Rhieni a gofalwyr
Gall bod yn rhiant fod yn heriol a gwerth chweil ar yr un pryd.
Mae disgwyl i rieni wybod cymaint o bethau, ac yn aml mae angen ymateb yn gynt i’r pethau mwyaf cymhleth.
Fel rhiant, nid yw’n bosibl cael yr holl atebion bob amser.
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn deall hyn, ac felly byddwn wrth law gyda’r cymorth sydd ei angen arnoch, pan fydd ei angen arnoch.

Cysylltwch â ni
Gallwch chi ein ffonio ar 03000 133 133 a bydd ymgynghorwyr yn gwrando ar eich cwestiynau a cheisio cynnig cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol.
Anfonwch e-bost a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk