Mae Datblygu’r Gweithlu yn cydlynu ac yn comisiynu cyrsiau hyfforddi ar gyfer staff Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Plant, yn ogystal â thimau a gyflogir trwy’r grant Teuluoedd yn Gyntaf. Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu at staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, mewn rôl ymyrraeth gynnar a gofal cymdeithasol.

Mae’r hyfforddiant a gynigir yn cynnwys sesiynau ar godi ymwybyddiaeth a rheoli materion a sefyllfaoedd y bydd gweithwyr proffesiynol yn eu hwynebu, yn ogystal â chyrsiau ar sut mae gweithwyr proffesiynol yn ymgysylltu â’r teuluoedd a’r unigolion y maent yn gweithio gyda nhw.

Trwy gymryd ymagwedd gynhwysol ac amlasiantaethol at ein hyfforddiant, mae’n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn bodloni disgwyliadau’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf

Anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk

Cyrsiau i Ddod

Yn anffodus, nid oes unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill.