Ynghylch y gwasanaeth

Mae plant yn werth chweil, yn ysgogi ac yn llawn hwyl, ond gall gofalu amdanynt fod yn llawn straen a heriau. Mae’r Rhaglen Magu yn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn fel y gallwch gael bywyd teuluol tawelach a hapusach.  Ei nod yw helpu oedolion i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad.   Mae’n rhaglen brofedig sy’n ein helpu i feddwl am yr hyn a wnawn, pam rydym yn ei wneud a sut mae’n gwneud i ni deimlo.

Multiracial mixed family concept. Black father and white mother

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn.
  • Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiad (ein rhai ni a’u rhai nhw).
  • Ystyried dulliau gwahanol o ddisgyblu.
  • Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth ymhlith plant.
  • Pwysigrwydd meithrin a gofalu am ein hunain.

Gwybodaeth ymarferol

Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Mae egwyl ym mhob sesiwn.

Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.

Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r sesiynau gan fod y rhaglen yn ffitio ynghyd fel jig-so.

Darperir y rhaglen mewn modd anffurfiol gyda grŵp o tua 10 rhiant.

Cewch lyfr Posau Rhianta a deunyddiau eraill i gefnogi eich dysgu.

Gall rhieni a gofalwyr sy’n cymryd rhan yn y grŵp hwn gwblhau achrediad AGORED ar Lefel 1 os byddwch chi’n dymuno.

Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche sy’n cael ei gynnal gan staff cymwysedig.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr cwbl hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd sy’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun. Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.

Mae’r Rhaglen Magu Plant hefyd wedi’i theilwra ar gyfer rhieni sydd â phlant ag anableddau neu anghenion ychwanegol.

 


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: