Mae llawer o blant a phobl ifanc yn poeni am yr ysgol ar ryw adeg ac efallai y byddan nhw’n dweud bod yn well ganddyn nhw fod gartref. Mae hyn yn normal.
Weithiau gall pryderon plentyn neu berson ifanc fynd yn ormod a gall hyn arwain at anawsterau o ran mynd i’r ysgol. Efallai y byddan nhw’n dangos arwyddion o orbryder ac yn teimlo’n ofidus wrth feddwl am fynd. Gelwir hyn yn osgoi’r ysgol ar sail gorbryder (OYSG).

Nid oes un rheswm dros OYSG. Fel arfer mae oherwydd nifer o ffactorau, megis:
- Newidiadau mawr mewn bywyd ysgol. Er enghraifft, pontio rhwng cyfnodau ysgol (o flwyddyn 2 i flwyddyn 3) neu o ysgol i ysgol (cynradd i uwchradd).
- Pwysau a gofynion. Er enghraifft, anawsterau gyda dysgu neu arholiadau.
- Anawsterau gyda chyfoedion, ffrindiau neu fwlio.
- Pethau sy’n achosi straen yn yr ysgol. Er enghraifft, sŵn a thorfeydd.
- Gwahanu, colled neu brofedigaeth.
- Newidiadau mewn amgylchiadau teuluol. Er enghraifft, symud tŷ neu berthynas rhieni’n chwalu.
Mae’n bwysig eich bod chi’n helpu’ch plentyn cyn gynted â phosibl. Po hiraf y bydd i ffwrdd o’r ysgol, yr anoddaf y bydd iddo ddychwelyd.
Dyma sut y gall gorbryder am yr ysgol arwain at gylch osgoi:
Mae rhai arwyddion yn cynnwys:
- Teimlo’n orbryderus am yr ysgol
- Meddyliau negyddol am yr ysgol a’u gallu i ymdopi
- Osgoi’r sefyllfa sy’n achosi’r gorbryder
- Gorbryder uniongyrchol yn lleihau
- Osgoi’r ysgol yn fwy
Gan arwain at:
- Ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol
- Colli ffrindiau a mwy o ynysu
- Mwy o orbryder am yr ysgol
- Gweithgareddau hwyl gartref
- Llai o gymhelliant
Ffigur 1 – Y Cylch Osgoi’r Ysgol, wedi’i gymryd o ganllaw Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Gorllewin Sussex

Nid yw OYSG fel arfer yn ddigwyddiad sydyn, a gallwn feddwl amdano fel rhywbeth sy’n gallu newid dros amser.
Mae rhai o’r arwyddion cynnar yn cynnwys:
- Peidio â bod eisiau paratoi i fynd i’r ysgol.
- Teimlo’n sâl ar ddiwrnodau ysgol.
- Colli rhai gwersi neu osgoi pethau y mae eich plentyn yn eu cael yn anodd yn ystod y diwrnod ysgol. Er enghraifft, y bws ysgol, athrawon cyflenwi neu amser egwyl.
Dyma enghraifft o sut y gall OYSG ddatblygu:
- Meddwl am yr ysgol yn achosi trallod achlysurol, ond yn mynychu’n rheolaidd
- Yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ar ôl cynhyrfu neu brotestio, gall hyn fod yn fwy amlwg ar ddiwedd gwyliau’r ysgol neu ar nosweithiau Sul
- Amharodrwydd achlysurol i baratoi ar gyfer yr ysgol, efallai y bydd yn cwyno am deimlo’n sâl, gall ddangos trallod wrth gael ei ollwng yn yr ysgol
- Yn mynychu ond yn hwyr yn aml; o bosibl yn dilyn proses hir o gefnogaeth i baratoi
- Meddwl am yr ysgol yn achosi mwy o drallod bob dydd. Colli gwersi neu ddiwrnodau ysgol yn achlysurol
- Absenoldeb dro ar ôl tro (e.e. colli un diwrnod bob pythefnos neu batrymau o wersi yn cael eu colli’n rheolaidd). Efallai’n llai gofidus ar ddiwrnodau o ddiffyg presenoldeb
- Ddim yn yr ysgol am gyfnod o wythnosau
- Ddim yn yr ysgol am gyfnod o fisoedd.
Gall presenoldeb plentyn newid i’r naill gyfeiriad neu’r llall; nid proses unffordd yw hon.
Mae’n bwysig iawn cofio’r canlynol:
- Ni fydd pawb yn mynd trwy bob un o’r camau hyn, ond mae arwyddion cynnar fel arfer yn cael eu gweld gartref cyn iddynt gael eu gweld yn yr ysgol.
- Gall gwelliannau mewn presenoldeb a theimladau am yr ysgol ddigwydd ar unrhyw adeg.
- Nid yw dangos rhywfaint o deimladau o bryder am yr ysgol bob amser yn arwain at OYSG.
- Gall fod yn ddefnyddiol gwneud nodyn o unrhyw arwyddion cynnar rydych chi’n sylwi arnynt.
Gall plant a phobl ifanc sy’n niwroamrywiol (er enghraifft, sydd ag awtistiaeth, dyslecsia neu Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG)) fod yn fwy tebygol o’i chael hi’n anodd yn yr ysgol. Gall hyn fod oherwydd y gall plant a phobl ifanc niwrowahanol wynebu anawsterau ychwanegol yn yr ysgol, fel:
- Gall anawsterau synhwyraidd, fel sŵn, cyffyrddiad neu olau, wneud i’r ysgol deimlo’n llethol iawn. Er enghraifft, gall coridorau prysur, llawer o sŵn a goleuadau llachar fod yn anodd eu goddef.
- Rheoli perthnasoedd ag oedolion a disgyblion eraill. Gall hyn fod yn anodd i’r rhai sydd â gwahaniaethau o ran deall a rhagweld sefyllfaoedd cymdeithasol.
- Llawer o newidiadau rhwng gweithgareddau ac ystafelloedd dosbarth. Gall hyn fod yn anodd i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd delio â newid.
Mae’n cymryd llawer o egni ac ymdrech i ymdopi â hyn i gyd wrth geisio ymddwyn a gweithredu yn y ffyrdd y mae ffrindiau, cyfoedion ac athrawon yn eu disgwyl.
Mae pob profiad OYSG yn wahanol, felly nid oes un darn o gyngor yn addas i bawb. Mae’n bwysig eich bod chi’n ceisio nodi’r hyn sy’n anodd neu’n achosi straen iddynt yn yr ysgol er mwyn i chi allu eu helpu.
Gellir defnyddio’r offer ar y dudalen hon gyda phob plentyn, gan gynnwys y rhai sy’n niwrowahanol. Fodd bynnag, chi fydd yn gwybod beth fydd eich plentyn yn ymateb iddo. Efallai y byddwch chi’n teimlo bod angen dull gwahanol.

Gall bod yn ymwybodol o arwyddion OYSG eich helpu chi a’r ysgol i roi cymorth cynnar ar waith i helpu’ch plentyn i deimlo’n fwy cyfforddus yn yr ysgol.
Mae 4 maes i edrych arnynt:
- Corfforol – beth sy’n digwydd yn y corff
- Emosiynol – teimladau ac emosiynau
- Gwybyddol – sut mae’r ymennydd a’r corff yn gweithio
- Ymddygiadol – beth rydych chi’n gweld eich plentyn yn ei wneud
Ysgrifennwch unrhyw arwyddion y gallech fod wedi sylwi arnynt gan eich plentyn a nodwch unrhyw beth ychwanegol nad yw wedi’i restru. Nid yw’r enghreifftiau yn cwmpasu’r holl arwyddion – mae pob profiad o OYSG yn wahanol.
Corfforol
Enghreifftiau o arwyddion corfforol:
- Teimlo’n gyfoglyd
- Dolur a phoen
- Cur pen
- Crio
- Chwysu
- Cyfradd y galon yn cyflymu
- Llai o chwant bwyd
- Cwynion am deimlo’n sâl
- Cwsg gwael
Emosiynol
Enghreifftiau o arwyddion emosiynol:
- Teimlo’n ddagreuol
- Teimlo’n ofnus
- Hwyliau isel neu newidiadau mewn hwyliau
- Mynd i’w gragen neu’n dawel
- Ddim yn hyderus iawn
- Hunan-barch isel
Gwybyddol
Enghreifftiau o arwyddion gwybyddol:
- Meddyliau negyddol
- Diffyg canolbwyntio
- Diffyg cymhelliant
- Dryswch
- Pryderon dysgu
- Anhawster cychwyn a gorffen tasgau
- Siarad yn negyddol am eu hunain
Ymddygiadol
Enghreifftiau o arwyddion ymddygiadol:
- Hwyrni
- Anhawster mynychu’r ysgol neu aros yn y dosbarth
- Ceisio aros gartref ar gyfer mân salwch
- Diffyg hunan-ofal
- Osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol
- Ymddygiadau heriol (er enghraifft, bod yn ymosodol)
Os yw’ch plentyn yn profi OYSG, mae’n ddefnyddiol meddwl am:
- beth allai fod yn ychwanegu at deimladau eich plentyn am yr ysgol, a
- beth allai fod yn cadw’r teimladau hyn i fynd.
Mae angen i ni geisio deall y rhesymau pam maen nhw’n ei chael hi’n anodd mynd i’r ysgol a meddwl am sut i’w cefnogi.
Pethau i feddwl amdanynt
Oes unrhyw beth yn digwydd i’ch plentyn neu’ch teulu a allai fod wedi arwain at yr OYSG neu ychwanegu ato? Dyma rai enghreifftiau:
- Newidiadau yn yr ysgol. Er enghraifft, mynd o flwyddyn 6 i’r ysgol uwchradd.
- Anawsterau mewn cyfeillgarwch neu ddysgu.
- Newidiadau mewn bywyd cartref neu deuluol. Er enghraifft, rhieni’n gwahanu, profedigaeth, symud tŷ neu fabi newydd.
Gall helpu i wneud nodiadau o unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi effeithio ar eich plentyn.

Gall fod pethau sy’n ei gwneud hi’n haws i’ch plentyn fynd i’r ysgol, ac eraill sy’n gwneud iddo fod eisiau aros gartref. Gallwn feddwl am y rhain fel ffactorau gwthio a thynnu.
Ffactorau gwthio yw pethau sy’n helpu’ch plentyn i fynd i’r ysgol. Ffactorau tynnu yw pethau sy’n gwneud iddo fod eisiau aros gartref.
Gall gwell dealltwriaeth o’r ffactorau hyn helpu gyda’i bresenoldeb.
Gwnewch nodyn o’r ffactorau gwthio a thynnu sy’n effeithio ar eich plentyn. Nid ydym wedi rhestru’r holl ffactorau, ond dyma rai enghreifftiau i’ch helpu i ddechrau arni.
Beth sy’n helpu eich plentyn i fynd i’r ysgol?
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Grwpiau cyfeillgarwch
- Perthynas dda gydag athrawon
- Gweithgareddau allgyrsiol, fel clybiau ar ôl ysgol
- Egwyl ac amser cinio
Beth sy’n ei gwneud hi’n anodd i’ch plentyn fynd i’r ysgol?
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Meddyliau a theimladau am ddysgu
- Anawsterau gyda ffrindiau
- Salwch
- Pryderon
Pa resymau allai fod gan eich plentyn dros fod eisiau aros gartref a pham mae hyn yn bwysig iddo?
