Gwasanaeth Rhieni a Mwy a Gwasanaeth Rhieni yn Gyntaf a Arweinir gan Seicoleg

Ein ffenestr oddefgawrch

Mae gan bob un ohonom ein ‘Ffenestr Oddefgarwch’ ein hunan

Mae gan rai ohonom ffenestr fach, tra mae gan eraill ffenestr fwy.

Gall ein ffenestr oddefgarwch newid.

Gall ein profiadau naill ai grebachu neu ehangu ein ffenestr.

Mae gan bob un ohonom sbardunau gwahanol a fydd yn ein gwthio allan o’n ffenestr oddefgarwch.

Yn ystod adegau anodd neu sy’n adegau sy’n peri straen gall ein ffenestr fod yn arbennig o fach.

Y tu allan i’n ffenestr oddefgarwch (lefel uchaf)

Efallai y byddwn yn gor-gyffroi (ymateb ymladd neu ddianc).

Mae cyfradd curiad ein calon yn cynyddu ac mae’n bosibl y byddwn yn crynu. Efallai y byddem yn teimlo bod pethau’n drech arnom ni, efallai bydd arnom ofn, a byddwn yn ddig. Efallai y byddwn yn dangos hyn drwy fynd yn ymosodol, gorbryderus, obsesiynol a/neu yn ceisio rheoli.

Y tu mewn i’n ffenestr

Rydym ar ein gorau personol (tawel ond gwyliadwrus).

Gallwn: feddwl, caru, dysgu, bod yn chwareus, deall teimladau pobl eraill , archwilio, myfyrio, defnyddio geiriau i ddisgrifio ein teimladau a delio â heriau y gallem eu hwynebu.

Y tu allan i’n ffenestr oddefgarwch (lefel isaf)

Efallai y byddwn yn tan-gyffroi (rhewi).

Mae ein cyfradd curiad y galon yn gostwng. Gallem deimlo’n wastad, yn cau i lawr, yn wag, isel neu fel nad oes gennym unrhyw egni. Efallai y byddwn yn dangos hyn drwy fynd yn dawedog, tawel, ddiymateb, anweithgar ac yn dangos ychydig o emosiwn.

Gallwn helpu plant i ehangu eu ffenestr oddefgarwch, fel eu bod yn gallu treulio mwy o amser o fewn ei ffiniau, drwy:

Greu rhyngweithiadau , cynnes, cariadus.

Tawelu eu hemosiynau drostynt a gyda nhw. Dangos iddynt a’u haddysgu am sut i sylwi, cyfathrebu a rheoli eu hemosiynau.

Meddwl am ac enwi eu teimladau.

Aros yn ein ffenestr ein hunain (aros yn ddigyffro), i’w helpu nhw i ddi-gyffroi hefyd.

Dangos iddynt ffyrdd o aros yn eu ffenestr neu fynd yn ôl iddi, er enghraifft, trwy weithgareddau anadlu neu symud.

Sylwi ar eu sbardunau a’u hosgoi.

Eu helpu i wybod nad yw eu hemosiynau yn ddrwg a bod modd eu cefnogi.

Cysylltu â nhw cyn cywiro ymddygiad.

Cydnabydd ir gwaith Dan Siegel a Beacon House

Am ragor o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Borth i Deuluoedd Caerdydd:

Ffôn: 03000 133 133

E-bost: CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk

Ar-lein: www.cardifffamilies.co.uk/cy/

Cardiff Council dragon logo
Cardiff Flying Start