Ynghylch y gwasanaeth

Mae’r Rhaglen Magu Plant (RhMP) – anghenion Ychwanegol) wedi’i theilwra i rieni sydd â phlentyn ag anabledd neu anghenion ychwanegol. Bydd y rhaglen yn rhoi’r canlynol i chi:

  • syniadau a strategaethau y gallwch eu defnyddio i helpu i gefnogi’ch plentyn pan fydd wedi’i lethu,
  • deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn, a
  • gwybodaeth am gyfathrebu ar lafar a heb fod ar lafar.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, yn aml gallwch wynebu llawer o heriau ychwanegol yn eich taith rhianta. Gallai fod yn fuddiol siarad â rhieni eraill sydd â phrofiadau tebyg.

Mae’r grŵp yn cynnig cefnogaeth wych gan rieni eraill, ac mae pwyslais ar roi’r cyfle i chi rannu eich gwybodaeth, eich profiad a’ch syniadau gyda’ch gilydd.

Child with some big bubbles

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn
  • Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiadau
  • Rheolau teulu
  • Oedran a chamau mewn datblygiad plant
  • Cysylltu a chyfathrebu â’n plant
  • Datrys problemau a negodi
  • Canfod ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad ymhlith plant
  • Pwysigrwydd meithrin a gofalu am ein hunain
  • Magu a datblygu hunan-barch

Gwybodaeth ymarferol

Mae’n fwyaf addas ar gyfer rhieni plant rhwng 3 ac 11 oed.

Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n helpu i ofalu am eich plentyn.

Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Mae pob sesiwn tua 2 awr gydag egwyl ar gyfer lluniaeth.

Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r 11 sesiwn. Mae’r rhaglen yn dod at ei gilydd fel pos.

Cewch lyfr posau rhianta a deunyddiau eraill i gefnogi eich dysgu dros yr 11 wythnos.

Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche a redir gan staff cymwys.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ein hymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Maen nhw’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun. Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: