I bwy mae e?

Mae’r Gwasanaeth Lles Teuluol yn cynnig ymyrraeth gynnar a chymorth i deuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd gyda phlant hyd at 25 oed ac sydd ag angen wedi ei nodi am gymorth o ran iechyd a lles emosiynol a meddyliol ond sydd o dan y lefel lle byddai ganddynt hawl i wasanaeth iechyd arbenigol a/neu ofal a chymorth statudol.`

Pa gymorth a gynigir?

Trwy ddefnyddio dulliau systemig, rydym yn gweithio gydag unigolion mewn teuluoedd neu grwpiau teulu cyfan, gan gynnig amrywiaeth o ymyriadau pwrpasol, mae’r dull hyblyg hwn yn ein galluogi i weithio ar gyflymder teuluoedd, rydym yn cynnal asesiad trylwyr gan ddefnyddio mesuriadau llinell sylfaen sy’n ein galluogi i defnyddio’r ymyriad mwyaf priodol ar yr adeg fwyaf priodol iddynt.

Rydym yn rhoi ystod o gymorth unigol sy’n cynnwys;

Therapïau, Cwnsela a Chymorth gan Ymarferwyr Teulu sy’n briodol i oedolion, plant a phobl ifanc yn y drefn honno; rydym yn cynnig y rhain i wella lles unigol ac yn gwella gweithrediad a gwydnwch y teulu.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ymyriadau grŵp cefnogol/therapiwtig sy’n cynnwys:

 

‘Side by Side’ – grŵp sy’n rhedeg am 3-4 wythnos. Mae’n addas ar gyfer Plant/pobl ifanc 6-10 oed a’u teuluoedd. Mae ar gyfer y rhai sy’n cael anhawster gyda pherthnasoedd ag aelodau teulu/cyfoedion, sgiliau emosiynol a sgiliau cymdeithasol. Gellir ei ddefnyddio lle bu digwyddiad arwyddocaol megis colled, profedigaeth neu drawma ac mae’n seiliedig ar bum ffordd i les. Mae grwpiau i blant a phobl ifanc yn rhedeg ar yr un pryd. Ac mae sesiynau i deuluoedd hefyd gyda’r plant a’r bobl ifanc a’u teuluoedd gyda’i gilydd.

 

Mae ‘Muddles, Puddles and Sunshine’ yn grŵp profedigaeth a cholled sy’n rhedeg am 6 wythnos. Mae ar gyfer y rhai sydd wedi colli anwyliaid ac mae’n cael ei gyflwyno i grwpiau o 4 plentyn/person ifanc oherwydd natur y grŵp.

 

 

Mae Ymdopi â phrofedigaeth a cholled yn cynnwys sesiynau grŵp sy’n para hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn. Mae’n grŵp sy’n cael ei gyflwyno ar achlysuron arbennig megis adeg Nadolig ac sy’n edrych ar wahanol ffyrdd o ymdopi â’r teimladau mae plant yn dweud wrthyn ni eu bod yn eu cael ar ôl marwolaeth ar yr adegau hyn.

 

 

Mae Therapi Celf yn grŵp sy’n rhedeg am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant/pobl ifanc 11+ oed ac yn cynnig lle creadigol i fynegi emosiynau anodd a phryderon gwaelodol.  Mae’n defnyddio deunyddiau celf i ddangos iddyn nhw eu hunain a phobl eraill sut maen nhw’n teimlo.

 

Mae Bounce yn grŵp sy’n rhedeg am 7 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 7-11 oed ac yn cael ei gyflwyno i grwpiau wedi’u targedu o 6 yn ystod y diwrnod ysgol. Mae Bounce yn grŵp ar gyfer plant sydd wedi cael profiad o deulu wedi’i chwalu; a allai ei chael hi’n anodd ymdopi â’u rhieni’n gwahanu ac felly        golli aelod o’r teulu (rhiant, brawd/chwaer, mam-gu/tad-cu, ac ati). Ddim ar waith ar hyn o bryd oherwydd Covid 19

 

Mae Bright Stars yn grŵp sy’n rhedeg am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 7-11 oed ac yn cael ei gyflwyno i grwpiau wedi’u targedu o 6 yn ystod y diwrnod ysgol.  Bydd pob aelod o’r grŵp wedi’i nodi fel un sydd â hunan-barch isel neu ddiffyg hyder. Ddim ar waith ar hyn o bryd oherwydd Covid 19

 

Mae Friendship Circle yn grŵp sy’n rhedeg am 7 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 7-11 oed ac yn cael ei gyflwyno i grwpiau wedi’u targedu o 6 yn ystod y diwrnod ysgol. Mae pob aelod o’r grŵp wedi’u nodi fel un sy’n cael anawsterau gwneud a chadw ffrindiau. Ddim ar waith ar hyn o bryd oherwydd Covid 19

 

Mae Girls Talk yn grŵp sy’n rhedeg am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 9-11 oed ac yn rhoi gwybodaeth ffeithiol ac arweiniad ar faterion yn ymwneud â thyfu i fyny.

 

Mae Happening yn grŵp sy’n rhedeg am 8 wythnos. Mae’n addas ar gyfer plant 12-15 oed ac yn cael ei gyflwyno i grwpiau wedi’u targedu o 6 yn ystod y diwrnod ysgol.   Bydd pob aelod o’r grŵp wedi’i nodi fel un sydd â lles emosiynol isel, anawsterau o ran rheoleiddio emosiynau, hunan-barch isel, a diffyg hyder, neu anawsterau gwneud a chadw ffrindiau. Ddim ar waith ar hyn o bryd oherwydd Covid 19

 

Mae Reboot yn grŵp sy’n rhedeg am 7 wythnos Mae’n addas ar gyfer plant sy’n dioddef gorbryder ac yn helpu i ddysgu technegau i ymdopi â’r pryderon hyn.

Sut i wneud atgyfeiriad?

Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy Borth atgyfeirio Cymorth Cynnar Caerdydd Ffôn: 03000 133 133 neu drwy ei wefan CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost i: cardifffamilywellbeing@barnardos.org.uk neu ffoniwch 02920 577074