Ynghylch y gwasanaeth

Rydym yn cyflwyno ymyriadau personol gyda rhieni a phlant yn y cartref teuluol neu leoliad cymunedol. Mae gennym gyfoeth o hyfforddi, a phrofiad o, weithio gyda rhai sy’n rhoi gofal, babanod a phlant bach.  Mae pob teulu yn unigryw, felly bydd pob darn o waith yn cael ei adeiladu o amgylch eich teulu.

Byddwn yn dechrau drwy gysylltu â chi dros y ffôn i ofyn rhai cwestiynau i chi a dweud mwy wrthych am ein gwasanaeth.  Os cytunir arno, byddwn yn trefnu amser i’r seicolegydd a’r ymarferydd dan arweiniad seicoleg ddod i ymweld â chi.  Yn ystod yr ymweliad cychwynnol hwn, byddwn yn gofyn mwy o gwestiynau amdanoch chi a’ch teulu ac yn cytuno gyda’n gilydd y meysydd yr hoffech ganolbwyntio arnynt yn ystod ein gwaith gyda’n gilydd.

A dad holding a baby on his lap

Beth sydd wedi’i gynnwys?

Byddwn yn dod â syniadau o seicoleg i’ch helpu i ddeall a chefnogi datblygiad a llesiant eich plentyn ymhellach a byddwch chi yn dod â’ch gwybodaeth a’ch arbenigedd ynghylch eich plentyn a’ch teulu eich hun.

Fel tîm, rydym yn y sefyllfa orau i’ch helpu gyda:

  • eich perthynas sy’n datblygu gyda’ch plentyn,
  • ymddygiad eich plentyn,
  • chwarae eich plentyn,
  • datblygiad cynnar, a
  • lles eich plentyn.

Os penderfynir, pan fyddwn yn cwrdd gyntaf, nad ni sydd yn y sefyllfa orau i’ch cefnogi, gallwn eich cyfeirio at yr help a’r gefnogaeth gywir.


Gwybodaeth ymarferol

Os ydych yn cytuno i weithio gyda ni, byddwn yn ymweld â chi yn rheolaidd, am oddeutu awr, dros gyfnod y cytunwyd arno.  Bydd yr ymarferwyr yn y tîm, gan ddilyn egwyddorion seicoleg, yn cynnal yr ymweliadau wythnosol hyn gyda chi a’ch plentyn.

Bydd y seicolegwyr yn y tîm yn helpu i gynllunio a goruchwylio’r gwaith.

Byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gytuno a holiadur byr cyn ac ar ôl ein gwaith gyda’n gilydd.  Byddwn hefyd yn gofyn i chi am eich profiad o weithio gyda ni.

Byddwch hefyd yn cael cofnod ysgrifenedig o’r gwaith rydym yn ei gwblhau gyda’n gilydd. Gallwch rannu’r wybodaeth hon â phwy bynnag y dymunwch ei rhannu.

Os oes gennych blentyn hŷn, mae gennym dîm arall dan arweiniad seicoleg o’r enw Rhieni Yn Gyntaf a allai eich cefnogi mewn ffordd debyg.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: