
Telerau ac Amodau Grant Datblygu’r Gweithlu Caerdydd a Chanolfan Achrededig Cyngor Caerdydd 2024-25

Bydd cymeradwyo a thalu Grant neu gymorth ariannol gan y Cyngor yn amodol ar y telerau a’r amodau canlynol ynghyd ag amrywiadau neu unrhyw amodau arbennig arall a allai’r Cyngor eu nodi ar adeg y cynnig ar yr adeg y rhoir y gymeradwyaeth.
O ran y Telerau ac Amodau, rhoddir yr ystyron canlynol i’r geiriau canlynol:
Cytundeb
Y dogfennau hynny y cyfeirir atynt yng nghymal 4.
Grant
Y swm neu’r symiau a nodir yn y llythyr cynnig.
Grantî
Y sefydliad neu’r corff a enwir yn llythyr y cynnig.
Cyngor
Cyngor Sir Dinas A Sir Caerdydd.
Project
Rhaglen o weithrediadau, ymchwil, datblygu, neu weithgareddau eraill a nodir yn y cais neu’r fanyleb.
1. Rhaid i’r Grantî dderbyn yr holl delerau ac amodau hyn yn ysgrifenedig cyn y telir unrhyw Grant a phetai diffyg neu oedi ar ran y Grantî mewn perthynas â derbyn y Grant neu unrhyw ran o’r Grant yna byddwn yn tybio bod y Grantî yn derbyn y telerau hyn.
2. Dim ond at y dibenion a gymeradwywyd yn llythyr y Cyngor sy’n cynnig y Grant y gellir defnyddio unrhyw Grant a ddyfernir gan y Cyngor. Lle na nodir unrhyw ddibenion yn y llythyr hwnnw, y dibenion a gymeradwyir bydd y rhai a nodwyd yn benodol gan y Grantî yn y ffurflen gais a/neu Fanyleb Grant ac unrhyw atodiad y cytunwyd arno. Gellir addasu’r dibenion cymeradwy drwy gytundeb ysgrifenedig rhwng y Cyngor a’r Grantî. Bydd y cytundeb rhagosodedig bob amser yn nodi’r dibenion hynny a nodwyd yn benodol yn y ffurflen gais, y Fanyleb Grant ac unrhyw atodiad y cytunwyd arno. Yn yr achosion hynny lle mae’r Cyngor yn tybio y byddai cael cytundeb grant yn ddymunol, caiff y Grant ei ryddhau ar yr amod bod y Grantî yn llofnodi cytundeb.
3. Rhoddir unrhyw Grant yn ddibynnol ar y wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais a/neu’r Fanyleb Grant ac unrhyw wybodaeth atodol a roddir gan y Grantî a bydd unrhyw gamgynrychiolaeth, gan gynnwys cuddio neu atal gwybodaeth berthnasol gan y Grantî yn golygu methiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn yn ôl disgresiwn y Cyngor.
4. Y ffurflen gais, y Fanyleb Grant ac unrhyw wybodaeth atodol y cytunwyd arni ynghyd ag unrhyw lythyr cynnig, ffurflen dderbyn a Chytundeb Grant (yn ôl y gofyn) fydd sail gyfan y Grant ac ni fydd unrhyw sylwadau llafar gan y Grantî na’r Cyngor yn cael eu cynnwys yn nhelerau nac amodau’r cynnig nac wrth dderbyn y Grant neu unrhyw ran ohono.
5. Os dyfernir Grant ar gyfer un flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth), nid yw hyn yn golygu y caiff Grant ei ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn olynol oni nodir hynny’n benodol yn nhelerau’r cynnig ffurfiol. Ni fydd y Cyngor yn atebol am unrhyw ymrwymiadau a wnaed gan y Grantî na fydd yn gallu eu cyflawni oni chaiff Grant ei ddyfarnu.
6. Gall y Cyngor ymrwymo i roi Grant o hyd at dair blynedd. Bydd Grant o’r fath yn amodol ar ddarpariaethau paragraff 5 uchod, a bydd parhad y grant ym mlwyddyn dau a thri yn ôl disgresiwn y Cyngor ac yn amodol ar fonitro perfformiad, monitro ariannol a’r gyllideb sydd ar gael.
7. Lle mae Grant yn daladwy mewn rhandaliadau, gellir atal unrhyw randaliad neu randaliadau neu rannau ohonynt os yw’r Grantî yn methu â bodloni’r Cyngor bod y Grant yn cael ei ddefnyddio neu y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer y dibenion cymeradwy yn unig neu os yw’r Cyngor o’r farn nad yw unrhyw rai o’r telerau ac amodau eraill yn cael eu cyflawni neu o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 44 isod.
8. Ni chaiff unrhyw ran o’r Grant ei defnyddio at ddibenion gwleidyddol, ac ni fydd unrhyw agwedd ar weithgareddau a ariennir gan y Grant yn wleidyddol yn eu bwriad, eu defnydd na’u cyflwyniad.
9. Os bydd unrhyw newid i unrhyw wybodaeth a ddarparwyd i’r Cyngor yn ystod y broses ymgeisio, cyn cyflwyno unrhyw gymeradwyaeth grant, bydd y Grantî yn hysbysu’r Cyngor ar unwaith.
10. Ni roddir cymeradwyaeth grant fel arfer yn ôl-weithredol ar gyfer projectau sydd eisoes yn cael eu cyflawni, gwaith a gwblhawyd, neu offer a brynwyd cyn dyddiad y cais. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd cais o’r fath yn cael ei ystyried. Rhaid i’r Grantî ad-dalu unrhyw Grant a ddefnyddiwyd ar sail ôl-weithredol yn ddiarwybod i’r Cyngor neu heb ei ganiatâd.
11. Fel mater o arfer da, bydd y Grantî yn gwneud ei orau i gael cymorth ariannol gan amrywiaeth o ffynonellau ac i beidio â dibynnu’n llwyr ar y Cyngor am gyllid.
12. Dylai’r Grantî reoli ei adnoddau’n effeithlon. Lle bydd y Grantî yn derbyn arian rheolaidd gan y Cyngor, disgwylir i’r Grantî allu dangos arbedion effeithlonrwydd gweithredol dros gyfnod o amser.
13. Yn ei ddeunydd cyhoeddusrwydd, rhaid i’r Grantî gydnabod y cyfraniad ariannol a wnaed i’w weithgareddau gan y Cyngor ond ni chaiff y Grantî ddefnyddio logo hawlfraint y Cyngor ar unrhyw ddeunydd neu ddogfennau cyhoeddusrwydd oni chafwyd caniatâd penodol i wneud hynny ymlaen llaw gan y Cyngor.
14. Er mwyn sicrhau cydweithrediad a phartneriaeth effeithiol, bydd y Grantî, yn y lle cyntaf, yn rhoi cyfle i’r Cyngor ymateb i unrhyw feirniadaeth neu bryderon sydd ganddo. Bydd y Cyngor hefyd yn cydymffurfio â’r egwyddor hon ac yn trafod unrhyw bryderon sydd ganddo gyda’r Grantî yn y lle cyntaf.
15. Mewn amgylchiadau eithriadol lle mae pryderon ariannol yn codi, bydd y Grantî yn rhoi mynediad i’r Cyngor i’r holl lyfrau, cyfrifon a thalebau, gan gynnwys cyfriflenni Banc, sieciau adenillion a bonion sieciau cyn pen 10 diwrnod gwaith o unrhyw gais neu cyn gynted â phosibl ar ôl y cais. Drwy dderbyn y Grant neu unrhyw ran ohono mae’r Grantî yn rhoi awdurdod i’r Cyngor gysylltu â Banc neu Gyfrifydd y Grantî ac yn rhoi caniatâd diamod i’r Banc neu’r Cyfrifydd hwnnw roi unrhyw wybodaeth i’r Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw drafodion a wnaed gan y Grantî mewn perthynas â’r arian Grant. Mae’r Grantî yn rhoi caniatâd i’r Cyngor ddarparu copi o’r ffurflen gais, y Fanyleb Grant, y llythyr cynnig, y ffurflen dderbyn a’r telerau ac amodau hyn i’r Banc neu’r Cyfrifydd hwnnw i gadarnhau’r sefyllfa.
16. Rhaid i’r Grantî fod yn atebol am unrhyw drethiant neu doll sy’n daladwy yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas â’i gyfranogiad yn y Cytundeb a chan ymrwymo i ddigolledu’r Cyngor mewn perthynas ag unrhyw drethiant a aseswyd ac a dalwyd gan y Cyngor y mae’r Grantî yn atebol amdano yn bennaf.
17. Treth Ar Werth (T.A.W) Dim ond lle nad yw’r Grantî wedi’i gofrestru at ddibenion Treth Ar Werth (T.A.W) y rhoddir cymorth grant ar gyfer T.A.W, neu lle gall brofi nad oes modd iddo adennill y cyfan neu ran o’r T.A.W oddi wrth adran Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi.
18
a) Bydd y Grantî yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a’i rwymedigaethau statudol a chyfreithiol bob amser (e.e. unrhyw gytundeb prydles/tenantiaeth, caniatâd cynllunio, cyflogaeth, cyfle cyfartal, trethiant, yswiriant, iechyd a diogelwch, diogelu data, cyfreithiau a rheoliadau trwyddedu ac ati) a all effeithio ar ei weithgareddau ac ym mhob achos ni ddylai achosi unrhyw weithred neu anweithred yn fwriadol neu’n esgeulus a fyddai’n arwain at gamddefnyddio neu wastraffu cyllid Grant.
b) Tybir bod y Grantî, wrth gyflwyno’r ffurflen gais hon am grant, wedi ystyried a fyddai dyfarniad y grant yn arwain at unrhyw oblygiadau posibl o ran Cymorth Gwladwriaethol (o ran cyfanswm y cyllid y gallai’r Grantî fod wedi’i gael gan unrhyw gorff cyhoeddus dros y 3 blynedd diwethaf) ac os caiff unrhyw faterion posibl o’r fath eu nodi, codir hynny gyda’r Cyngor yn ei gais am grant. At hynny, bydd y Grantî’n darparu gwybodaeth i’r Cyngor fel sy’n rhesymol ofynnol i alluogi’r Cyngor i gynnal asesiad o’r Project i ystyried a yw’n cydymffurfio â’r Rheolau Cymorth Gwladwriaethol, ond ni fydd unrhyw asesiad o’r fath a gynhelir gan y Cyngor yn rhyddhau’r Grantî o’i rwymedigaethau dan y Cytundeb hwn, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i’w rwymedigaethau i ad-dalu’r grant dan gymal 52. Cyfrifoldeb y Grantî, drwy ymrwymo i’r Cytundeb hwn, yw sicrhau nad yw swm y grant, diben y grant, y defnydd gwirioneddol a wneir o’r grant a materion perthnasol eraill sy’n ymwneud â’r grant, yn torri unrhyw amodau o eithriad neu awdurdodiad Cymorth Gwladwriaethol perthnasol sy’n berthnasol i ddyfarniad y grant a fyddai’n gwneud y grant yn Gymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw ddatganiadau neu wybodaeth a allai eu rhoi i’r Grantî mewn perthynas â pherthnasedd Cymorth Gwladwriaethol, neu fel arall, ac ni ellir dod i unrhyw gasgliadau o’r penderfyniad i ddyfarnu neu weithredu grant (gan gynnwys ymrwymo i’r Cytundeb hwn) fod y Cyngor yn fodlon na fyddai’r grant gyfystyr â Chymorth Gwladwriaethol. I gael rhagor o gyngor ar y Rheolau Cymorth Gwladwriaethol, ewch i www.gov.uk/government/publications/state-aid-the-basics
19. Pan fo gweithgareddau’r Grantî yn cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc bydd y Grantî yn sicrhau bod y bobl hynny y mae’n trefnu iddynt gysylltu â’r plant a’r bobl ifanc neu weithio gyda hwy yn cael gwiriad manwl fel sy’n briodol, gan gynnwys gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ôl yr angen.
20. Mae canllawiau Deddf Plant 2004 ar gyfer Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a’u partneriaid ystyried y dyletswyddau a’r egwyddorion a nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r Cyngor yn disgwyl y byddai Grantî, wedi’i gyllido i gefnogi gweithgareddau perthnasol, yn cydymffurfio â’r un dyletswyddau ac egwyddorion.
21. Rhaid i’r Grantî fod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei weithwyr ei hun ac isgontractwyr wrth roi’r Project ar waith a rhaid iddo sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweithdrefnau diogelwch a chan ddarparu’r holl offer diogelwch sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu’r rhai a gymeradwyir yn gyffredinol yn ôl arfer gorau o bryd i’w gilydd.
22. Rhaid i’r Grantî gymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch, gweithrediad cywir, addasrwydd at y diben a chydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol yr holl offer a’r cyfarpar a ddarparwyd ganddo ar gyfer y gwaith o gyflawni’r Project ac er mwyn osgoi amheuaeth bydd y cyfrifoldeb hwn yn cael ei ymestyn er mwyn sicrhau diogelwch, gweithrediad cywir ac addasrwydd at y diben yr offer a’r cyfarpar sydd yn nwylo cyflogeion neu isgontractwyr unrhyw barti neu bartïon eraill, gan gynnwys, ymysg eraill, unrhyw berson a allai fod yn eu defnyddio’n gywir neu a allai fod o’u cwmpas.
23. Rhaid i’r Grantî gymryd cyfrifoldeb am sefydlogrwydd, diogelwch ac addasrwydd unrhyw eiddo sy’n berchen iddo a/neu a feddiannir ganddo a’r safle lle y cyflawnir y Project neu lle gallai’r Project fod yn cael ei gyflawni.
24. Os ceir:
a) hawliad llwyddiannus yn erbyn y Cyngor, sut bynnag y mae’n codi, p’un ai mewn perthynas ag esgeulustod, niwsans, torri dyletswydd statudol, neu unrhyw gamwedd arall, neu mewn perthynas ag unrhyw hawl neu gam adfer cyfreithiol arall, sut bynnag y mae’n codi o’r Cytundeb, neu.
b) erlyniad llwyddiannus yn erbyn y Cyngor neu ei gyflogeion o ran unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol o ganlyniad i’r Cytundeb.
erlyniad llwyddiannus yn erbyn y Cyngor neu ei weithwyr mewn perthynas ag unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol o ganlyniad i’r Cytundeb hwn rhwng y Cyngor a’r Grantî, bydd y Grantî yn atebol am unrhyw atebolrwydd, costau, hawliadau, galwadau, treuliau, dirwyon a chosbau eraill (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol a threuliau) sy’n codi o hynny neu’n ymwneud â hynny mewn unrhyw ffordd hyd eithaf ei gyfrifoldebau, a benderfynir yn unol â chymal 21 a darpariaethau’r cytundeb hwn yn gyffredinol, a bydd y Grantî yn digolledu ac yn parhau i ddigolledu ac yn rhoi cyfrif i’r Cyngor yn unol â hynny.
25. Bydd darpariaethau cymalau 21 – 23 yn goroesi terfyniad y trefniadau cyllid grant.
26. Lle mae’r grant neu unrhyw ran ohono yn cael ei ddefnyddio gan y Grantî i brynu neu gaffael unrhyw fuddiant mewn unrhyw ased (gan gynnwys tir ac adeiladau, cerbydau, celfi neu offer), a bod yr ased neu’r buddiant ynddo yn cael ei werthu wedyn neu y rhoir y gorau i’w ddefnyddio at y diben cymeradwy y’i cafwyd, rhaid i’r Grantî, os yw’r Cyngor yn gorchymyn hynny, ad-dalu i’r Cyngor werth llawn yr ased fel yr oedd ar ddyddiad ei werthu neu’r dyddiad y rhoddwyd y gorau i’w ddefnyddio at y diben cymeradwy, neu swm llai y mae’r Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn, yn ei ystyried yn gyfran deg o werth yr ased ar y farchnad.
27. Ni chaiff y Grantî, dan unrhyw amgylchiadau, ddefnyddio’r cyllid Grant yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn ffordd a fydd yn elwa unrhyw unigolyn, cwmni neu gorff o bersonau preifat yn ddiarwybod i’r Cyngor neu heb ei ganiatâd.
28. Mae’r Grantî yn gyfrifol am yswirio yn erbyn unrhyw risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n perthyn i’r Grantî neu unrhyw weithgaredd a gyflawnir gan y Grantî a ariennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gymorth Grant gan y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys unrhyw golled neu anaf personol i staff neu wirfoddolwyr sy’n cyflawni’r gweithgareddau a ariennir drwy gymorth y Grant. Ceidw’r Cyngor yr hawl i’w gwneud yn ofynnol i’r Grantî gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol mewn perthynas â’r polisïau yswiriant i’w harchwilio. Ni fydd y Cyngor o dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol am unrhyw dreuliau annisgwyl wrth gefn mewn perthynas ag eiddo neu weithgareddau y rhoddwyd grant ar ei gyfer yn gyfan gwbl neu yn rhannol. Mae’r cyfrifoldeb am unrhyw gynlluniau wrth gefn o’r math hwn yn perthyn yn gyfan gwbl i’r Grantî a bydd rhaid iddo drefnu sicrwydd yswiriant ar gyfer pob posibilrwydd drwy bolisïau yswiriant digonol. Mae’r Grantî yn indemnio’r Cyngor yn erbyn yr holl gostau a hawliadau yn hynny o beth.
29. Ni ddylai’r Grantî, dan unrhyw amgylchiadau, drwy weithred neu ddiffyg gweithred, achosi i unrhyw un o weithwyr neu wirfoddolwyr y Grantî gredu bod perthynas gyflogaeth wedi’i chreu neu fod un yn bodoli rhwng y cyflogai neu’r gwirfoddolwr hwnnw a’r Cyngor.
30. Lle defnyddir y Grant neu unrhyw ran ohono i gyflogi staff cyflogedig bydd y meini prawf canlynol yn berthnasol:
- Rhaid i’r Grantî weithredu Polisi Cyfle Cyfartal a gweithdrefn recriwtio yn unol â’r hyn a gyflwynwyd i’r Cyngor ac a gymeradwywyd ganddo fel rhan o’r cais am Grant.
- Rhaid i’r Grantî sicrhau y gwneir apwyntiadau o’r fath yn ôl y tâl a’r amodau a hysbyswyd ac a gymeradwywyd gan y Cyngor fel rhan o’r cais am Grant.
- Rhaid i’r Grantî sicrhau y paratoir swydd ddisgrifiad a manyleb person ar gyfer pob swydd sy’n derbyn cymorth grant a bod gan yr unigolyn a benodir gontract cyflogaeth. Mae’r Grantî yn cytuno y gall Swyddog y Cyngor fynychu unrhyw gyfweliadau ar gyfer swyddi o’r fath mewn capasiti ymgynghorol.
31. Rhaid i’r Grantî gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â chyflogaeth, cysylltiadau llafur ac iechyd a diogelwch yn y gwaith. Rhaid i Grantî sydd â chyflogeion gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr.
32. Os yw’r Grantî yn sefydliad gwirfoddol, ni ddylai gyflogi unrhyw aelod o’i Bwyllgor Rheoli fel aelod o staff cyflogedig. Os penodir aelod o’r Pwyllgor Rheoli i swydd o fewn y sefydliad gwirfoddol, rhaid iddo/iddi ymddiswyddo o’r Pwyllgor Rheoli cyn cychwyn ar gyflogaeth o’r fath. Rhaid i aelodau’r Pwyllgor Rheoli sydd yn ffrind agos neu sy’n perthyn i berson a gyflogir gan y Grantî ddatgan y berthynas yn ysgrifenedig i aelodau eraill y Pwyllgor. Lle y bo’n briodol gall Swyddogion y Cyngor fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli at ddibenion ymgynghori yn unig.
33. Lle mae’r ffurflen gais a’r Fanyleb Grant yn dynodi y bydd aelod neu dîm penodol o bersonél y Grantî yn rheoli neu’n cyflawni’r cymorth Grant o leoliad penodol, ni chaiff y Grantî newid yr aelod na’r tîm na’r lleoliad hwnnw heb ganiatâd y Cyngor, ond ni fydd y cais am ganiatâd o’r fath yn cael ei atal yn afresymol.
34. Rhaid i’r Grantî gadw cyfrifon cyfredol i’w harchwilio gan y Cyngor ar unrhyw adeg. Dylai’r cyfrifon gael eu paratoi yn ôl yr arfer gorau a argymhellir. Dylid defnyddio’r flwyddyn ariannol 1 Ebrill – 31 Mawrth lle bo hynny’n bosib, oni bai bod natur gweithgareddau’r Grantî yn atal hynny.
35. Mae’r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i bob Grantî sy’n derbyn Grant ddarparu cyfrifon blynyddol a gaiff eu paratoi yn unol â’r arfer gorau a argymhellir.
36. Bydd yr holl gyfrifon yn nodi’n glir holl Grantiau’r Cyngor ac unrhyw Grantiau eraill a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
37. Rhaid paratoi’r cyfrifon yn y fath fodd fel y gall y Cyngor weld at ba ddiben y defnyddiwyd y Grant gan y Grantî.
38. Bydd y grantî yn cydymffurfio â’r trefniadau monitro fel y nodir yn y pecyn cais a/neu’r llythyr cynnig neu’r Manyleb Grant ar gyfer y Cynllun Grant y gwneir cais amdano.
39. Rhaid i’r Grantî, yn ôl y gofyn, baratoi adroddiadau ysgrifenedig i’r Cyngor ynglŷn â chyflawniad a chynnydd y gwaith y dyfarnwyd y Grant ar ei gyfer. Rhaid i’r Grantî, heb godi tâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion o’r Cyngor, ar unrhyw adeg resymol, ymweld â’i eiddo a/neu archwilio unrhyw rai o’i weithgareddau a/neu archwilio a chymryd copïau o lyfrau cyfrifon y Grantî ac unrhyw ddogfennau neu gofnodion tebyg a allai fod, ym marn y swyddogion, yn berthnasol mewn unrhyw ffordd i’r defnydd a wneir o’r Grant gan y Grantî. Mae’r amod hwn heb ragfarn ac yn amodol ar unrhyw hawliau statudol a phwerau eraill a arferir gan y Cyngor neu unrhyw swyddog, gwas neu gynrychiolydd.
40. Rhaid i’r Grantî ddarparu gwybodaeth arall i’r Cyngor ynglŷn â’i weithgareddau neu’r gweithgareddau arfaethedig, ac ynglŷn â’r defnydd a’r defnydd arfaethedig o’r cyfan neu unrhyw ran o Grant y Cyngor, yn ôl gofyn y Cyngor o bryd i’w gilydd. Bydd gan y Cyngor yr hawl i ddefnyddio hyn a’r holl wybodaeth a ddarparwyd gan y Grantî yn gysylltiedig â’r Grant fel y mynno.
41. Bydd rhan neu’r cyfan o’r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais yn cael ei gadw ar gyfrifiadur a rhydd y Grantî ei ganiatâd i brosesu unrhyw wybodaeth bersonol o dan y Ddeddf Diogelu Data cyn belled â bydd y data hwnnw’n parhau i fod yn gyfrinachol rhwng y Grantî a Swyddogion y Cyngor a’r Aelodau perthnasol oddieithr lle mae’r gyfraith yn caniatáu dadlennu’r data, yna mae’n bosib y bydd Cyngor yn gwneud hynny. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio i weinyddu ceisiadau Grant ac ar gyfer dadansoddi ystadegau. Cyhoeddir manylion ceisiadau Grant llwyddiannus mewn adroddiad blynyddol i’r Cyngor.
42. Gall y Cyngor ddatgelu gwybodaeth os yw’r gyfraith yn caniatáu hynny neu os oes dyletswydd ar y Cyngor i wneud hynny. Nid yw’r wybodaeth a geir yn gyfrinachol dan ystyr Adran 41 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a chaiff ceisiadau i ddatgelu gwybodaeth o dan y Ddeddf honno eu trin yn unol â’r Cod Ymarfer dan Adran 45 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan ystyried egwyddorion diogelu data Deddf Diogelu Data 1998 mewn perthynas â data personol.
43. Yn ystod Tymor y Cytundeb bydd y Grantî yn cydymffurfio â gofynion:
43.1.1 Cynllun Iaith Gymraeg yr Awdurdod;
43.1. 2 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) a phan ddaw darpariaethau’r Mesur i rym ac i’r graddau y mae’n ymwneud â darparu’r Grant.
44. Bydd y Grantî yn sicrhau bod rheolaethau ariannol digonol, e.e. sicrhau bod dyletswyddau’n cael eu gwahanu, cynnal llyfrau a chofnodion priodol, cyfrifon banc y mae angen dau lofnod arnynt a chadw dogfennau ategol at ddibenion archwilio, yn bodoli bob amser.
45. Oni chaiff y Grant ei wario at ddibenion cymeradwy yn ystod y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi, gall y Cyngor adhawlio unrhyw arian sy’n weddill yn ystod neu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol honno a/neu gellir ystyried yr arian hwnnw wrth bennu swm y Grant i’w dalu yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.
46. Ni chaiff y Grantî glustnodi unrhyw ran o’r Grant i drydydd parti heb gael caniatâd ysgrifenedig blaenorol gan y Cyngor.
47. Rhaid i’r Grantî roi gwybod i’r Cyngor cyn gynted ag y daw’n hysbys ei bod yn bosib y bydd y Grant yn cael ei danwario. Gall y Cyngor yn ôl ei ddisgresiwn gymeradwyo defnydd arall o’r swm na wariwyd at ddibenion buddiol eraill drwy gymeradwyaeth ysgrifenedig. Mae cymeradwyaeth o’r fath yn debygol iawn o gael ei rhoi lle bydd y Grantî yn tanwario yn sgil gwella effeithiolrwydd neu effeithlonrwydd wrth reoli adnoddau, ond mae’n annhebygol y rhoddir cymeradwyaeth lle mae’r tanwario yn deillio o oedi wrth gychwyn gweithgaredd a gymeradwywyd.
48. Ni ddylai’r Grantî gynrychioli’r Grantî (gan sicrhau na fydd aelodau o’i sefydliad yn gwneud hynny chwaith) mewn unrhyw ffordd, na dweud na gwneud unrhyw beth a allai arwain pobl i gredu bod y Grantî yn asiant ar ran y Cyngor neu fod y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw atebolrwydd ar ei ran. Ni chaiff telerau ac amodau’r Grant orfodi unrhyw atebolrwydd ar y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd yr eir iddo gan y Grantî i unrhyw berson neu endid.
49. Ni fydd y Cyngor na’i swyddogion na’i asiantau yn atebol i unrhyw berson ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n codi o ran datblygu, cynllunio, adeiladu, gweithredu, rheoli a/neu weinyddu’r Project sy’n derbyn cymorth Grant ac, yn benodol, ond heb fod yn gyfyngedig i hyn, ni fydd y Cyngor yn atebol i’r Grantî am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ganlyniad i gydymffurfio â thelerau ac amodau’r Grant, gan gynnwys unrhyw golledion neu gostau sy’n deillio o fethu â thalu’r Grant ar unrhyw ddyddiad y cytunwyd arno.
50. Os yw’r Grantî yn dirwyn i ben neu’n cael ei ddiddymu (gan gynnwys bod yn destun gorchymyn gweinyddu); yn mynd i law’r derbynnydd; yn methdalu; yn cychwyn unrhyw gyfaddawd neu drefniant arall o ran ei ddyledion gyda’i gredydwyr; neu’n debygol, ym marn y Cyngor, o beidio â gallu talu unrhyw un o’i ddyledion os digwydd unrhyw un o’r digwyddiadau hynny, bydd gan y Cyngor yr hawl i adennill y Grant a dalwyd ar unwaith gan y Grantî ac ni fydd unrhyw arian pellach yn ddyledus neu’n daladwy gan y Cyngor i’r Grantî neu i unrhyw un sy’n gweithredu ar ei gyfer neu ar ei ran neu yn ei enw. Ystyrir unrhyw gyfeiriadau at swm y Grant a dalwyd neu sydd i’w dalu i’r Grantî i olygu ac i fod yn gyfyngedig i swm yr arian a dalwyd i’r Grantî gan y Cyngor ar yr adeg y digwydd unrhyw un o’r digwyddiadau y cyfeirir atynt uchod.
51. Mae unrhyw gynnig Grant yn agored i’w dderbyn o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad hwnnw, oni nodir yn wahanol. Ni fydd y Cyngor yn talu unrhyw ran o’r Grant hyd nes y daw’r llythyr derbyn i law. Os na cheir unrhyw lythyr derbyn o fewn yr amser hwnnw ystyrir y bydd y cynnig wedi’i dynnu’n ôl ond gellir ei ailgynnig yn ôl disgresiwn y Cyngor.
52. Gall y Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn, newid, dileu neu ohirio unrhyw gymeradwyaeth grant neu ofyn am ad-daliad o unrhyw Grant a dalwyd eisoes, un ai yn ei gyfanrwydd neu yn rhannol lle:-
(I) torrwyd unrhyw rai o’r Telerau a’r Amodau safonol hyn a/neu unrhyw amodau arbennig sydd ynghlwm wrth y Grant.
(II) bo’r Grantî yn peidio â bodoli.
(III) bo’r Cyngor wedi’i gymell i gymeradwyo’r Grant o ganlyniad i unrhyw wybodaeth anghywir neu ffug a ddarparwyd gan y Grantî.
(IV) bo’r Grantî wedi methu â hysbysu’r Cyngor o unrhyw newid perthnasol i wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol ganddo, pan fo’r Grantî neu unrhyw un o’i swyddogion neu asiantau wedi ymddwyn yn anonest neu’n esgeulus er niwed y project y rhoddwyd y cymorth Grant ar ei gyfer.
(V) bo’r Grantî yn newid neu’n cael gwared ar ei reolwyr neu’r personél sy’n gyfrifol am y project sy’n derbyn cymorth Grant neu’n newid y lleoliad a nodwyd yn y ffurflen gais a’r Fanyleb Grant heb ganiatâd y Cyngor.
(VI) bo’r Grantî neu unrhyw un o’i swyddogion neu asiantau wedi ymddwyn yn anonest neu’n esgeulus er niwed y project y rhoddwyd y cymorth Grant ar ei gyfer.
(VII) bo’r Grantî yn anfodlon neu’n gwneud trefniadau â’i gredydwyr iddo gael ei ddiddymu (yn wirfoddol neu fel arall), ac eithrio ar gyfer adluniad dilys neu os oes derbynnydd neu reolwr yn cael ei benodi mewn perthynas â’r busnes cyfan neu ran ohono, neu os digwydd unrhyw ddigwyddiadau cyfatebol.
(VIII) bo’n rhaid ad-dalu unrhyw ran o’r grant dan Gyfraith Ewropeaidd (boed hynny dan Reolau Cymorth Gwladwriaethol neu fel arall).