol at y cyfan neu unrhyw un o’r dibenion canlynol:

  • I gysylltu â chi.
  • I gadw lle i chi ar unrhyw gyrsiau hyfforddiant rydych chi/eich rheolwr wedi gofyn i chi eu mynychu
  • At ddibenion ystadegol a chyfeirio.
  • I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
  • Mynd i’r afael ag ymholiadau gennych chi ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl sy’n ymwneud â chi.
  • Prosesu eich cais a rheoli eich cyfrif.
  • E-bostio i gysylltu â chi pan fydd hyfforddiant ar gael.

 

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

O bryd i’w gilydd byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau partner a darparwyr gwasanaeth fel y gallant ein helpu i gynnal ein dyletswyddau, hawliau a disgresiynau mewn perthynas â’r gwasanaethau a ddarparwn. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny’n prosesu eich data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau. Ym mhob achos, byddwn ond yn rhannu data i’r graddau y credwn fod angen y wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.

 

Caiff unrhyw Wybodaeth Bersonol sydd gennym ond ei datgelu, gyda diben rhesymol, i:

  • Ein staff – pan fydd y wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith.
  • Y Llysoedd – o dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys.
  • Ein partneriaid – yn unol â’r weithdrefn a gytunwyd yn unig.
  • Eraill – fel y rhestrir yng nghofrestriad Diogelu Data’r Cyngor. Os nad ydych am i ni gysylltu â chi mwyach, anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk

 

O dan Ddeddf Economi Ddigidol 2017, caiff y Cyngor rannu data personol a roddwyd i ni gyda Chynghorau eraill at ddibenion canfod/atal twyll neu droseddau, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer ymchwil ystadegol.  Mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i amddiffyn y gronfa gyhoeddus mae’n ei rheoli. Felly, mae’n bosibl y caiff y wybodaeth rydych chi wedi ei rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll neu ei rhannu gyda Swyddogion y Cyngor sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus.

 

Os oes cais neu os credwn fod ei angen yn rhesymol, gallwn o bosibl roi eich data i gyrff llywodraethu a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y rhai a restrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi (CThEM). Gallent o bosibl ddefnyddio’r data i gyflawni eu swyddogaethau cyfreithiol.

 

Mewn rhai achosion, gall y derbynwyr hyn fod y tu allan i’r DU. Golyga hyn y gall eich data personol gael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r AEE i awdurdodaeth nad yw o bosibl yn cynnig lefel gyfwerth o ddiogelwch fel sy’n ofynnol yng ngwledydd yr AEE. Os digwydd hyn, gwnawn yn siŵr fod camau diogelu priodol mewn lle i ddiogelu eich data yn unol â’r cyfreithiau perthnasol. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os hoffech gael ragor o wybodaeth am y camau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd.

 

Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.

 

Mae mwy o fanylion i’w gweld ar yAmserlen gadw’r cyngor Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd​

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn llwyr ymwybodol o bob un o’ch hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

  • Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy’n hen. Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan fod unrhyw gamgymeriadau’n cael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.
  • Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Cyngor gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy’r wefan isod neu eu llinell gymorth.
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu drwy ei llinell gymorth 0303 123 1113.

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol

Mae’r Cyngor yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei waith fel rheolwr data.  Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich data i gysylltu â chi at ddibenion ystadegol a chyfeirio. Mae gwybodaeth bellach am sut rydym yn defnyddio eich data personol isod.

  • Yn gyffredinol, ar un o’r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:
  • Mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau fel yr Awdurdod Lleol yn ogystal ag adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar ein hyfforddiant a ariennir gan grant.
  • Mae angen i ni brosesu eich data personol er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein rôl fel corff cyhoeddus; [a/neu] oherwydd bod angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cytundebol i chi mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiant hanfodol gwrthrych y data neu berson naturiol arall.

 

Diweddaru’r hysbysiad hwn

Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw’r newidiadau i rym.

Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth

Neuadd y Sir

Glanfa’r Iwerydd

Caerdydd

CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd​

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd.

  • Mae Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd.
  • Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 09.08.2022