Mae’r wefan hon yn dwyn gwybodaeth ynghyd i gefnogi teuluoedd, babanod, plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.

Pwy rydyn ni’n helpu:

  • rhieni, llys-rieni, gofalwyr neu aelodau o’r teulu sy’n gofalu am blentyn,
  • babanod, plant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 oed (neu hyd at 25 oed yn achos person ifanc sy’n agored i niwed), a
  • gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd.

Sut rydyn ni’n helpu:

  • Darparu cymorth a gwybodaeth gyffredinol i bob teulu
  • Helpu teuluoedd cyn i’w hanghenion waethygu i’r pwynt lle mae angen ymyriad statudol diogelu.

Darperir y dull atal ac ymyrryd yn gynnar hwn trwy gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel.

Hyb Cyngor, Cymorth A Diogelwch Teuluoedd (CCDT)

Mae’r Hyb Cyngor, Cymorth a Diogelwch Teuluoedd (CCDT) yn dwyn ynghyd nifer o wasanaethau a sefydliadau, gan gynnwys:

  • Cymorth Cynnar,
  • Gwasanaethau Plant,
  • Addysg,
  • Ysgolion,
  • Yr Heddlu,
  • Cyfiawnder Ieuenctid,
  • Iechyd a
  • Thai

Mae hyn er mwyn darparu ymateb cydgysylltiedig pan fydd pryderon yn codi, neu mae angen cymorth i deuluoedd, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (CChDC)

Gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd, gan gynnwys cymorth byrdymor, cymorth wedi’i dargedu, a chymorth arbenigol (cymorth anabledd), gyda mewnbwn gan bartneriaid lle y bo angen.

Y Mynegai

Mae’r Mynegai yn gofrestr wirfoddol ar gyfer rhieni a gofalwyr plentyn neu berson ifanc 0 i 25 oed.

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y Mynegai, gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a fydd yn berthnasol ac yn fuddiol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Rhianta Caerdydd

Cymorth i rianta, o feichiogrwydd i 18 oed i:

  • fagu hyder a sgiliau rhianta,
  • cryfhau perthnasoedd, ac
  • ategu lles.

Rhagor o wybodaeth am raglenni grŵp a chymorth unigol wedi’i deilwra mewn cymunedau.

Dechrau’n Deg Caerdydd

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen blynyddoedd cynnar a ariennir gan Lywodraeth Cymru (ar gyfer plant dan 4 oed mewn ardaloedd dynodedig) sy’n cynnig:

  • ymweliadau iechyd manylach.
  • cymorth rhianta,
  • datblygiad iaith cynnar, a
  • gofal plant rhan-amser a ariennir.

Gwasanaethau Chwarae Plant

Mae Gwasanaethau Chwarae Plant yn cynnig cyfleoedd chwarae cynhwysol, am ddim, i blant rhwng 5 a 14 oed mewn parciau, canolfannau chwarae a lleoliadau cymunedol. Mae hyn yn cynnwys sesiynau mynediad agored, rhaglenni wedi’u targedu a Strydoedd Chwarae.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’i ariannu yr wythnos ar gyfer plant cymwys rhwng 3 a 4 oed, cymorth ymgeisio i deuluoedd, a chymorth talu i ddarparwyr.

Canolfan Achredu a Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar

Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ar gyfer y gweithlu Cymorth Cynnar, ysgolion a phartneriaid (gan gynnwys cymwysterau achrededig).

Cymorth Busnes Gofal Plant

Cymorth ymarferol i ddarparwyr gofal plant newydd a phresennol, gan gynnwys help gyda chydymffurfiaeth, ansawdd, cynaliadwyedd a chanllawiau cychwynnol ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, cylchoedd chwarae, clybiau a gwarchodwyr plant.