Ynghylch y gwasanaeth
Mae Mellow Dads-to-be yn grŵp sy’n benodol i ddarpar dadau i’ch cefnogi yn y cam newydd hwn. Mae’r rhaglen yn fwyaf addas i ddarpar dadau ar ôl 20 wythnos neu fwy o feichiogrwydd.
Bydd amser i feddwl a siarad am sut rydych chi’n teimlo am ddod yn dad. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr ac os ydych chi’n hapusach ac yn cael gofal, bydd eich babi’n teimlo hynny hefyd.
Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i atebion i heriau cyffredin y gallech eu hwynebu.
Gallwch hefyd gwrdd â thadau newydd eraill ar hyd y ffordd.

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Straen a phryderon cyffredin ynghylch dod yn rhiant.
- Ffyrdd o helpu i ymlacio a lleihau straen a pham mae hynny’n bwysig i chi, eich partner a’ch babi.
- Sut mae babis yn cyfathrebu a rhoi gwybod i chi am sut maen nhw’n teimlo.
- Eich rhan bwysig chi wrth ddatblygu ymennydd eich babi trwy chwarae a siarad ag ef neu hi.
- Eich rôl wrth adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer dyfodol eich babi.
Bydd yn lle diogel i chi a darpar dadau eraill rannu eich taith a’ch profiadau.
Gwybodaeth ymarferol
Mae yna grwpiau Mellow Bumps ar wahân ar gyfer mamau a grwpiau i ddarpar dadau. Maen nhw’n rhoi lle diogel i ddarpar rieni siarad ag eraill a fydd yn rhannu rhai o’r un teimladau.
Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Cewch lyfryn a deunyddiau eraill i’ch helpu i gefnogi eich dysgu dros y 7 wythnos.
Cyn i’r grŵp ddechrau cynhelir 3 sesiwn gyda chi a’r hwylusydd er mwyn i chi drafod sut beth yw natur y grŵp a’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl. Rydyn ni eisiau i chi deimlo’n barod i ymuno â’r grŵp.
Caiff Mellow Bumps a Mellow Dads-to-be eu darparu gan Wasanaethau Rhianta Caerdydd, ar gyfer teuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.