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Eisiau aros gartref gyda rhieni/mam-gu/tad-cu/brodyr a chwiorydd gan fod aelod o’r teulu yn sâl
- Defnyddio technoleg, fel consolau gemau neu iPad, gan fod hyn yn rhoi ymdeimlad o lwyddiant iddo a gall gysylltu â ffrindiau
- Cael amser tawel gan ei fod yn teimlo bod yr ysgol yn rhy brysur
- Mae’n ei chael hi’n anodd dychwelyd i’r ysgol ar ôl absenoldeb, fel salwch neu wyliau ysgol, oherwydd efallai ei fod yn poeni am fod ar ei hôl hi gyda’r dysgu
- Osgoi rhannau o fywyd ysgol y mae’n eu gweld yn anodd, fel digwyddiadau ysgol, gan ei fod yn ei chael hi’n anodd newid trefn

Efallai y bydd yn teimlo’n orbryderus neu’n poeni pan fyddwch chi’n gofyn iddo siarad am hyn. Gall esbonio eich bod chi’n deall pam mae’n teimlo fel hyn a’ch bod am wybod mwy am ei safbwyntiau a sut mae’n teimlo helpu.
Os yw’n ei chael hi’n anodd siarad, gallech ofyn cwestiynau penodol i’w helpu i roi trefn ar ei feddyliau a’i deimladau. Mae’n bwysig siarad am gryfderau hefyd, a sut i adeiladu arnynt. Dyma rai cwestiynau y gallech eu gofyn:
- Beth yw’r 3 pheth gorau am yr ysgol?
- Pa 3 pheth wyt ti’n poeni fwyaf amdanynt?
- Gyda phwy wyt ti’n teimlo y gelli di siarad yn yr ysgol?
Efallai y bydd yn ei chael hi’n anodd dweud wrthych wyneb yn wyneb. Gallwch ofyn iddo ysgrifennu hyn ar bapur, mewn e-bost neu mewn neges destun, neu hyd yn oed dynnu llun o sut mae’n teimlo.
Mae gwahanol weithgareddau y gallech eu defnyddio i helpu’ch plentyn i rannu’r hyn mae’n ei feddwl a’i deimlo. Un gweithgaredd i ddechrau yw edrych ar ddiwrnod da a diwrnod gwael. Gall hyn ein helpu i ddysgu mwy am yr hyn sy’n bwysig iddo a pha help y gallai fod ei angen arno i gael mwy o ddiwrnodau da.
Sut olwg sydd ar ddiwrnod DA? |
Awgrymiadau: Beth fyddai’n digwydd… Beth fyddet ti/eraill yn ei wneud? | Sut olwg sydd ar ddiwrnod GWAEL? |
---|---|---|
…rhwng deffro a gadael i fynd i’r ysgol? | ||
…ar y ffordd i’r ysgol? | ||
wrth gyrraedd yr ysgol? | ||
…yn ystod dy wersi? | ||
…yn ystod amser egwyl? | ||
…yn ystod amser cinio? | ||
…ar y ffordd adref? | ||
…wrth gyrraedd adref? |
Offer i’ch helpu i siarad â’ch plentyn
Gallwch lawrlwytho:
Gall plentyn sy’n profi OYSG fod yn anodd iawn i chi fel rhiant a’r teulu yn ei gyfanrwydd.
- Gall gweld eich plentyn yn teimlo’n orbryderus neu’n poeni wneud i chi deimlo’n orbryderus hefyd. Rydyn ni i gyd eisiau i’n plant fod yn iawn a gall deimlo’n anodd pan nad ydyn nhw.
- Mae’n naturiol teimlo llawer o deimladau eraill am anawsterau eich plentyn yn yr ysgol. Efallai y byddwch yn teimlo euogrwydd, cywilydd, dryswch, pryder, dicter, rhwystredigaeth, tristwch neu anobaith. Mae’r holl emosiynau hyn yn iawn ac yn anodd eu teimlo.
- Gall teimlo’r emosiynau hyn a gweld eich plentyn wedi’i gynhyrfu ei gwneud hi’n anodd gwybod sut i ymateb. Gall fod yn anodd dod o hyd i gydbwysedd rhwng gadael i’ch plentyn wybod eich bod chi’n deall pam mae’n ei chael yn anodd a disgwyl iddo fynychu’r ysgol.
- Gall eich gwaith a’ch bywyd o ddydd i ddydd a’r pethau rydych chi eisiau ac angen eu gwneud gael eu heffeithio os nad yw’ch plentyn yn mynychu’r ysgol.
- Efallai y gwelwch fod gadael y tŷ i wneud pethau eraill, fel ymarfer corff, siopa a chymryd rhan mewn hobïau, hefyd yn anodd. Gall methu â gwneud y pethau y mae angen i chi eu gwneud effeithio ar sut rydych chi’n teimlo a’ch amynedd. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd ymateb yn bwyllog a gyda dealltwriaeth.
- Gall peidio â bod yn yr ysgol bob dydd arwain at golli cefnogaeth i chi hefyd oherwydd bydd gennych lai o gyswllt â rhieni eraill ac ni fyddwch yn gallu gweld staff yr ysgol.
- Gall brodyr a chwiorydd gael eu heffeithio hefyd. Efallai y byddan nhw’n llai parod i fynd i’r ysgol os ydyn nhw’n credu bod eu brawd/chwaer yn cael amser ‘braf’ gartref gyda theulu neu ofalwyr. Efallai y bydd gennych chi lai o amser i’w roi iddyn nhw oherwydd bod angen eich ffocws ar y plentyn arall.
Pethau i’w cofio
- Efallai y bydd eich plentyn yn ei chael hi’n anodd nawr, ond gall pethau newid.
- Mae eich plentyn yn ceisio ymdopi â theimladau anodd. Mae’n gwneud ei orau gyda’r sgiliau sydd ganddo ar hyn o bryd.
- Gweithiwch gydag ysgol eich plentyn. Efallai y byddant yn gallu gwneud newidiadau a all helpu.
- Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Ymarfer hunan-ofal
Gallwn feddwl am hyn fel y cyngor sy’n cael ei roi i bobl ar awyren; sicrhewch eich mwgwd ocsigen eich hun yn gyntaf cyn helpu eraill. Dywediad arall yw ‘allwch chi ddim arllwys o gwpan gwag’. Er mwyn gofalu am eraill yn dda, mae’n rhaid i chi ofalu amdanoch chi’ch hunain yn gyntaf.
Gall deimlo’n hunanol i ddechrau, ond allwch chi ddim helpu rhywun arall i anadlu os na allwch chi anadlu eich hun. Mae’n anoddach rhoi cymorth i’ch plentyn os nad ydych yn iawn yn gorfforol ac yn feddyliol hefyd.
Un o’r ffyrdd cyntaf o wneud hyn yw trwy ofalu amdanoch chi’ch hun. Trwy ymarfer hunan-ofal, rydych chi’n dangos i’ch plentyn bwysigrwydd gofalu am eich hun.
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod 5 cam y gallwch eu cymryd i wella eich iechyd meddwl a’ch lles. Gallai’r pethau hyn eich helpu i deimlo’n fwy abl i helpu’ch plentyn.
- Cysylltu – Siarad a gwrando, bod yna, teimlo’n gysylltiedig
- Bod yn actif – Gwnewch beth allwch chi, mwynhewch beth rydych chi’n ei wneud, symudwch eich hwyliau
- Dal i ddysgu – Cofleidiwch brofiadau newydd, gwelwch gyfleoedd, synnwch eich hun
- Rhowch – Eich amser, eich geiriau, eich presenoldeb
- Cymryd sylw – Cofiwch y pethau syml sy’n dod â llawenydd
Ewch i wefan y GIG i gael rhagor o wybodaeth am y 5 cam at les meddyliol.
Cael cymorth
Mae ’na lawer o sefydliadau a gwasanaethau a all eich helpu chi a’ch teulu.