Manylion

20/06/2026

9:30 am - 4:30 pm

New Pathways, 19 St. Andrew's Crescent, CF10 3DB.

Cwrs yn cael ei redeg gan

New Pathways

Ynglŷn â’r cwrs

Gan ganolbwyntio ar eich lles eich hun, bydd y cwrs hwn yn edrych ar wahanol fathau o straen wrth weithio ym maes gofal plant a beth yw gwydnwch, ac yna’n eich helpu i adeiladu cynllun gweithredu ymarferol i gynyddu eich gwydnwch a gofalu am eich lles eich hun.

Mae’r gair “Gwydnwch” yn cael ei ddefnyddio llawer y dyddiau hyn… Ond beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd, a sut ydych chi’n ei ddatblygu?

• Deall beth yw gwydnwch a pham mae’n bwysig
• Deall gwahanol fathau o straen
• Gallu adnabod eich arwyddion straen
• Gallu adnabod eich ffactorau risg a ffactorau amddiffynnol eich hun
• Gallu datblygu strategaethau ar gyfer adeiladu gwydnwch
Creu cynllun ymarferol i chi’ch hun.

Archebu

Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk

Sylwer na ddarperir cinio ar unrhyw un o’r cyrsiau. Mae oergelloedd, tegelli a ffyrnau microdon ar gael os hoffech chi ddod â chinio gyda chi. Darperir te, coffi a bisgedi yn rhad ac am ddim.


Cyrsiau hyfforddiant darparwyr gofal plant.