Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd
Mae Gwasanaethau Cymorth Busnes Gofal Plant ar gael i ddarparwyr gofal plant hen a newydd yng Nghaerdydd – gweithiwn gydag ysgolion, grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd, clybiau ar ôl ysgol a gwyliau, cylchoedd meithrin, creches a gwarchodwyr plant.
Ein nod yw cefnogi’r ddarpariaeth sydd ohoni a gwella ansawdd gofal plant. Gall gwasanaethau gynnwys cymorth â pholisïau a gweithdrefnau, ceisiadau Arolygiaeth Gofal Cymru, marchnata, recriwtio staff, cynhyrchu incwm, cynaliadwyedd a cheisiadau am arian grant.


Cyfarfod â'r tîm
Meysydd Cefnogaeth:
Pob maes ac unrhyw ymholiadau eraill Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant, Gwaith partneriaeth cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd
Diwrnodau gwaith arferol:
Dydd Llun i ddydd Gwener
Ffôn
02920 351362
E-bost
Llefarydd Cymru
Na
Meysydd Cefnogaeth:
Diwrnodau gwaith arferol:
Dydd Llun, Mercher a Gwener
Ffôn
02920 351363
E-bost
Llefarydd Cymru
Ydw
Meysydd Cefnogaeth:
Diwrnodau gwaith arferol:
Dydd Llun, Mercher a Iau
Ffôn
02920 351714
E-bost
Llefarydd Cymru
Na
Meysydd Cefnogaeth:
Diwrnodau gwaith arferol:
Dydd Mawrth, Mercher, Iau a Gwener
Ffôn
02920 351360 / 07814 251310
E-bost
Llefarydd Cymru
Ydw
Mae’r tîm Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd wedi casglu’r cyflwyniad hwn ynghyd i’ch cefnogi drwy daith y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’r cyflwyniad hwn yn amlygu adnoddau sydd ar gael gyda chysylltiadau hawdd i’w dilyn.
Ymestyn rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant hyd at 2025
Bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall.
Mae ymestyn y rhyddhad ardrethi hyd at 31 Mawrth 2025 yn golygu y bydd £9.7m o gymorth ychwanegol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig.
Cafodd y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ei ehangu ym mis Ebrill 2019 i roi rhyddhad o 100% i bob safle gofal plant cofrestredig yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd. Nod y cynllun yw helpu’r sector i weithredu’r cynnig gofal plant, sef 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant. Ymestyn rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant hyd at 2025 | LLYW.CYMRU
Grantiau
Grant Cafalaf Gofal Plant
Mae’r broses ymgeisio am arian Grant Cyfalaf Gofal Plant bellach wedi cau, er mwyn holi am y cyllid hwn, cysylltwch â CymorthBusnesGofalPlant@Caerdydd.gov.uk
Rhaid cyflwyno taflen gostau cyllid grant gyda phob cais grant y gellir ei chyrchu yma Taflen Costio Arian Grant
Grant Cymorth Busnes Gofal Plant
Gellir darparu cymorth drwy’r Grant Cymorth Busnes Gofal Plant ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â gwella Ansawdd y Ddarpariaeth; Lleoedd Newydd; Hyfforddiant DPP; Cynaliadwyedd a Gweithredu’r Cwricwlwm Newydd, yn enwedig pan fydd yn mynd i’r afael â gofynion AGC neu faterion a godwyd mewn Adroddiadau Arolygu (cyflwynwch ddyddiad adroddiad diwethaf AGC gyda’ch cais) i’w gwneud yn addas ar gyfer gofal plant yn barhaus.
Cymorth Busnes Gofal Plant Canllaw ar gyfer Ceisiadau Grant 2023/24
Cymorth Busnes Gofal Plant Ffurflen Gais am Grant (2023-24)
Telerau ac Amodau Grant Cymorth Busnes Gofal Plant Cyngor Caerdydd 2023-24
Newidiadau i Safonau Gofynnol Cenedlaethol – Newidiadau Allweddol 18 Mai 2023
Rydym wedi cryfhau’r gofynion ar gyfer cymorth cyntaf mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig, ac wedi darparu gwybodaeth gliriach am gynnwys y cwrs mewn atodiad. Bydd y gofynion o ran hyfforddiant cymorth cyntaf yn wahanol, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddarperir. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran cymwysterau.
Rydym wedi egluro yn safon 20 y gofynion ynghylch diogelu, ac wedi nodi yn yr atodiad perthnasol yr hyfforddiant priodol ar gyfer gwahanol rolau o fewn y sector. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran hyfforddiant.
Rydym wedi darparu canllawiau yn nodi cyfrifoldebau a rôl gwarchodwyr plant cofrestredig sy’n gweithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant a’r hyfforddiant perthnasol y mae’n rhaid i gynorthwy-ydd ymgymryd ag ef. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gynorthwywyr fod wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2023 ar gyfer cynorthwywyr newydd a phresennol er mwyn rhoi amser iddynt gyflawni’r gofyniad newydd hwn.
Rydym wedi diwygio’r safon hon i ganiatáu i 20% o staff lleoliadau gofal dydd llawn a 10% o staff lleoliadau sesiynol neu fynediad agored sy’n gweithio
Rydym wedi cael gwared â’r safon benodol sy’n ymwneud â’r gofyniad am staff ychwanegol mewn lleoliadau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer mwy nag 20 o blant. Rydym wedi cryfhau safonau staffio eraill i atgyfnerthu’r trefniadau rheoli ac i’w gwneud yn glir y bydd angen adnoddau staff a rheoli ychwanegol i ymgymryd â rolau rheoli os bydd hyn yn effeithio ar y cymarebau gofynnol o ran plant ac oedolion.
- Rhaid i ddarparwyr ddisodli unrhyw gopïau electronig neu galed sydd ganddynt o rifyn 2016 o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol â fersiwn ddiwygiedig Mai 2023.
- Fel darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig, rhaid ichi ymchwilio i sut mae’r newidiadau yn effeithio ar eich busnes chi a chymryd y camau angenrheidiol i fodloni’r gofynion newydd.
Dyddiadau newydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ofal Plant Gofalwn Cymru ym mis Medi a mis Hydref 2023, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Hysbysiad Preifatrwydd Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd
Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu wasanaeth.