Ynghylch y gwasanaeth
Mae Mellow Bumps wedi’i ddylunio i helpu darpar rieni i leihau lefelau straen i’r ddau riant.
Cewch eich cefnogi i ddod o hyd i ffyrdd o reoli eich lles emosiynol yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr ac os ydych chi’n hapusach ac yn cael gofal, bydd eich babi’n teimlo hynny hefyd.
Bydd amser i feddwl a siarad am sut rydych chi’n teimlo am ddod yn fam.
Yn y grŵp cefnogol, byddwch chi’n meddwl amdanoch chi’ch hun a’ch babi. Byddwch yn canolbwyntio ar yr hyn y gall eich babi ei wneud eisoes a’r hyn y gall ei ddysgu oddi wrthych.
Bydd Rhianta Caerdydd yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i’ch atebion eich hun a chwrdd â mamau newydd eraill ar hyd y ffordd.

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Straen a phryderon cyffredin yngylch dod yn rhiant.
- Beth yw eich barn ar sut beth fydd bod yn rhiant – yr heriau a’r boddhad.
- Cefnogi iechyd a lles yn ystod beichiogrwydd.
- Ffyrdd o helpu i ymlacio a lleihau straen – a pham mae hynny’n bwysig i chi, eich partner a’ch babi.
- Sut mae babis yn cyfathrebu a rhoi gwybod i chi am sut maen nhw’n teimlo.
- Eich rhan bwysig chi wrth ddatblygu ymennydd eich babi trwy chwarae a siarad ag ef neu hi.
- Eich rôl wrth adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol eich babi.
Bydd yn lle diogel i chi a mamau beichiog eraill rannu eich taith a’ch profiadau.
Cewch lyfryn a deunyddiau eraill i’ch helpu i gefnogi eich dysgu dros y 7 wythnos.
Gwybodaeth ymarferol
Cynhelir grwpiau gwahanol ar gyfer darpar famau a darpar dadau i roi lle diogel i siarad ag eraill a fydd yn rhannu rhai o’r un teimladau.
Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp wyneb yn wyneb neu un ar-lein.
Cyn i’r grŵp ddechrau, gallwch gael hyd at 3 sesiwn gyda chi a’r hwylusydd er mwyn i chi drafod natur y grŵp a’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl. Rydyn ni eisiau i chi deimlo’n barod i ymuno â’r grŵp.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.