Ynghylch y gwasanaeth

Mae GroBrain yn ystyried creu perthnasau, emosiynau a brofir gan rieni a babis, a datblygiad yr ymennydd. Mae rhieni yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad ymennydd eu babi.

Mae’r blynyddoedd cynnar yn arbennig o bwysig. Mae sylfeini hanfodol ar gyfer iechyd a lles gydol oes yn cael eu gosod yn ymennydd eich babi o adeg eu cenhedlu hyd at 2 oed.

Mae profiadau a pherthnasoedd yn ystod y 1001 diwrnod cyntaf hyn o fywyd yn rhyngweithio â’n genynnau ac yn effeithio ar y ffordd y mae’r ymennydd yn datblygu.

A mum and dad hugging a small child

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Sut mae’r ymennydd yn cael ei ‘weirio’ gan brofiadau a pherthnasoedd cynnar.
  • Effaith straen ar ymennydd babi.
  • Sut i ddeall ciwiau ac arwyddion eich babi, ac ymarfer ffyrdd o gysuro babi.
  • Sut i reoli emosiynau eich babi.
  • Sut i greu perthynas â’ch babi.
  • Tylino babis.
  • Edrych ar sut mae dewisiadau deiet a ffordd o fyw yn ystod beichiogrwydd yn gysylltiedig â datblygiad ymennydd babi.

Gwybodaeth ymarferol

Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Mae egwyl ar gyfer lluniaeth ym mhob sesiwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynd i bob un o’r pum sesiwn er mwyn cael y gorau o’r rhaglen.

Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.

Darperir y rhaglen mewn modd anffurfiol gyda grŵp o tua 10 rhiant.

Os byddwch yn dod i grwpiau wyneb yn wyneb, rydyn ni’n cynnig crèche sy’n cael ei gynnal gan staff cymwysedig, neu mae croeso i chi ddod gyda’ch babi. Mae croeso i chi fwydo eich babi yn ystod y sesiynau.

Cewch lyfryn a deunyddiau eraill i gefnogi eich dysgu dros y 5 wythnos.

Mae rhaglen GroBrain yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr cwbl hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd sy’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun. Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: