Mae sawl sefydliad sy’n gallu rhoi cyngor a chymorth i chi os yw’ch plentyn neu’ch person ifanc yn niwroamrywiol.

Niwrowahaniaeth Cymru

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am beth yw niwrowahaniaeth, a pha wasanaethau a hyfforddiant sydd ar gael ar-lein ac ar draws Cymru, trwy fynd i  wefan Niwrowahaniaeth Cymru.

Cygnet

Mae Cygnet yn rhaglen 7 wythnos i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc 5-18 oed sydd â diagnosis o gyflwr ar y sbectrwm awtistig (CSA).

Mae’r rhaglen yn gallu eich helpu i gynyddu eich hyder, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r cyflwr ac atebion ymarferol i heriau cyffredin y gallech chi neu’ch plentyn fod yn eu hwynebu. Mae Cygnet yn gallu eich helpu pan fo anghenion eich plentyn newid wrth iddo fynd yn hŷn.

Gallwch hefyd ymuno â grŵp i gwrdd â rhieni a gofalwyr eraill sydd mewn sefyllfa debyg.

Yr hyn mae’r rhaglen yn cwmpasu

Mae 7 sesiwn dros 7 wythnos:

  1. Sesiwn gyflwyno
    Cyfle i gwrdd ag aelodau eraill y grŵp a thrafod amcanion a chynnwys y rhaglen, gan edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wybod eisoes am gyflyrau’r sbectrwm awtistig (CSAau).
  2. Awtistiaeth a diagnosis
    Trafod yr heriau y mae plant â CSAau yn eu hwynebu ynghyd â’u cryfderau a’ch taith eich hunain fel rhieni.
  3. Prosesu synhwyraidd
    Golwg fanwl ar y synhwyrau a’r problemau synhwyraidd y gall plant â CSAau eu hwynebu, gyda syniadau ar gyfer strategaethau ac adnoddau i gefnogi hyn.
  4. Cyfathrebu
    Sesiwn am sut mae cyfathrebu’n gallu bod yn wahanol i blant â CSAau, ac adnoddau a strategaethau a allai gefnogi plant gyda lefelau cyfathrebu llafar gwahanol.
  5. Deall ymddygiad plant â CSAau
    Datblygu gwybodaeth am swyddogaethau posibl ymddygiad plant â CSAau a chyflwyno fframwaith ymddygiad sy’n gallu cael ei ddefnyddio i ddeall ymddygiad eich plentyn.
  6. Cefnogi ymddygiad
    Ail sesiwn am ymddygiad, gan edrych ar fframweithiau a syniadau eraill o ran sut i dderbyn cymorth.
  7. Eich dewis chi
    Cyfle i drafod pynciau o’ch dewis chi.

Sut mae’r rhaglen yn gweithio?

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan ymarferwyr o Dîm Rhianta Caerdydd.

Mae pob sesiwn yn para rhwng 2 a 3 awr. Mae sesiynau’n gallu cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Rydym yn argymell eich bod yn mynd i bob un o’r 7 sesiwn i elwa cymaint â phosibl o’r rhaglen. Mae pob sesiwn yn adeiladu ar yr un blaenorol.

Os na allwch fynd i sesiwn grŵp, rydyn ni’n gallu gweithio gyda chi’n unigol. Ar gyfer y sesiynau unigol, byddwn yn anfon yr wybodaeth atoch ac yn trefnu galwad bob wythnos i’w thrafod gyda’n gilydd.

Mae croeso i chi ddod ar eich pen eich hun neu gyda rhywun arall sy’n gofalu am eich plentyn. Er enghraifft, neiniau a theidiau neu weithwyr cymorth o’r ysgol.

Rydyn ni’n gallu gweithio gyda chi ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Cael diagnosis

Mae Gwasanaeth Niwroddatblygiadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn darparu asesiad arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Darllenwch fwy am y broses a chael diagnosis.

Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr o hyd pa gymorth sy’n iawn i chi, cysylltwch â ni. Mae ein cynghorwyr yn gallu eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth cywir i chi a’ch teulu.

Gallwch chi gysylltu â ni drwy: