Ynghylch y gwasanaeth
Mae Rhieni’n Gyntaf yn wasanaeth a arweinir gan seicoleg. Rydym yn cyflwyno ymyriadau rhianta personol yn y cartref, leoliad cymunedol, neu’n rhithwir (dros y ffôn neu alwad fideo). Rydym yn dîm sydd â chyfoeth o brofiad o weithio gyda rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc ac rydym yn dilyn hyfforddiant yn rheolaidd i’n helpu yn ein gwaith.
Mae eich barn yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth personol sy’n diwallu anghenion eich teulu.

Beth sydd wedi’i gynnwys?
Gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o seicoleg, gallwn weithio gyda chi ar amrywiaeth o faterion a allai effeithio ar fywyd y teulu.
Efallai yr hoffech weithio gyda ni ar:
- Deall ac ymateb i ymddygiad eich plentyn,
- Datblygu eich perthynas gyda’ch plentyn, neu
- Deall datblygiad eich plentyn.
Gwybodaeth ymarferol
Byddwn yn dechrau drwy ymweld, neu drefnu i siarad â chi, i ddod i wybod mwy amdanoch chi a’ch teulu. Mae pob teulu yn unigryw, felly dyma gyfle i ni ddod i’ch adnabod chi ac i chi gael gwybod mwy amdanom ni.
Os ydych yn dymuno gweithio gyda ni, gallwch ddweud wrthym am unrhyw newidiadau yr hoffech eu gwneud, a gallwn benderfynu gyda’n gilydd beth fydd ffocws ein gwaith.
Efallai yr hoffech chi siarad hefyd ag ysgol eich plentyn neu bobl eraill sy’n gweithio gyda chi i’n helpu i ddeall eich teulu.
Bydd yr ymarferwyr rhianta yn y tîm yn cynnal yr ymweliadau wythnosol hyn gyda chi. Bydd y seicolegwyr yn y tîm yn helpu i gynllunio a goruchwylio’r gwaith.
Byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur byr, cyn ac ar ôl ein gwaith gyda’n gilydd. Byddwch hefyd yn cael cofnod ysgrifenedig o’r gwaith rydym yn ei gwblhau gyda chi. Gallwch rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un y gallai fod yn ddefnyddiol iddo/iddi, yn eich barn chi.
Nid ydym yn gymwys i gynnig cyngor meddygol ac nid ydym yn wasanaeth iechyd meddwl. Siaradwch â’ch meddyg teulu am eich anghenion iechyd corfforol neu feddyliol eich plentyn.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu..
Gallwch gysylltu â ni drw:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu:
- ffonio 03000 133 133.