Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd

Mae Gwasanaethau Cymorth Busnes Gofal Plant ar gael i ddarparwyr gofal plant hen a newydd yng Nghaerdydd – gweithiwn gydag ysgolion, grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd, clybiau ar ôl ysgol a gwyliau, cylchoedd meithrin, creches a gwarchodwyr plant.

Ein nod yw cefnogi’r ddarpariaeth sydd ohoni a gwella ansawdd gofal plant. Gall gwasanaethau gynnwys cymorth â pholisïau a gweithdrefnau, ceisiadau Arolygiaeth Gofal Cymru, marchnata, recriwtio staff, cynhyrchu incwm, cynaliadwyedd a cheisiadau am arian grant.

Cyfarfod â'r tîm

Meysydd Cefnogaeth:

Pob maes ac unrhyw ymholiadau eraill Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant, Gwaith partneriaeth cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd

Diwrnodau gwaith arferol:

Dydd Llun i ddydd Gwener

Ffôn

02920 351362

E-bost

Andy.Senior2@cardiff.gov.uk

Llefarydd Cymru

Na

Meysydd Cefnogaeth:

Diwrnodau gwaith arferol:

Dydd Llun, Mercher a Gwener

Ffôn

02920 351363

E-bost

Rachel.dulieu@cardiff.gov.uk

Llefarydd Cymru

Ydw

Meysydd Cefnogaeth:

Diwrnodau gwaith arferol:

Dydd Llun, Mercher a Iau

Ffôn

02920 351714

E-bost

Claire.Jones4@cardiff.gov.uk

Llefarydd Cymru

Na

Meysydd Cefnogaeth:

Diwrnodau gwaith arferol:

Dydd Mawrth, Mercher, Iau a Gwener

Ffôn

02920 351360 / 07814 251310

E-bost

Amanda.boyd@cardiff.gov.uk

Llefarydd Cymru

Ydw

Mae’r tîm  Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd wedi casglu’r cyflwyniad hwn ynghyd i’ch cefnogi drwy daith y cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’r cyflwyniad hwn yn amlygu adnoddau sydd ar gael gyda chysylltiadau hawdd i’w dilyn.

Linc i’r dogfen

Ymestyn rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant hyd at 2025

Bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall.

Mae ymestyn y rhyddhad ardrethi hyd at 31 Mawrth 2025 yn golygu y bydd £9.7m o gymorth ychwanegol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig.

Cafodd y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ei ehangu ym mis Ebrill 2019 i roi rhyddhad o 100% i bob safle gofal plant cofrestredig yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd. Nod y cynllun yw helpu’r sector i weithredu’r cynnig gofal plant, sef 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant. Ymestyn rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant hyd at 2025 | LLYW.CYMRU

Amddiffyniadau newydd i rieni sy’n gweithio sy’n gymwys i gael help gyda’u costau gofal plant

Newidiadau i Safonau Gofynnol Cenedlaethol – Newidiadau Allweddol 18 Mai 2023

Rydym wedi cryfhau’r gofynion ar gyfer cymorth cyntaf mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig, ac wedi darparu gwybodaeth gliriach am gynnwys y cwrs mewn atodiad. Bydd y gofynion o ran hyfforddiant cymorth cyntaf yn wahanol, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddarperir. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran cymwysterau.

Rydym wedi egluro yn safon 20 y gofynion ynghylch diogelu, ac wedi nodi yn yr atodiad perthnasol yr hyfforddiant priodol ar gyfer gwahanol rolau o fewn y sector. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2024 er mwyn i ddarparwyr allu paratoi i fodloni’r gofynion newydd o ran hyfforddiant.

Rydym wedi darparu canllawiau yn nodi cyfrifoldebau a rôl gwarchodwyr plant cofrestredig sy’n gweithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant a’r hyfforddiant perthnasol y mae’n rhaid i gynorthwy-ydd ymgymryd ag ef. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gynorthwywyr fod wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Darperir cyfnod rhybudd o 18 mis tan ddiwedd Tachwedd 2023 ar gyfer cynorthwywyr newydd a phresennol er mwyn rhoi amser iddynt gyflawni’r gofyniad newydd hwn.

Rydym wedi diwygio’r safon hon i ganiatáu i 20% o staff lleoliadau gofal dydd llawn a 10% o staff lleoliadau sesiynol neu fynediad agored sy’n gweithio

Rydym wedi cael gwared â’r safon benodol sy’n ymwneud â’r gofyniad am staff ychwanegol mewn lleoliadau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer mwy nag 20 o blant. Rydym wedi cryfhau safonau staffio eraill i atgyfnerthu’r trefniadau rheoli ac i’w gwneud yn glir y bydd angen adnoddau staff a rheoli ychwanegol i ymgymryd â rolau rheoli os bydd hyn yn effeithio ar y cymarebau gofynnol o ran plant ac oedolion.

  • Rhaid i ddarparwyr ddisodli unrhyw gopïau electronig neu galed sydd ganddynt o rifyn 2016 o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol â fersiwn ddiwygiedig Mai 2023.
  • Fel darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig, rhaid ichi ymchwilio i sut mae’r newidiadau yn effeithio ar eich busnes chi a chymryd y camau angenrheidiol i fodloni’r gofynion newydd.

Dyddiadau newydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer cyrsiau Cyflwyniad i Ofal Plant Gofalwn Cymru ym mis Medi a mis Hydref 2023, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma

Hysbysiad Preifatrwydd Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd​

Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolwr Data at ddibenion y data sy’n cael ei gasglu. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu wasanaeth.

Cysylltwch â ni ar:

Ffoniwch: 029 2035 1362

E-bostiwch: CymorthBusnesGofalPlant@caerdydd.gov.uk

Like us on Facebook