Manylion
14/05/2026
6:30 pm - 8:00 pm
Ar-lein.
Cwrs yn cael ei redeg gan
Early Years WalesYnglŷn â’r cwrs
Sylfeini am Oes: Yn Cyfoethogi Plentyndod Cynnar drwy Chwarae, Dysgu a Gofal
Mae’r cwrs 90 munud hwn yn cyflwyno ymarferwyr i’r cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ChDGPC), gweledigaeth genedlaethol ar gyfer sicrhau bod babanod a phlant ifanc (0–5) yn tyfu, yn dysgu ac yn ffynnu mewn amgylcheddau hapus, diogel ac ysgogol. Wrth ei galon mae’r egwyddor bod pob plentyn yn unigryw – yn datblygu ar ei gyflymder ei hunan, wedi’i siapio gan berthnasoedd, profiadau ac amgylchedd.
Trwy drafodaeth a myfyrio, bydd ymarferwyr yn archwilio sut mae’r ChDGPC yn cefnogi ymarfer o ansawdd uchel trwy ganolbwyntio ar:
• Y Plentyn Unigryw – cydnabod unigolrwydd, hawliau, a datblygiad holistaidd.
• Y Fframwaith Ansawdd – tri mesur ansawdd: galluogi oedolion, profiadau diddorol, ac amgylcheddau effeithiol.
• Ymarfer ar Waith – arsylwi, cynllunio, chwarae sgematig, a datblygiad yr ymennydd, gan dynnu ar ddamcaniaethau newydd a sefydledig.
• Tegwch a Chynhwysiant – sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo’u cefndir neu allu, yn cael cyfle cyfartal i ffynnu.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd yr ymarferwyr yn
• Deall nodau a gweledigaeth graidd ChDGPC.
• Gallu nodi sut olwg sydd ar ddarpariaeth o ansawdd uchel yn eu lleoliad.
• Ystyried eu rôl eu hunain fel oedolyn sy’n galluogi yn siapio canlyniadau gydol oes i blant.
Archebu
Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Sylwer na ddarperir cinio ar unrhyw un o’r cyrsiau. Mae oergelloedd, tegelli a ffyrnau microdon ar gael os hoffech chi ddod â chinio gyda chi. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhad ac am ddim.
