Ynghylch y gwasanaeth

Mae Dulliau Cadarnhaol Cynnar o Gefnogi yn rhaglen ar gyfer teuluoedd sy’n magu plentyn ifanc (5 mlwydd oed ac iau) pan fo oedi datblygiadol a/neu anabledd dysgu wedi’i awgrymu neu ei gadarnhau.

Mae gan blant ag anableddau dysgu a/neu ddatblygiadol ystod o anghenion a heriau bywyd bob dydd. Mae angen rhywfaint o gefnogaeth ar y rhan fwyaf o deuluoedd i ddeall anghenion eu plant yn llawn.

Mae gofalwyr teulu yn dweud y gall magu plentyn ag anabledd dysgu a/neu ddatblygiadol effeithio ar eu lles eu hunain.   Datblygwyd E-PAtS gan ofalwyr teulu sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol.

Mae cyfranogwyr yn dweud bod eu lles wedi gwella ar ôl mynychu’r sesiynau.  Roedd yn annog pobl i neilltuo amser iddyn nhw eu hunain a chydnabod eu hanghenion eu hunain.

Yn ogystal â helpu cyfranogwyr i deimlo nad ydynt ar eu pen eu hunain, rhoddwyd strategaethau iddynt i’w helpu gyda sgiliau byw.  Fe ddwedon nhw eu bod yn fwy hyderus o ran deall ac ymdopi ag ymddygiad eu plentyn yn ogystal ag eiriol dros eu plentyn gyda gweithwyr meddygol proffesiynol.

A boy sat playing with a toy

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Cymorth cysgu
  • Cefnogi cyfathrebu (sylwi ar ddulliau di-eiriau plant o gyfathrebu)
  • Cefnogi datblygiad sgiliau
  • Dulliau cadarnhaol o ymdrin ag ymddygiadau sy’n herio
  • Manteisio ar wasanaethau a chymorth a lles emosiynol a gwydnwch i bobl sy’n rhoi gofal.

Gwybodaeth ymarferol

Cynhelir sesiynau gan 2 hwylusydd (un gofalwr teulu ac un gweithiwr proffesiynol) sydd ill dau â phrofiad o weithio, neu o fod yn rhiant i blant ag anabledd dysgu a/neu ddatblygiadol.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: