Ynghylch y gwasanaeth

Gall bywyd teuluol fod yn heriol i blant, pobl ifanc a rhieni. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi teuluoedd â phlant rhwng 7 a 17 oed i gryfhau eu perthnasoedd a chefnogi plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw dyfu i fod yn bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion cyfrifol.

Woman and child blowing bubbles

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Bydd rhieni neu ofalwyr yn:

  • Trafod sut mae pobl ifanc ar yr oedran hwn
  • Cynllunio sut mae datrys problemau gyda phobl ifanc
  • Meddwl am ffyrdd o ddangos cariad a chefnogaeth
  • Cwrdd â rhieni neu ofalwyr eraill sydd â phobl ifainc rhwng 7 a 17 oed
  • Mae sesiynau’n defnyddio DVDs i ddangos sefyllfaoedd teuluoedd gwahanol
  • Byddwch yn cyflawni gweithgareddau a fydd yn eich helpu yn eich perthynas gyda’ch plentyn

Bydd pobl ifanc yn:

  • Dysgu sut i drin straen
  • Cynllunio ffyrdd o wrthsefyll pwysau gan eu cyfoedion
  • Dysgu sut i werthfawrogi rhieni neu bobl sy’n rhoi gofal
  • Cwrdd â phobl ifanc eraill o’r un oed
  • Chwarae gemau, cymryd rhan mewn gweithgareddau a dysgu sgiliau newydd a chael hwyl

Gwybodaeth ymarferol

Mae’r sesiynau’n cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb mewn grŵp gyda theuluoedd eraill, neu gallwn ddod i gartref eich teulu a gweithio gyda’ch teulu yn unigol.

Gwahoddir rhieni, llys-rieni a gofalwyr i gyd i’r sesiynau.

Os ydych chi’n mynychu sesiwn grŵp, byddwn yn darparu lluniaeth. Mae’r sesiynau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gyda’r nos.

Rhennir pob sesiwn yn 2 ran:

  • Yn y rhan gyntaf, bydd rhieni a gofalwyr yn cael amser trafod tra bod y plant a’r bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Yn yr ail ran, mae pawb yn dod at ei gilydd am amser teulu. Mae’r gweithgareddau hyn wedi’u cynllunio i gryfhau perthnasoedd ac annog cyfathrebu.

Mae yna crèche i blant iau. Mae’n cael ei gynnal gan staff cymwysedig.

Ymarferwyr wedi’u hyfforddi’n llawn sy’n cyflwyno’r sesiynau.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: