Ynghylch y gwasanaeth

Gall bod yn rhiant i blentyn bach fod yn anodd, wrth i’n rhai bach ddod yn fwy annibynnol.

Mae GroBrain Plant Bach yn edrych ar ymlyniad a datblygiad yr ymennydd gan ganolbwyntio ar y rôl hanfodol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae wrth ‘weirio’ ymennydd eu plant bach. Mae hefyd yn edrych ar bwysigrwydd gosod sylfeini cadarn ar gyfer lles emosiynol. Bydd hyn yn cefnogi’ch plentyn bach yn ddiweddarach yn eu bywyd.

Cyflwynir pob sesiwn gan ddefnyddio gweithgareddau, trafodaethau, cwisiau ac amser i sgwrsio â rhieni a gofalwyr eraill.

Mae’r cwrs yn edrych ar sut y gallwch ateb 3 chwestiwn mawr eich plentyn bach:

  • Ydw i’n annwyl?
  • Oes unrhyw un yno i fi pan fydd ei angen arna i?
  • Oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn beth sydd gen i i’w ddweud?
Happy Baby Girl Playing With Toys In Playroom

Beth sydd wedi’i gynnwys?

  • Ddatblygiad ymennydd plant bach
    Deall mwy am yr hyn sy’n digwydd yn ymennydd eich plentyn bach. Sut y gallwch chi ‘wifrio’ ymennydd eich plentyn bach, gan ei helpu i deimlo’n annwyl i eraill.
  • Ymlyniad a datblygiad emosiynol
    Deall sut i ymateb i’ch plentyn bach, meddwl am ymlyniad ac emosiynau, helpu eich plentyn bach i ddysgu am deimladau a chreu gwifrio cryf i ymdrin ag emosiynau yn y dyfodol.
  • Helpu’ch plant bach i reoli eu hymddygiad
    Archwilio’r cyswllt rhwng emosiynau ac ymddygiad, a helpu plant bach i reoli eu hemosiynau mewn modd iach. Hefyd, edrych ar sut y gall chwilfrydedd eich helpu i ddeall pam mae eich plentyn bach yn ymddwyn mewn ffordd arbennig.
  • Deall mwy am ymddygiad plant bach
    Dysgu sut i reoli emosiynau mawr eich plentyn bach, strategaethau dysgu sy’n dda ar gyfer iechyd emosiynol hirdymor, edrych ar beth yw ymddygiad normal ac archwilio anian eich plentyn bach.
  • Cyfathrebu, chwarae a pharatoi at yr ysgol
    Edrych ar bum maes datblygu, gan ganolbwyntio ar siarad a pharodrwydd i chwarae gyda phlant bach eraill.

Gwybodaeth ymarferol

Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Mae egwyl ar gyfer lluniaeth ym mhob sesiwn.

Rydym yn argymell eich bod yn mynd i bob un o’r pum sesiwn er mwyn cael y gorau o’r rhaglen.

Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn

Cewch lyfryn a deunyddiau eraill i gefnogi eich dysgu dros y 5 wythnos.

Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche sy’n cael ei gynnal gan staff cymwysedig.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr cwbl hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd sy’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun.

Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.


Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..

Gallwch gysylltu â ni drw: