Ynghylch y gwasanaeth
Mae Teen Triple P ar gyfer rhienisy’n pryderu am ymddygiad eu plant sydd yn eu harddegau neu sydd am atal problemau rhag datblygu. Byddwn yn ceisio helpu rhieni i ddeall pam mae eich plentyn yn ei arddegau yn ymddwyn fel y mae.
Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cyfle gwych i gwrdd â rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg gyda phryderon tebyg, wrth ddysgu amrywiaeth o sgiliau rhianta.

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Beth sy’n dylanwadu ar ymddygiad person ifanc yn ei arddegau.
- Hyrwyddo datblygiad sgiliau pobl ifanc yn eu harddegau.
- Rheoli ymddygiad amhriodol.
- Addysgu hunan-reoli emosiynol.
- Cynllunio ar gyfer ymddygiad sy’n peri risg a sefyllfaoedd peryglus.
- Cynllunio at annibyniaeth gynyddol eich plentyn yn ei arddegau.
Gwybodaeth ymarferol
Mae’n fwyaf addas ar gyfer rhieni pobl ifanc yn eu harddegau.
Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n helpu i ofalu am eich plentyn.
Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae 5 sesiwn grŵp a 3 sesiwn ymarfer cartref.
Bydd egwyl lluniaeth ym mhob sesiwn grŵp.
Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche a redir gan staff cymwys. Rhowch wybod i ni os oes angen lle arnoch
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ein hymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Maen nhw’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun. Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.