Ynghylch y gwasanaeth

Ar ôl cael y diagnosis, gallai fod gennych lawer o gwestiynau ynghylch awtistiaeth ac efallai y byddwch yn dymuno dod o hyd i ragor o wybodaeth wrth gefnogi anghenion eich plentyn.

Mae anghenion plant hefyd yn newid dros amser a gall fod angen diweddaru gwybodaeth a chyngor a roddwyd pan oedd plentyn yn iau i fod yn berthnasol i’r plentyn neu’r person ifanc heddiw.

Mae Cygnet yn cynnig cyfle i chi wella eich hyder a’ch gwybodaeth a deall atebion ymarferol. Os ymunwch â grŵp, bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni a gofalwyr eraill mewn sefyllfa debyg.

Child holding parents finger

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Sesiwn gyflwyno fydd yn rhoi cyfle i gwrdd ag aelodau eraill y grŵp a mynd dros amcanion a chynnwys y rhaglen. Byddwn yn edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod eisoes am gyflyrau’r sbectrwm awtistig (CSAau).
  • Awtistiaeth a diagnosis – cyfle i drafod yr amrywiaeth o gryfderau a heriau y mae plant â CSAau yn eu hwynebu ynghyd ag ystyried eich siwrnai eich hunain fel rhieni.
  • Prosesu synhwyraidd – golwg fanwl ar y synhwyrau a’r problemau synhwyraidd y gall plant â CSAau eu hwynebu. Byddwn yn edrych ar syniadau am strategaethau ac adnoddau i gefnogi hyn.
  • Cyfathrebu – sut gall cyfathrebu fod yn wahanol i blant â CSAau a strategaethau posibl ac adnoddau i gefnogi plant gyda lefelau gwahanol o gyfathrebu geiriol.
  • Cyfle i rieni drafod pynciau o’u dewis.
  • Cysgu.
  • Gwella eich dealltwriaeth o safbwynt a barn eich plentyn am y byd.
  • Datblygu strategaethau ymarferol a all fod o fudd i chi a’ch plentyn.
  • Eich cyfeirio at gefnogaeth ac adnoddau perthnasol lleol a’r cyfle i gwrdd â rhieni eraill a chreu rhwydwaith cymorth.
  • Deall ymddygiad eich plentyn.
  • Cyfle i archwilio pynciau penodol. Er enghraifft, y glasoed, lles rhywiol a pherthnasoedd.

Gwybodaeth ymarferol

Gallwn weithio gyda chi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn grŵp a byddwn yn addasu amser y sesiwn yn ôl y cynnwys. Gallwn weithio gyda chi’n unigol ar gyfer y sesiwn gyntaf os byddai hyn o gymorth i chi cyn ymuno â grŵp.

Rydym yn argymell i chi ymuno â’r sesiynau i gyd. Byddwch yn cael llawer mwy o fudd o ymrwymo i’r holl sesiynau, boed hynny’r rhaglen grŵp neu ar-lein. Mae hyn oherwydd bydd pob sesiwn yn adeiladu ar yr un flaenorol.

Os na allwch ddod i grŵp, gallwn gynnig Cygnet yn unigol, lle byddwn yn anfon gwybodaeth atoch bob wythnos ac yn trefnu galwad wythnosol i weithio drwy hyn gyda’n gilydd cyn symud ymlaen i’r sesiwn nesaf.

Mae croeso i chi ddod ar eich pen eich hun neu gyda rhywun arall sydd â chyfrifoldebau gofalu am eich plentyn. Gall gofalwyr fod yn unrhyw berson sy’n ymwneud â’ch plentyn yn uniongyrchol. Er enghraifft, neiniau a theidiau, ewythrod, modrybedd, gofalwyr ar y cyd neu weithwyr cymorth o’r ysgol.

Cyflwynir Cygnet mewn modd croesawgar ac anffurfiol.

Gallwn weithio gyda chi yn ystod y dydd neu gyda’r nos.

Rydym yn cynnig copïau papur neu ddigidol o bob sesiwn i chi eu cadw, gwneud nodiadau a chyfeirio yn ôl atynt. Byddwn hefyd yn rhoi adnoddau eraill y gallai fod eu hangen arnoch.

Mae ein hwyluswyr Cygnet yn eich ystyried fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun, felly bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr cwbl hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: