Mae gwarchodwyr plant yn cael eu talu i ofalu am blant o dan 12 oed. Maen nhw fel arfer yn gofalu am y plant yn eu cartref eu hunain.
I fod yn warchodwr plant, mae’n rhaid i chi:
- fynd i sesiwn friffio,
- cwblhau hyfforddiant cyn cofrestru,
- cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC),
- bod â gwiriad GDG manwl,
- cofrestru gyd CThEF, a
- talu ffi diogelu data i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sesiwn friffio
Mae’r sesiwn friffio yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i ddod yn warchodwr plant.
Gallwch fynychu trwy ein Tîm Datblygu’r Gweithlu neu PACEY Cymru.
E-bostiwch Datblygu’r Gweithlu: DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
E-bost PACEY Cymru: paceycymru@pacey.org.uk
Hyfforddiant cyn cofrestru
Rhaid i chi fynychu’r hyfforddiant cyn cofrestru ar gyfer gofal plant yn y cartref a phasio 2 uned:
- Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC), a
- Pharatoi ar gyfer Ymarfer Gwarchod Plant.
Bydd angen i chi hefyd gwblhau 3 chwrs:
- Cymorth Cyntaf Pediatrig Lefel 3,
- Diogelu, a
- Diogelwch Bwyd.
Mae’r cyrsiau hyn ar gael trwy ein Tîm Datblygu’r Gweithlu.
E-bost: datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Ar ôl i chi gwblhau’r hyfforddiant cyn cofrestru, bydd angen i chi gofrestru ar-lein gydag AGC.
Gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
Bydd angen i bawb yn eich cartref sydd dros 16 oed gael gwiriad GDG Manwl.
Gwneud Cais am wiriad GDG Manwl.
Cofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF)
Bydd angen i chi gofrestru fel person hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnodion o’ch cyfrifon a’ch derbynebau.
Ffi diogelu data
Mae angen i bob sefydliad neu unig fasnachwr sy’n prosesu gwybodaeth bersonol dalu ffi diogelu data i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth bob blwyddyn.
Rhaid i chi gofrestru gydag AGC cyn i chi gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Angen help?
Gall ein Tîm Cymorth Busnes Gofal Plant eich cefnogi gyda materion fel:
- ariannu,
- cyllidebu,
- marchnata,
- cofrestru, a
- chydymffurfio ag AGC.
E-bost: cymorthbusnesgofalplant@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2035 1362