Mae yna lawer o lefydd i gael cyngor iechyd i chi a’ch teulu yng Nghaerdydd.

GIG 111 a gwasanaethau ar-lein

Mae GIG 111 yn wasanaeth am ddim sy’n darparu cymorth meddygol brys a chyngor dros y ffôn neu ar-lein.

Dylech gysylltu â GIG 111 am gyngor cyn mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys os nad yw eich sefyllfa yn peryglu bywyd.

Darganfyddwch fwy ar wefan GIG 111 Cymru neu ffoniwch 111.

Gofal iechyd brys

Os oes argyfwng meddygol, dylech:

Ffonio 999

Ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun arall yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Poen difrifol yn y frest
  • Trafferth anadlu
  • Gwaedu trwm
  • Argyfwng iechyd meddwl
  • Colli ymwybyddiaeth

Bydd y gwasanaethau brys yn helpu ac, os oes angen, yn anfon ambiwlans.

Mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys

Ewch i’ch adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf os oes angen sylw meddygol brys arnoch ar gyfer anafiadau difrifol.

Dewch o hyd i’ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf ar wefan GIG 111 Cymru.

Gallwch hefyd ffonio 111 neu ymweld â gwefan GIG 111 Cymru am gymorth a gwybodaeth.

Fferyllfeydd

Gall fferyllfeydd helpu gyda mân afiechydon a meddyginiaethau dros y cownter. Gallant hefyd gynnig archwiliadau iechyd a brechiadau.

Dewch o hyd i’ch fferyllfa leol ar wefan GIG 111 Cymru.

Meddygon

Gall eich meddyg teulu helpu gydag amrywiaeth eang o faterion iechyd. Gallant gynnig:

  • diagnosis,
  • triniaethau, ac
  • atgyfeiriadau at arbenigwyr.

Dewch o hyd i’ch meddyg teulu lleol ar wefan GIG 111 Cymru.

Bydwreigiaeth

Mae bydwragedd yn cefnogi menywod beichiog a mamau newydd ac yn darparu gofal yn ystod

  • beichiogrwydd,
  • genedigaeth, a’r
  • cyfnod ôl-enedigol.

Darllenwch y Canllaw Beichiogrwydd ar wefan GIG 111 Cymru.

Ymwelwyr iechyd

Mae ymwelwyr iechyd yn cefnogi teuluoedd â babanod a phlant ifanc o’r cyfnod cynenedigol (28 wythnos) nes bod y plentyn yn troi’n 5.

Mae ymwelwyr iechyd yn nyrsys cofrestredig a bydwragedd sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol ym maes nyrsio iechyd y cyhoedd. Maen nhw’n gweithio gyda theuluoedd i nodi anghenion iechyd cyn gynted â phosibl i wella iechyd a lles.

I gysylltu â’ch ymwelydd iechyd, ffoniwch 029 2183 6916 neu darganfyddwch fwy am y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Nyrsys ysgol

Mae nyrsys ysgol yn cynnig cyngor iechyd a chymorth i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd.

Gallan nhw ddarparu cymorth ar gyfer:

  • brechiadau,
  • materion toiled, ac
  • iechyd a lles emosiynol.

Darganfyddwch fwy am wasanaethau Nyrsys Ysgol.

Deintyddion

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am gael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG.

Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth ddeintyddol Caerdydd a’r Fro ar 0300 1020 247 (opsiwn 1).

Gofalu am ddannedd eich plentyn

Gall y Rhaglen Cynllun Gwên roi cyngor i chi am ofalu am ddannedd eich plentyn i’w hatal rhag cael pydredd dannedd.

Iechyd meddwl

Mae gofalu am eich iechyd meddwl yn rhan bwysig o’ch lles cyffredinol.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyswch 2 am gymorth.

Lles

Mae Cadw Fi’n Iach wedi’i gynllunio gan weithwyr iechyd a chleifion o Gaerdydd.

Bydd y wybodaeth ar y wefan yn helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles — p’un a ydych chi:

  • yn paratoi ar gyfer triniaeth,
  • yn gwella ar ôl triniaeth,
  • yn rheoli cyflwr hirdymor, neu
  • eisiau byw’n iachach ac yn fwy egnïol.

Bwyta’n iach, bwyd a maeth

Mae maeth da yn hanfodol ar gyfer cynnal iechyd a lles. Dyma rai awgrymiadau ac adnoddau:

Bwyta’n Iach

Ewch i wefan Cadw Fi’n Iach i gael gwybodaeth am:

Pwysau iach

Gall 10 cam i bwysau iach eich helpu i fagu plant hapus, iach, a gwneud bywyd yn haws hefyd.

Deietegwyr

Dietegwyr yw’r unig weithwyr iechyd proffesiynol cymwys ac wedi eu rheoleiddio sy’n asesu, rhoi diagnosis ac yn trin problemau deiet a maeth.

Ewch i wefan Cadw Fi’n Iach i gael mwy o wybodaeth am ddeietegwyr.

Lleferydd, iaith a chyfathrebu

Mae’r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Plant (ThILl) yn gweithio gyda theuluoedd, staff addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gefnogi sgiliau lleferydd, iaith, cyfathrebu a bwydo plant.

Mae’r gwasanaeth ThILl:

  • yn gweithio gyda phlant rhwng 0 a 16 oed y mae eu trafferthion lleferydd, iaith, cyfathrebu neu fwydo yn effeithio ar eu bywydau.
  • yn ceisio darparu cyngor ymarferol a chymorth i rymuso’r plentyn, a/neu’r bobl o fewn rhwydwaith cymorth y plentyn, i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a bwydo gweithredol.
  • ar gael i gefnogi teuluoedd pan fydd angen. Bydd lefel yr ymwneud â theuluoedd yn dibynnu ar eu hanghenion unigol.

Gall y tîm dysffagia gynnig cyngor a chymorth gyda sgiliau bwydo a llyncu eich plentyn.