Dewch o hyd i wybodaeth am y gwahanol grwpiau a rhaglenni sy’n gallu eich helpu.
Grŵp Un
Mae Grŵp Un yn cefnogi teuluoedd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg gyda phlant 0-5 oed sydd ag anghenion ac anableddau ychwanegol sy’n datblygu ac a nodwyd.
Bydd y grŵp yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â phobl newydd, a rhieni a phlant eraill. Byddwch hefyd yn cael cyngor uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol mewn meysydd megis:
- iechyd,
- addysg a
- gofal cymdeithasol.
Sut mae’r grŵp yn gweithio
Mae’r grŵp yn cwrdd yn rheolaidd ar-lein ac yn bersonol mewn gwahanol leoedd ledled Caerdydd. Mae’r sesiynau’n para tua awr, a gallwch fynd i gynifer ag y dymunwch.
Unwaith y mis, bydd sesiynau ‘holi’r gweithiwr proffesiynol’ lle gallwch gael cyngor proffesiynol ar wahanol bynciau, megis:
- bwydo,
- cysgu ac
- anghenion synhwyraidd.
Does dim tâl i fynychu’r grŵp.
Sut i gael mynediad i’r grŵp
Os ydych chi eisiau mynychu, cysylltwch â Grŵp Un ar Facebook neu ffoniwch 029 2087 2717.
Rhaglen Magu Plant
Mae’r Rhaglen Magu Plant (RhMP) ar gyfer rhieni plant 3-11 oed sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Mae rhieni plant ag anghenion ychwanegol yn gallu treulio llawer mwy o amser yn gofalu am eu plant. Rhan bwysig o’r rhaglen yw archwilio ffyrdd o feithrin eich hun a’ch annog i wneud hynny.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig syniadau a strategaethau y gallwch eu defnyddio i helpu i gefnogi’ch plentyn pan fydd ei emosiynau’n ei lethu. Mae hefyd yn helpu i esbonio pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn ac yn edrych ar gyfathrebu llafar a di-eiriau.
Yr hyn mae’r rhaglen yn cwmpasu
Dros 11 wythnos byddwch chi’n edrych ar sawl pwnc, gan gynnwys:
- deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn
- adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiad
- ystyried dulliau gwahanol o ddisgyblu
- cysylltu a chyfathrebu â’ch plentyn
- dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithredu a hunanddisgyblaeth ymhlith plant
- pwysigrwydd gofalu amdanom ni ein hunain a meithrin ein hunain.
Sut mae’r rhaglen yn gweithio?
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr o dimau Rhianta Caerdydd a Dechrau’n Deg.
Rydyn ni’n gallu gweithio gyda chi yn unigol neu mewn grŵp. Mae sesiynau’n gallu cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae pob sesiwn yn para tua 2 awr gydag egwyl ar gyfer lluniaeth.
Os byddwch yn dewis mynd i sesiwn wyneb yn wyneb, rydym yn darparu crèche.
Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r 11 sesiwn.
Mae croeso i chi ddod ar eich pen eich hun neu gyda rhywun arall sy’n gofalu am eich plentyn. Er enghraifft, neiniau a theidiau neu weithwyr cymorth o’r ysgol.
Beth Nesaf?
Mae gwefan Beth Nesaf? Caerdydd yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol i bobl ifanc 16 i 24 oed sydd ag anghenion ychwanegol i ddewis eu camau nesaf ac archwilio cyfleoedd.
Cynlluniau Rhianta a Dechrau’n Deg Caerdydd
Mae nifer o grwpiau eraill yn cael eu rhedeg gan Rhianta Caerdydd a’r cynllun Dechrau’n Deg yng Nghaerdydd.
Sylwer nad yw’r grwpiau hyn yn canolbwyntio’n benodol ar anabledd ac anghenion ychwanegol ond maent yn hygyrch i bawb.
Gwybodaeth am y gwahanol grwpiau rydym yn eu cynnig.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr o hyd pa gymorth sy’n iawn i chi, cysylltwch â ni. Mae ein cynghorwyr yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth cywir i chi a’ch teulu.
Gallwch chi gysylltu â ni drwy:
- lenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu
- ffonio 03000 133 133.