Ynghylch y gwasanaeth
Mae Cylch Diogelwch yn rhaglen ar gyfer rhieni babanod a phlant iau sy’n seiliedig ar berthynas gyda’r nod o wella’r cwlwm a’r ymdeimlad o ddiogelwch i rieni a’ch plant.
Mae’r sesiynau’n rhoi lle i chi wneud synnwyr o anghenion ac ymddygiad eich plentyn a meddwl sut y gallwch gefnogi eich plentyn pan fo’n iau. Bydd y gefnogaeth hon yn ei helpu trwy gydol ei oes.
Trwy feithrin dealltwriaeth o’ch anghenion eich hun ac anghenion eich plentyn, gallwch adeiladu ar eich perthynas â’ch plentyn, gan greu diogelwch parhaol.

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Sut mae eich plentyn yn dysgu ymgysylltu â chi neu’n ffurfio ymlyniad wrthych.
- Sut y gallwch ddeall anghenion ac ymddygiad eich plentyn fel y gallwch fwynhau perthynas gryfach ag ef/hi, lle mae’r ddau ohonoch yn teimlo’n hapusach.
- Gwneud synnwyr o’r hyn y mae eich plentyn yn ei ofyn gennych chi – deall plant, eu hymddygiad a’u datblygiad emosiynol.
- Deall dylanwadau rhianta.
- Helpu plant i deimlo’n ddiogel yn eu byd.
- Adnabod a gwella cryfderau rhianta
Gwybodaeth ymarferol
Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche sy’n cael ei gynnal gan staff cymwysedig.
Byddwch yn cael llyfryn ac unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen arnoch i helpu i gefnogi eich dysgu.
Mae egwyl ym mhob sesiwn.
Rydym yn argymell eich bod yn mynychu pob un sesiwn er mwyn cael y gorau o’r rhaglen.
Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr cwbl hyfforddedig o Wasanaethau Rhianta Caerdydd sy’n eich gweld chi fel yr arbenigwr ar eich plentyn eich hun. Bwriedir i’r sesiynau hyn fod yn rhyngweithiol.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.