Mae bod yn rhiant i blentyn neu berson ifanc sydd ag anabledd, neu anghenion ychwanegol (â diagnosis neu heb ddiagnosis) yn dod â heriau unigryw. Mae dod o hyd i gyngor a chymorth sy’n iawn i chi a’ch teulu’n gallu bod yn anodd.
Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnoch os ydych yn rhiant i blentyn neu berson ifanc:
- nad oes ganddo/i ddiagnosis ond sydd angen cymorth ychwanegol yn eich barn chi,
- sy’n cael asesiad ar gyfer anabledd neu angen ychwanegol, neu
- sydd wedi cael diagnosis o anabledd neu angen ychwanegol.