Ynghylch y gwasanaeth

Mae Rhianta Myfyriol yn rhaglen ynghylch rhianta sensitif a’i nod yw hyrwyddo perthnasoedd teuluol a lleihau gwrthdaro rhieni a phlant.

Mae’r rhaglen yn eich annog, drwy drafodaethau, gweithgareddau a dealltwriaeth newydd i stopio, meddwl ac ystyried persbectif eich plentyn cyn ymateb. Y nod yw atal sefyllfaoedd rhag mynd yn anoddach a lleihau ffrwydradau ymddygiadol ac emosiynol.

Elfennau allweddol Rhianta Myfyriol yw ymwybyddiaeth ofalgar, empathi, hunanymwybyddiaeth, chwilfrydedd a hyblygrwydd.

Gall y dull hwn arwain at fanteision i chi a’ch plentyn, megis:

  • Perthynas gryfach rhwng rhieni a phlentyn
  • Cyfathrebu gwell
  • Gwell rheoleiddio emosiynol
  • Sgiliau datrys problemau gwell
  • Mwy o empathi a dealltwriaeth
  • Ymlyniad diogel sy’n hanfodol
  • ar gyfer datblygiad emosiynol iach
  • Llai o heriau ymddygiadol
Muslim family relaxing and playing at home

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Cyfathrebu
  • Hunan-barch
  • Deall teimladau ac ymatebion
  • Deall swyddogaethau ymddygiadau
  • Perthnasoedd teuluol

Gwybodaeth ymarferol

Byddwn yn gweithio gyda chi mewn grŵp wyneb yn wyneb â rhieni eraill.  Fel arfer mae’r grwpiau’n cynnwys rhwng 8 a 12 o rieni a gofalwyr, sydd eisiau darganfod ffyrdd newydd o gefnogi eu plentyn.   Mae’r sesiynau’n cynnwys egwyl lluniaeth.

Byddwch yn cael yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y rhaglen.

Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.

Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un sesiwn er mwyn cael y gorau o’r rhaglen.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr cefnogol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn.

Gallwn gynnig crèche a gynhelir gan staff cymwys. Rhowch wybod i ni os oes angen lle arnoch.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: