Cardiff parenting logo

Mae ein gwasanaethau rhianta ar gyfer unrhyw deuluoedd yng Nghaerdydd:

  • gyda phlentyn o enedigaeth hyd at 18 oed, neu
  • sy’n disgwyl.

Ein nod yw cefnogi rhieni a gofalwyr i gryfhau eich perthynas â’ch:

  • bwmp,
  • babi,
  • plentyn bach,
  • plentyn,
  • plentyn yn ei arddegau, neu
  • oedolyn ifanc.

Gallech fod yn rhiant, yn llys-riant, yn ofalwr maeth, yn fam-gu/tad-cu neu’n aelod o’r teulu sy’n gofalu am blentyn. Rydym yma i bawb sy’n cyflawni rôl rianta yng Nghaerdydd.

Mae bod yn rhiant neu’n ofalwr yn wahanol i bob un ohonom, ond mae pob rhiant eisiau gwneud yr hyn sydd orau i’r plant. Byddwn yn gwrando ar y pethau unigryw rydych chi am eu gwella i chi a’ch teulu.

Rydym yn gweithio gyda rhieni i:

  • helpu i gryfhau perthnasau teuluol,
  • datblygu gwell dealltwriaeth o’ch cryfderau fel rhiant,
  • helpu rhieni i deimlo’n fwy abl i gefnogi datblygiad eich plentyn, a
  • meithrin lles a gwydnwch i rieni a phlant.

Trwy rianta’n gadarnhaol a meithrin perthnasau ystyrlon, gall rhieni helpu i fagu plant hapus ac iach. Mae’n bwysig bod plant yn teimlo’n ddiogel, ac yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu:

  • dysgu,
  • datblygiad emosiynol,
  • hunan-barch, a
  • chyfeillgarwch a pherthnasau iach.

Archwiliwch ein gwasanaethau rhianta a chewch wybod sut y gallwn eich cefnogi yn eich taith rhianta.

Archwiliwch ein gwasanaethau rhianta

  • Gweld pob
  • Oedran 16 - 18
  • Oedran 12 i 16
  • Oedran 8 i 12
  • Oedran 5 i 8
  • Oedran 3 i 5
  • Oedran 0 i 3