Ynghylch y gwasanaeth
Gall gofalu am eich plant fod yn llawn straen a heriau ar adegau. Mae Cadw Eich Plentyn Mewn Cof yn grŵp i rieni a phobl sy’n rhoi gofal i’ch helpu i weithio gyda’ch gilydd mewn ffyrdd sy’n cefnogi:
- plant sy’n tyfu, a
- bywyd teuluol llai cynhyrfus.
Rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth ac ymchwil i wella dealltwriaeth rhieni o ddylanwad perthynas rhieni ar blant a phobl ifanc. Mae gwrthdaro rhwng rhieni a gofalwyr yn rhan arferol o berthnasoedd a bywyd teuluol ac nid yw pob gwrthdaro yn niweidiol pan gaiff ei ddatrys yn adeiladol.
Mae’r rhaglen hon yn ein helpu i feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, pam rydyn ni’n ei wneud a sut mae’n gwneud i ni i gyd deimlo yn y teulu.
Mae’r rhaglen yn rhoi ffyrdd i rieni a gofalwyr ddatrys gwrthdaro ymhlith perthnasoedd yn adeiladol, gan ddarparu modelu rôl da i blant a fydd yn:
- Gwella eu cyfle i gael perthnasoedd iachach yn y dyfodol
- Gwneud yn well yn yr ysgol
- Cynyddu eu cyfleoedd cyflogadwyedd
- Lleihau’r risg o iselder a gorbryder

Beth sydd wedi’i gynnwys?
- Dod i adnabod ein gilydd, beth i’w ddisgwyl gan y rhaglen a beth fydd yn ein helpu i gydweithio.
- Archwilio pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol o fewn teuluoedd.
- Datblygu dealltwriaeth rhieni o effaith eu perthnasoedd rhyngbersonol ar blant a phobl ifanc.
- Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o leihau gwrthdaro rhwng rhieni.
- Rhoi cyfle i rieni rannu eu profiadau gydag eraill.
Gwybodaeth ymarferol
Gallwn weithio gyda chi mewn grŵp neu’n unigol naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Mae egwyl ym mhob sesiwn.
Byddwch yn cael llyfryn i helpu i gefnogi eich dysgu.
Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neu berthynas arall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.
Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r sesiynau gan fod y rhaglen yn ffitio ynghyd fel jig-so.
Os ydych yn dod i grŵp wyneb yn wyneb, gallwn ddarparu crèche sy’n cael ei gynnal gan staff cymwysedig. Rhowch wybod i ni os oes angen lle arnoch.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.