Flying Start logo

Dechrau’n Deg Caerdydd

Yn darpau help ychwangenol i gael plant i ddechrau gorau mewn bywyd.

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau Teg mewn bywyd i blant 0-3 oed. Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau iaith, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol.

Mae hefyd yn pwysleisio datblygiad corfforol a nodi anghenion uchel yn gynnar. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy ddarparu cymorth ac arweiniad iechyd, grwpiau a chymorth rhianta, a gofal plant rhan-amser am ddim.

Dathlu 20 mlynedd o Ddechrau’n Deg

Mae Dechrau’n Deg Caerdydd yn dathlu 20 mlynedd o gefnogi plant a theuluoedd yn 2026.

Rydym wedi helpu miloedd o deuluoedd ar draws cymunedau i gael cymorth hanfodol. Er enghraifft:

  • Gofal plant
  • Cymorth rhianta
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Cymorth gyda’r blynyddoedd cynnar

Yn ystod y camau pwysicaf o ddysgu a datblygiad plentyn, ein nod yw:

  • rhoi’r dechrau gorau posibl iddynt, a
  • helpu eu rhieni neu ofalwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt ymdopi â bod yn rhiant.

Ers ein lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2006, rydym wedi tyfu ac esblygu i ddiwallu anghenion newidiol teuluoedd heddiw.

Cefnogi teuluoedd

Mae ein gwasanaethau yn parhau i ddarparu:

Cysylltwch

Dysgwch fwy am y ffordd y gallwn eich cefnogi chi neu cysylltwch â ni heddiw.

Baby holding a balloon