Mae llawer o weithgareddau gwahanol y gallwch eu gwneud ar draws Caerdydd.
Parciau
Archwiliwch barciau hardd Caerdydd, gan gynnwys Parc Bute, Parc y Rhath a Pharc Fictoria. Mae yna lwybrau cerdded, meysydd chwarae ac ardaloedd picnic i chi eu mwynhau.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Awyr Agored Caerdydd.
Hybiau
Ewch i’ch Hyb lleol ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd.
Mae’r Hybiau hefyd yn cynnal gweithdai, cylchoedd chwarae, a chyfarfodydd cymdeithasol i deuluoedd.
Dewch o hyd i’ch Hyb lleol a gweld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.
Sesiynau chwarae
Mae Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd yn cynnal sesiynau chwarae galw heibio ledled Caerdydd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 14 oed.
I ddod o hyd i sesiwn chwarae yn agos atoch chi, ewch i wefan Gwasanaethau Chwarae Plant.
Gwasanaethau Ieuenctid
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chefnogaeth i bobl ifanc.
Clybiau Ieuenctid
Mae clybiau ieuenctid lleol yn darparu lle diogel i bobl ifanc gymdeithasu, gwneud ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mae’r clwb ieuenctid digidol yn cynnig lle diogel i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed gwrdd â ffrindiau newydd, cael gafael ar gymorth a dysgu sgiliau newydd ar-lein ac wyneb yn wyneb. Gallwch ddysgu sgiliau newydd fel:
- Creu celf ddigidol
- Creu cynnwys
- Codio
- eChwaraeon
Prosiectau ieuenctid
Gallwch gymryd rhan mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad personol, datblygu sgiliau newydd, ac ymgysylltu â’r gymuned.
Cyngor Ieuenctid
Mae Cyngor Ieuenctid Caerdydd yn gyngor sydd yn cynnwys pobl ifanc i gynrychioli pobl ifanc 11 i 25 oed. Maen nhw’n eirioli dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Ieuenctid Caerdydd.
Pasbort i Ddinas Caerdydd
Mae’r rhaglen Pasbort i Ddinas Caerdydd yn darparu mynediad am ddim neu am bris gostyngol i atyniadau a gweithgareddau amrywiol yng Nghaerdydd.
Gallech gael mynediad am ddim neu am bris gostyngol i amgueddfeydd, canolfannau hamdden a digwyddiadau.
Gallwch hefyd fanteisio ar gynigion arbennig ar weithgareddau sy’n addas i deuluoedd fel nofio, chwaraeon, a chelf a chrefft.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Pasbort i Ddinas Caerdydd.
Chwaraeon
Gallwch gymryd rhan yn chwaraeon gwahanol Canolfannau hamdden Caerdydd.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi llunio detholiad o weithgareddau i gael y teulu i symud.
Dinas sy’n Dda i Blant
Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i gael ei chydnabod fel Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF. Mae hyn yn golygu bod Caerdydd yn ddinas y mae plant a phobl ifanc yn greiddiol iddi, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu gan bawb, ac yn lle gwych i gael eich magu.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Caerdydd sy’n Dda i Blant.