Darllenwch y telerau ac amodau hyfforddi a’r cod ymddygiad.
Darllenwch y telerau ac amodau.
Meini prawf cymhwysedd
Mae’r rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i fodloni’r gofynion ar gyfer y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fe’i cynlluniwyd hefyd i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Llunir y rhaglen ar sail canlyniadau Dadansoddiad Anghenion Hyfforddiant blynyddol (DAH). Ariennir y rhaglen hon gan Dechrau’n Deg Caerdydd. Nodir isod yr amodau ar gyfer mynychu unrhyw un o’r cyrsiau yn y rhaglen hyfforddi ynghyd â’r wybodaeth am gadw lle.
Mae’r hyfforddiant hwn ar gael i holl weithwyr gofal plant yn y sector gofal plant nas cynhelir, sy’n gweithio mewn lleoliad yn ardal Caerdydd ar hyn o bryd a gall gynnwys gwirfoddolwyr a darparwyr heb eu cofrestru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Cynghorir pob lleoliad gofal plant cofrestredig i fod yn aelodau o sefydliadau ymbarél gan y byddai hyfforddiant a budd-daliadau eraill ar gael wedyn.
Cyfrifoldeb y lleoliad gofal plant
Rhaid i’r rheolwr llinell a bennwyd i gadw’r lleoedd hyfforddi sicrhau ei fod ond yn cadw lle ar gyfer staff a ddyrennir i’w lleoliad gofal plant nhw.
Rhaid i’r rhai sy’n mynychu gadw at ein Cod Ymddygiad. Gall methu â gwneud hynny efallai olygu na chaiff yr unigolyn fynychu cyrsiau yn y dyfodol.
Mae’n bosib y bydd cyrsiau hyfforddi yn cael eu hychwanegu at y rhaglen trwy gydol y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl ohebiaeth gan Ddatblygu’r Gweithlu Caerdydd yn rheolaidd i gael manylion a diweddariadau. Gallwch ofyn am gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio trwy anfon e-bost atom yn DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw egluro’r broses hyfforddi i’w staff. Rhaid i reolwyr sy’n darparu cyfeiriadau e-bost a/neu rifau ffôn symudol eu staff sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r rhesymau dros hyn ac yn cytuno i’w data gael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd. Darllen hysbysiad preifatrwydd y Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu.
Sicrhewch fod y manylion a ddarperir yn gywir ac yn gyfredol, anfonir pob gohebiaeth ar e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarperir wrth gadw lle.
Os oes angen i chi amnewid mynychwr ar gwrs, rhaid cwblhau hyn o fewn 24 awr cyn dyddiad ac amser dechrau’r cwrs. Gall rheolwyr llinell amnewid aelodau o staff sydd ar gwrs drwy gysylltu â Datblygu’r Gweithlu Caerdydd. Gallai methu ag amnewid aelodau o staff cyn cwrs arwain at wrthod mynediad i’n safle a hefyd i’r cwrs hyfforddi.
Gwrthodir mynediad ar ddechrau’r hyfforddiant i unigolion nad ydynt ar y rhestr bresenoldeb.
Cyfrifoldeb y mynychwr yw darllen a deall y canllawiau Iechyd a Diogelwch yn llawn yn yr ystafelloedd hyfforddi.
Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw rhoi gwybod i Datblygu’r Gweithlu Caerdydd cyn i’r cwrs gael ei gynnal os bydd angen cymorth ychwanegol i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus ar unrhyw un sy’n mynychu.
Cadw Lle
Rhaid gwneud pob archeb drwy gysylltu â Datblygu’r Gweithlu Caerdydd drwy DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
Dim ond tîm Datblygu’r Gweithlu all wneud newidiadau, cysylltwch ag aelod o’r tîm os oes angen cymorth arnoch.
Cofiwch y gellid gosod cyfyngiadau ar niferoedd yr archebion sydd ar gael ar gyfer pob tîm fesul cwrs.
