Ynghylch y gwasanaeth
Gwaith plant yw chwarae – dyma sut maen nhw’n archwilio ac yn gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas; dyma sut maen nhw’n mynegi teimladau, yn cymryd risgiau, yn arbrofi ac yn rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o ryngweithio â’u hamgylchedd a’r bobl yn eu bywydau.
Mae Rhianta Chwareus yn weithdy 2 wythnos i chi ar ddeall pwysigrwydd chwarae i’ch plentyn. Sut mae chwarae yn cefnogi datblygiad corfforol, emosiynol a meddyliol eich plentyn ac yn creu cysylltiad diogel rhyngoch chi a’ch plentyn.
Nod y gweithdai yw rhoi’r ddealltwriaeth a’r syniadau i chi wneud bywyd pob dydd yn fwy chwareus i chi a’ch plentyn.

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Datblygiad plant, yr ymennydd, ymlyniad a sut mae chwarae yn cefnogi dysgu a datblygiad iach.
- Rôl yr oedolyn wrth chwarae.
- Defnyddio adnoddau rhad neu rad ac am ddim i greu cyfleoedd chwarae da, gan wneud bywyd pob dydd yn fwy chwareus.
- Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o ddisgyblu a gosod ffiniau.
Gwybodaeth ymarferol
Bydd egwyl lluniaeth ym mhob sesiwn.
Mae gweithgareddau a thrafodaethau difyr yn eich cefnogi i ddeall pwysigrwydd chwarae.
Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth i chi ofalu ac am ofal eich plentyn.
Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche a redir gan staff cymwys.
Rhoddir y deunyddiau sydd eu hangen arnoch i gefnogi eich dysgu yn ystod y pythefnos.
Mae Rhianta Chwaraeus yn cael ei gyflwyno gan ymarferwyr hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd sy’n ystyried mai chi yw’r arbenigwr ar eich plentyn eich hun a bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.