Ynghylch y gwasanaeth
Gall bod yn rhiant i berson yn ei arddegau fod yn straen ac yn heriol. Mae’r Grŵp Rhieni Talking Teens yn helpu i ymdopi â’r heriau hyn er mwyn i chi alllu cael bywyd teuluol tawelach a hapusach. Bydd y cwrs yn eich helpu i feddwl am yr hyn rydych chi’n ei wneud, pam rydych chi’n ei wneud a sut mae’n gwneud i chi deimlo. Byddwch hefyd yn edrych ar gwestiynau sydd gan lawer o rieni, fel:
- Sut alla i atal fy mhlentyn rhag mynnu cael y gair olaf o hyd?
- Pam maen nhw bob amser yn cysgu’n hwyr?
- A allaf wneud unrhyw beth i’w helpu i ddadlau llai?
- Beth sy’n normal?
- Pam nad ydyn nhw eisiau dweud wrthyf sut maen nhw’n teimlo?

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Bod yn rhiant i blentyn yn ei arddegau a rôl rhieni ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau
- Ymateb i deimladau anodd
- Deall datblygiad yr arddegau a’r ymennydd yn yr harddegau
- Arddulliau rhianta, canmoliaeth a beirniadaeth
- Cyfathrebu â’ch plentyn yn ei arddegau, sut i gyfathrebu’n glir, siarad a gwrando
- Ymdrin â materion anodd a rheoli gwrthdaro
- Rheolau a ffiniau
- Dewis sut i ymateb
- Datrys problemau
Gwybodaeth ymarferol
Mae’n fwyaf addas ar gyfer rhieni pobl ifanc yn eu harddegau neu cyn eu harddegau.
Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n helpu i ofalu am eich plentyn.
Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Bydd egwyl lluniaeth ym mhob sesiwn.
Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r sesiynau gan fod pob un yn ffurfio rhan o’r jig-so, fel petai.
Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche a redir gan staff cymwys. Rhowch wybod i ni os oes angen lle arnoch
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ein hymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Maen nhw’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun. Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.