Bydd rhestrau wrth gefn yn cael eu cynnal ar y pwynt gwneud cais os yw’r cwrs yn llawn. Bydd Datblygu’r Gweithlu Caerdydd yn cysylltu â’r lleoliad perthnasol os a phan fydd lleoedd ar gael.
Polisi talu a chanslo
Rhaid talu am bob lle cyn y cynhelir y cwrs trwy daliad cerdyn debyd/credyd dros y ffôn.
Bydd angen i leoliadau gofal plant Awdurdod Lleol gyflwyno’u codau cost wrth archebu er mwyn prosesu taliad drwy drosglwyddiad ‘journal’. Dylai cofnodion y trafodion hyn gael eu cadw gan y lleoliad gofal plant.
Bydd cadarnhad o’r archeb yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a roddwyd adeg cadarnhau archeb. Caiff derbynneb ei chyflwyno hefyd gan Borthol Taliadau Capita. Dylai’r lleoliad ei chadw ar gyfer cofnodion ariannol.
Caiff ad-daliadau eu rhoi dim ond os caiff lle ei ganslo o leiaf saith diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. Ni fydd eithriad i’r rheol hon.
Ar gyfer achosion o Covid 19 wedi’u cadarnhau, dim ond ar ôl derbyn cadarnhad swyddogol o ganlyniad positif ar safle adrodd Gov.UK y rhoddir ad-daliad neu y gellir trosglwyddo lle.
Gall lleoliadau amnewid yr aelodau o staff ar gyrsiau hyd at y diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau.
Gallwch newid eich archeb i gwrs hwyrach, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod o leiaf saith diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. I newid archeb cysylltwch â thîm Datblygu’r Gweithlu.
Ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg nad ydynt yn dilyn y polisi canslo a nodir uchod, neu lle mae achosion o beidio â mynychu gan staff gofal plant Dechrau’n Deg, yn unol â thelerau Manyleb Gwasanaeth Dechrau’n Deg, codir y ffi mynychu safonol ar y lleoliad. Ni fydd eithriad i’r rheol hon.
Os bydd Datblygu’r Gweithlu yn canslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir ad-daliadau.
Mae Datblygu’r Gweithlu a’u partneriaid hyfforddi yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i fynychwyr os nad oes taliad wedi dod i law cyn yr hyfforddiant.
Nod Datblygu’r Gweithlu yw cyflwyno safonau uchel o hyfforddiant o ansawdd fydd yn arwain, ysbrydoli a chefnogi holl gyfranogwyr y cwrs.
Ein nod yw creu awyrgylch o frwdfrydedd a chyd-gefnogaeth a pharch rhwng staff y ganolfan, hyfforddwyr a’r mynychwyr er mwyn manteisio i’r eithaf ar brofiadau a chanlyniadau dysgu’r unigolyn.
Anogir pob hyfforddwr a dysgwr i ystyried a gwrando ar safbwyntiau ei gilydd. Cofiwch fod yr hyfforddwyr yn arbenigwyr yn eu maes penodol ac felly gofynnwn i chi barchu hyn. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig ac anogir cyfranogiad cadarnhaol.
Gofynnwn hefyd i chi wneud eich hun yn ymwybodol o iechyd a diogelwch, trwy fod yn ymwybodol o gyfleusterau ac o weithdrefnau brys.
Gofynnwn am gydweithrediad yr holl gyfranogwyr i gadw at ein Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hyfforddi’n cael ei gynnal yn llwyddiannus o fewn amgylchedd diogel. Gall methu â chadw at hyn arwain at waharddiad o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol.
Llenwch ein ffurflenni gwerthuso cwrs ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych i’n galluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth ymhellach.
Siaradwch â’r hyfforddwr os ydych yn teimlo y gallech elwa o gymorth sgiliau hanfodol. Bydd yr hyfforddwr yn trafod pob opsiwn cymorth sydd ar gael i chi mewn modd cyfrinachol.
Peidiwch â defnyddio eich ffonau symudol yn ystod yr hyfforddiant. Os ydych chi’n disgwyl galwad frys, dwedwch wrth yr hyfforddwr ar ddechrau’r sesiwn.
