Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Cysylltwch â ni os ydych:

  • yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
  • yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
  • os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol

E-bost: ContactFAS@Cardiff.gov.uk

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrc
Enw Meini Prawf Llwyddiant Cynnydd
Dylid osgoi defnyddio’r un testun dolen ar gyfer gwahanol gyrchfannau WCAG 2.0 A 2.4.4 69.3%
Ni ddylai delweddau â thestun amgen gwag nodi teitlau WCAG 2.0 A 1.1.1 69.6%
Sicrhewch fod gan y testun ddigon o gyferbyniad WCAG 2.0 AA 1.4.3 84.0%
Mae cwmpas ar goll o rhai o’n tablau. WCAG 2.0 A 1.3.1 98.5%
Mae pennawd ar goll o rhai tablau. WCAG 2.0 A 1.3.1 98.8%
Sicrhewch y gall darllenwyr sgrin ddefnyddio dolenni WCAG 2.0 A 4.1.2 98.8%

Dogfennau PDF ac eraill

Mae teitlau, penawdau, tagiau a nod tudalennau yn eisiau ar rai o’n dogfennau PDF a Word ni. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Ein nod yw gweithio trwy’r materion sy’n weddill a restrir uchod i gyflawni cydymffurfiaeth lawn lle bynnag sy’n bosibl. Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Mai 2025.

Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 30 Mai 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 30 Mai 2025 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 30 Mai 2025.