Mae’r gwasanaeth yn gallu helpu teuluoedd gyda phlant neu bobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Gwybodaeth am wasanaethau plant Cyngor Caerdydd.
Tîm Iechyd ac Anableddau Plant (IAAP)
Mae’r tîm yn credu bod plentyn ag anabledd:
- yn blentyn yn y lle cyntaf, ac y
- dylid ei annog a’i helpu i gael yr un gwasanaethau a chyfleoedd â phlant eraill heb anableddau.
Maent yn darparu ac yn trefnu gwasanaethau i deuluoedd gyda phlant neu bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.
Gwybodaeth am y Tîm Iechyd ac Anableddau Plant.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr os yw’r cymorth hwn yn iawn i chi, cysylltwch â ni. Mae ein cynghorwyr yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth cywir i chi a’ch teulu.
Gallwch chi gysylltu â ni drwy:
- lenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu
- ffonio 03000 133 133.